- £651 yr wythnos
- £93 y noson
- 5 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Cot
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Parcio ar y stryd
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae’r golygfeydd di-dor dros orwelion y ddinas o’r apartment gwyliau moethus yma yng Nghaerdydd wir yn ysblennydd. Tydi Pen Dinas ond tafliad carreg o Stadiwm y Principality, y castell a’r holl atyniadau gwych sydd gan canol y ddinas i’w chynnig. Yn chwaethus a modern, mae’r apartment newydd yma yn berffaith ar gyfer gwyliau dinesig yng Nghaerdydd, trip siopa, digwyddiad chwaraeon neu i gael criw o ffrindiau/teulu at ei gilydd. Mae popeth yr ydych ei angen yng Nghaerdydd ar stepen eich drws. Mae’r apartment newydd sbon yma yn un o’r llefydd mwyaf dymunol yng Nghaerdydd ar hyd stryd goedwigol brydferth Cathedral Road.
Golygfeydd ysblennydd dros y brifddinas.
Apartment 5ed llawr gyda mynediad drwy lifft.
Ardal fwyta, cegin a lolfa fawr agored. Teledu gyda DVD, Blueray, Smart TV yn cynnwys apiau. Gwely soffa ddwbl yn y lolfa.
Cegin uwch-fodern ag offer llawn gyda hob seramig wedi ei ymgorffori, oergell/rhewgell, popty, meicrodon, peiriant golchi llestri a pheiriant coffi Nespresso.
Ystafell 1 – Y brif ystafell wely gyda gwely king (neu gall gael ei osod fel dau wely sengl 6’3” – plîs gofynnwch am hyn wrth archebu) gydag en-suite gyda cawod, toiled a sinc.
Ystafell 2 – Ystafell ddwbl gyda gwely king (neu gall gael ei osod fel dau wely sengl 6’3” – plîs gofynnwch am hyn wrth archebu) gydag en-suite gyda cawod dros y bath, toiled a sinc.
Ystafell iwtiliti gyda pheiriant golchi/sychu dillad, bwrdd a haearn smwddio.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae’r apartment gwyliau moethus yma yng Nghaerdydd wedi ei leoli ar y 5ed llawr gyda mynediad drwy lifft a 3 step bach o’r hôl i fyny i’r apartment.
- Mae’r apartment yn berffaith addas i 4 ond mi all gysgu 6 gyda’r gwely soffa ddwbl.
- Ni ddylid heirio’r apartment ar gyfer partïon – yr ydym yn llym iawn gyda’r rheol hwn.
- Wedi ei leoli mewn datblygiad preswyl.
- Gwres a thrydan yn gynnwysedig.
- Dillad gwlau, tywelion dwylo a bath yn cael eu darparu.
- 2 sychwr gwallt.
- Gemau bwrdd a chasgliad o DVD’s a llyfrau.
- Cadair uchel a chot deithiol ar gael. Plîs gofynnwch am hyn wrth archebu a plîs dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
- Wi-fi yn gynnwysedig (am ddim).
- Nid yw parcio’n gynnwysedig ond mae digon o opsiynau ar gael gerllaw – mae yna barcio stryd am ddim 5 munud o gerdded i ffwrdd. Mi fydd manylion llawn a map yn cael eu darparu i westeion. Mae cyrraedd ar dren neu fws yn ddelfrydol gan nad yw’r llety yn bell o’r orsaf drenau a’r orsaf fysiau.
- Dim ysmygu.
- Dim anifeiliaid anwes.