Hafod Ganol Farm

Pontypridd, South Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £2,231 yr wythnos
  • £319 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 3 o welyau dwbl
  • 1 gwely sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Ty fferm mawr gyda twb poeth ac ystafell chwaraeon. Perffaith ar gyfer digwyddiad arbennig, aduniad teulu neu ffrindiau. Wedi ei leoli ar ochr mynydd, mae'r llety yn cynnwys twb poeth ac ystafell chwaraeon a golygfeydd anhygoel ar draws y dyffryn. 25 munud o Gaerdydd a 30 munud o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae yna nifer o atyniadau a gweithgareddau gerllaw yn cynnwys Parc Gwledig, Bike Park Wales, Amgueddfa Treftadaeth, National Lido of Wales, nifer o gestyll mawreddog a llawer mwy. Mae yma hefyd gyswllt ffyrdd a rheillfyrdd gwych, a llwybrau mynyddig y gellir ymuno â hwy o'r fferm.   


Llawr Gwaelod

Cegin drawiadol gyda'r holl offer yn cynnwys oergell/rhewgell mawr Americanaidd, popty dwbl Rangemaster a hob nwy, tostiwr, meicrodon a pheiriant golchi llestri. Bar brecwast, bwrdd a chadeiriau i eistedd 8. 

Lolfa yn cynnwys lle tân mawreddog gyda llosgwr coed, soffas cyfforddus a theledu freesat.

Ystafell ddarllen/ail lolfa gyda soffa gyfforddus.

Ystafell iwtiliti gyda basn, peiriannau golchi a sychu dillad. Storfa ar gyfer esgidiau a beic.

Ystafell ymolchi gyda cawod, basn a thoiled.

Ystafell chwaraeon gyda bwrdd pwl a bar (gellir archebu pecyn diod yn ychwanegol).

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gwely maint king a chypyrddau

Ystafell gyda toiled a basn.

Ystafell wely 2 - gwely maint king a chypyrddau dillad

Ystafell wely 3 - gwely dwbl (maint 3/4), cypyrddau dillad.

Lolfa/ystafell ddarllen/ystafell chwarae gyda soffa, teledu a gemau bwrdd.

Ystafell ymolchi gyda baddon, uned gawod, toiled a basn. 

Ystafell wely 4 - gwely dwbl

Ystafell wely 5 - gwely dwbl

Ail lawr 

Ystafell gwely 6 - ystafell deuluol gyda gwely maint king a gwely sengl.

Gardd

Lawnt fawr yn ffrynt y ty gyda twb poeth. Bwrdd, cadeiriau a barbaciw. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn amrywio, ond gall gynnwys te, coffi, siwgr, llaeth, cacennau a bisgedi cartref. Gadewch i ni wybod os ydych yn dathlu rhywbeth arbennig ac fe wnawn ychwanegu syrpreis bach ychwanegol         
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig    
  • Trydan a gwres canolog yn gynwysedig    
  • Cadair uchel a chot trafeilio ar gael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot      
  • Wi-fi ar gael
  • Darperir y canlynol: Cegin - pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, siampw, sebon cawod a 2 rolyn papur i bob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol     
  • Archfarchnadoedd yn danfon nwyddau i'r llety     
  • Nid oes lle i barcio yn yr eiddo, ond gallwch ddadlwytho o flaen yr eiddo. Mae mannau parcio ar gael gerllaw (meysydd parcio â mesurydd gydag 1 lle ar gael trwy drwydded - mae trwydded wedi'i lleoli y tu mewn i'r tŷ). Gellir dod o hyd i feysydd parcio ychwanegol o fewn taith gerdded 5-10 munud i'r eiddo. 
  • Dim ysmygu tu mewn a dim anifeiliaid anwes    
  • Dim partion stag na plu gwyllt!   

Gwybodaeth Hygyrchedd

Y drysau i'r ystafelloedd gwely a'r ystafelloedd ymolchi i gyd yn 2'9"    

Lle parcio fflat o flaen y ty. Digon o le i fynd mewn ac allan o gerbydau      

Mynediad i'r holl ystafelloedd gwely i fyny grisiau    

Lleoliad