Hafan y Ddinas Cardiff Apartment 1

Cardiff, South Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £898 yr wythnos
  • £128 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r afon
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 3 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Trwydded parcio ar gael

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 15:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei leoli yng nghanol Caerdydd a dros yr afon o Stadiwm Principality, mae'r llety hwn yng Nghaerdydd yn berffaith ar gyfer gwyliau yn y ddinas. Wedi ei leoli ar Fitzhamon Embankment, mae'r brif orsaf drenau a phencadlys newydd y BBC ond ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd. Mae'n ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau yn y Stadiwm, penwythnosau siopa, neu yn le braf ar gyfer gwyliau i ffwrdd gyda teulu neu ffrindiau. Gellir cerdded i weld Castell Caerdydd, Gerddi Soffia, Neuadd Dewi Sant, Stadiwm Dinas Caerdydd a nifer o fwytai, bariau a chanolfannau siopa. 

Llawr Gwaelod Isaf

Cegin, ardal fwyta a lolfa fawr agored. Soffa siâp L a gwely soffa dwbwl. Teledu ar y wal.   

Cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, peiriant golchi/sychu dillad, oergell, rhewgell, tegell, tostiwr, peiriant gwneud coffi, bar brecwast a stolion.  

Ystafell wely 1 - gwely maint king gyda ffenestri mawr yn edrych allan i gefn yr adeilad. Teledu.

Ystafell wely 2 - 1 gwely sengl gyda ystafell ymolchi ynghlwm yn cynnwys cawod, toiled a basn. Teledu a DVD.    

Ystafell wely 3 - 2 wely sengl. Teledu.  

Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.    

Tu Allan

Dim ardal tu allan ond mae'r ddinas ar garreg y drws.   

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Llety gwyliau braf yng Nghaerdydd wedi ei leoli ar y llawr gwaelod isaf ond heb fod ag unrhyw risiau i fynd mewn iddo  
  • Yn bendant ddim i gael ei logi ar gyfer unrhyw bartion  
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig  
  • 2 sychwr gwallt
  • Gemau bwrdd a dewis o DVDs a llyfrau  
  • Cadair uchel a cot trafeilio ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot   
  • Wi-Fi ar gael
  • Nid yw parcio yn gynwysedig ond mae digon o opsiynau ar gael gerllaw - parcio stryd am ddim 5 munud i ffwrdd. Bydd manylion llawn a map yn cael eu gyrru i'r gwesteion.   
    Mae teithio gyda trên neu fws yn ddelfrydol gan fod y llety ond taith gerdded fer o'r gorsafoedd hyn 
  • Dim ysmygu
  • Dim anifeiliaid anwes
  • Gellir cysgu 7 ar gais ar wely soffa dwbwl neu wely tynnu allan ychwanegol (rhaid gwneud cais pan yn archebu)  

Gwybodaeth ar gyfer Pobl Anabl neu Lai Abl  

  • Gellir cael mynediad i'r llety ar hyd llwybr ar chydig o lethr ac yna 2 step fychan ar waelod y llwybr. Nid yw'r mynediad yn hollol wastad 
  • Wrth fynd i mewn mae yna stepen 10mm o uchder i lefel y lolfa   
  • Wrth fynd i'r cyntedd o'r lolfa mae yna stepen 10mm i lawr i lefel y llawr   
  • Mae'r holl ystafelloedd ar y llawr gwaelod

Lleoliad

Wedi ei leoli ar Fitzhamon Embankment, sydd gyferbyn a Stadiwm Principality ac yng nghanol y ddinas. Dyma lety ar y llawr gwaelod isaf, mewn bloc preswyl preifat sy'n cynnwys 4 fflat. Y lleoliad canol dinas delfrydol gyda caffis, bariau, siopau a bwytai o gwmpas. Bob dydd Sul mae marchnad fwyd ar y stryd o flaen y llety gyda stondinau yn gwerthu cynnyrch lleol a bwyd o bob cwr o'r byd. 

Mae Stadiwm Principality, sydd ar draws yr afon, wedi llwyfannu rownd derfynol Cyngrair y Pencampwyr a Chwpan Rygbi'r Byd, a digwyddiadau Olympaidd. Mae'r Stadiwm yn unigryw gan ei fod yng nghanol y ddinas, sy'n sicrhau fod awyrgylch diwrnod gêm neu ddigwyddiad yn rhywbeth arbennig.

Mae Bae Caerdydd yn gartref i'r pwll nofio Olympaidd a phyllau hwyl, Canolfan Dwr Gwyn, a nifer o fwytai a bariau. Mae'r Bae yn lyn dwr croyw gydag Argae Bae Caerdydd yn cadw'r môr i ffwrdd. Mae'r Bae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer hwylio, sgio-jet a mwy. Gellir dal tacsi dwr o'r Bae ar hyd yr afon i'r Stadiwm.

Cerdded

Mae Parc Biwt gerllaw gyda llwybrau cerdded gwych (0.2 milltir) 

Beicio

Caerdydd yw cartref Felathon Cymru. Mae yna hefyd lawer o lwybrau addas ar gyfer teuluoedd gan gynnwys Llwybr Tâf (0.2 milltir)   

Chwaraeon Dwr

Canolfan Genedlaethol Dwr Gwyn Caerdydd (CIWW) - canwio a chyfleusterau rafftio dwr gwyn, yn cynnwys caiacio ayb. Gellir llogi'r holl offer (2 filltir)  

Golff

Mae nifer o gyrsiau yn yr ardal, yn cynnwys Celtic Manor a Parc Cottrell (7 milltir)    

Marchogaeth

Ysgol Farchogaeth Caerdydd - wedi ei hamgylchynu gan 35 acer o barcdir yn agos i ganol y ddinas. Gellir ymgymryd â phob agwedd o farchogaeth (1 milltir)   

Traethau

Bob haf mae yna draeth artiffisial ym Mae Caerdydd. Mae traethau eraill ym Mhenarth ac Ynys y Bari (9 milltir)