Bwthyn Gwyr

Gower, South Wales

  • 4 Star
  • Bwthyn ar Benrhyn Gwyr, 5 munud o gerdded o'r arfordir a rhai o olygfeydd mwyaf anhygoel Cymru.    

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £570 yr wythnos
  • £81 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 5:00pm
  • Amser gadael: 9:00am

Disgrifiad

Mae Bwthyn Gwyr yn lety 3 llofft ym mhentref tawel Southgate ar Benrhyn Gwyr, dafliad carreg o Glwb Golff Pennard a 5 munud o gerdded o'r arfordir a golygfeydd gwych Pobbles a Bae Three Cliffs. Gyda parc dwr dan do mwyaf Cymry ond 8 milltir i ffwrdd (LC yn Abertawe), dyma leoliad gwych ar gyfer gweithgareddau megis golff, cerdded a nofio.

Llawr Gwaelod

Mae'r bwthyn moethus hwn ar Benrhyn Gwyr gyda lolfa heulog sy'n cynnwys soffa a chadeiriau a drysau patio allan i'r ardd, tân trydan, teledu gyda Freesat, chwaraewr DVD, ffilmiau, gemau bwrdd a chysylltiad i'r rhyngrwyd Wi-fi am ddim. 

Cegin/ystafell fwyta gyda'r unedau angenrheidiol yn cynnwys hob serameg, popty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, tostiwr, tegell, haearn smwddio, llestri ar gyfer 6, bwrdd a 6 cader. Ystafell iwtiliti arwahan gyda peiriannau golchi a sychu dillad.

Ystafell wely gyda gwely maint king, cypyrddau dillad.

Ystafell wely gyda 2 wely sengl ac ystafell sengl - y ddwy wedi eu dodrefni gyda chypyrddau dillad.

Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod bwer oddi mewn, rheilen sychu tywelion, pwynt siafio, teiliau ar y waliau a llawr serameg.

Gardd

Gardd flodau y tu allan gydag ardal patio/barbaciw.  

Gwybodaeth Ychwanegol

Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig      

Gwres canolog nwy a thrydan yn gynwysedig      

Mae yma ramp at y drws cefn ar gyfer cadair olwyn     

Cot a chadair uchel ar gael os dymunir. Mae cost fechan o £5.00 yr un ar gyfer glanhau'r offer cyn ac ar ôl eu defnyddio. Dewch â dillad eich hun ar gyfer y cot          

Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu   

Mae ardal parcio ar gyfer 2 gar gerllaw'r bwthyn   

Lleoliad