Bwthyn y Trisant

Cardiff, South Wales

  • Bwthyn â chymeriad yn hen dref Llantrisant gyda golygfeydd gwych o Fro Morgannwg.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £388 yr wythnos
  • £55 y noson

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • Tân agored neu stôf goed

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Barbaciw
  • Parcio ar y stryd

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 15.00
  • Amser gadael: 10.30

Disgrifiad

Bwthyn â chymeriad yn hen dref Llantrisant gyda golygfeydd gwych o Fro Morgannwg. Mae'r bwthyn yn leoliad perffaith i ymweld a darganfod De Cymru, gydag Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Bannau Brycheiniog a dinas Caerdydd i gyd o fewn taith fer. Delfrydol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau sy'n cymryd lle mewn lleoliadau poblogaidd yng Nghaerdydd megis Stadiwm Principality, Gerddi Soffia a Chanolfan y Mileniwm.

Llawr Gwaelod

Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys sinc Belfast, peiriant golchi dillad, popty a hob trydan, oergell/rhewgell, meicrodon, tostiwr a thegell.

Bwrdd bwyta gyda lle i 4 eistedd.

Lolfa gyda soffas i 4 (yn cynnwys gwely soffa dwbwl), lle tân traddodiadol gyda stôf goed (darperir y fasgedaid gyntaf o goed).

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl.

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl.

Ystafell ymolchi - uned cawod, toiled a basn.

Tu Allan

Patio palmantog y tu blaen i'r llety gyda bwrdd a chadeiriau a golygfeydd trawiadol ar draws Bro Morgannwg.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Parcio - digon o le ar y ffordd o flaen y bwthyn  
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau newydd. Ystafell ymolchi: sebon, papur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 
  • Dillad gwelyau, tywelion, haearn smwddio a sychwr gwallt yn gynwysedig   
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Hyd at 2 gi sy'n ymddwyn yn dda. Ni ddylid gadael cŵn ar ben eu hunain yn y llety a dylid gofalu nad ydynt yn dringo ar y dodrefn  
  • Cot a chadair uchel ar gael os nodir hynny ymlaen llaw. Dewch â dillad eich hun i'r cot   
  • Dim ysmygu

* Yn aros am raddio swyddogol - disgwylir 4*  

Lleoliad

Cyn fwthyn ffarmwr mewn rhes teras oedd yn un o'r rhai cyntaf i gael eu hadeiladu yn Llantrisant. Mae hanes cyfoethog i'r dref, sydd bellach yn gartref i'r Mint Brenhinol. Mae yna ganolfan siopa yn Talbot Green, lai na hanner milltir i ffwrdd. Mae hanes gwych i Lantrisant, yn cynnwys goresgyniadau Rhufeinig a Normanaidd. Roedd gŵyr y bwâu hir (lonhgbowmen) o'r dref yn enwog am eu sgiliau ymladd ac wedi chwarae rôl allweddol mewn ambell i wrthdaro yn cynnwys Brwydr Crecy yn 1346. Roedd Dr William Price hefyd yn dod o'r dref - ffigwr cwlt yn Hanes Cymru. Yn archdderwydd, llawfeddyg a ffigwr chwyldroadol, ef oedd sylfaenydd amlosgiadau yn y Brydain fodern. 

Ond 20 munud i ffwrdd mae dinas Caerdydd ble cynhelir digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys cyngherddau, Twrnament Rygbi'r Chwe Gwlad, gemau pêldroed rhyngwladol a chlwb, gemau criced rhyngwladol, hanner marathon a marathon llawn, treiathlons, a llawer mwy.

Mae'n werth ymweld â Phrofiad y Mint Brenhinol, tra bo'r 'Lido' Fictorianaidd ym Mhontypridd, Parc Treftadaeth Rhondda, a Parc Beiciau Cymru yn atyniadau poblogaidd. Gellir teithio i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn 25 munud. 

Traethau

Mae nifer o draethau ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn cynnwys Ynys y Barri, Ogmor a thraeth Southerndown (17 milltir) 

Golff

Mae cyrsiau gerllaw yn cynnwys y Vale Resort (3.4 milltir) a'r enwog Celtic Manor. Y cwrs agosaf yw Clwb Golff Llantrisant a Phontyclun (1.1 milltir)  

Beicio 

Mae yna lwybrau drwy'r fforestydd o fewn milltir ac mae Parc Beiciau Cymru yn cynnig beicio mynydd gwych (14 milltir)  

Ffyrdd gwych i feicio o'r bwthyn gyda nifer o ddringfeydd gerllaw, neu gellir feicio ar ffyrdd gwastad Bro Morgannwg (0.1 milltir)   

Marchogaeth 

Mae Canolfan Farchogaeth Talygarn yn cynnig gwersi (3.9 milltir)

Chwaraeon Dŵr

Canolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol Caerdydd (CIWW) (15 milltir)