- £455 yr wythnos
- £65 y noson
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Bwthyn moethus a chlud i ddau wedi ei amgylchynu gan dir coediog a bryniau tonnog gyda thafarn leol wych a bwyty ychydig funudau i ffwrdd ar droed. Delfrydol ar gyfer gwyliau rhamantus i ddau a dim ond ugain munud i ffwrdd o Gaerdydd. Gyda Pharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog a Threftadaeth Arfordir Morgannwg i gyd daith fer i ffwrdd yn y car mae’n lleoliad gwych i fwynhau’r hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig.
Llawr Gwaelod
Lolfa, cegin ac ystafell fwyta ar gynllun agored. Cegin wedi ei dodrefnu’n llawn gydag oergell a rhewgell maint llawn, microdon, gwneuthurwr coffi a pheiriant golchi llestri. Bwrdd bwyta yn eistedd pedwar a’r ardal fyw yn gyfforddus gyda soffa siâp L, teledu, freeview a DVD.
Y brif ystafell wely gyda gwely dwbl, cwpwrdd, cwpwrdd dillad a ffenestr do.
Prif ystafell ymolchi - ystafell wlyb steilus/ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn, toiled a sinc.
Tu Allan
Mae yna ardal deras yn y blaen gyda bwrdd a chadeiriau gyda digonedd o ofod agored gyda 50 acer i’w mwynhau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Pecyn croesawu wrth i chi gyrraedd sydd yn cynnwys detholiad o gynnyrch Cymreig lleol.
Eiddo llawr gwaelod gyda mynediad i gadeiriau olwyn a chawod cerdded i mewn.
Darperir dillad gwely a thywelion .
Trydan a gwres canolog yn gynwysedig.
Cadair uchel, cot teithio. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Wi-fi ar gael.
Detholiad o lyfrau gemau a dvd ar gael.
Dim ysmygu tu mewn a dim anifeiliaid anwes.
Darperir y canlynol ar gyfer eich arhosiad;
Cegin: halen a phupur, rôl cegin, hylif golchi llestri/tabledi golchi llestri, cadachau llestri a sgwrwyr, ffoil a chling ffilm.
Ystafell ymolchi: Sebon golchi dwylo, 2 doiled rôl.
Cynnyrch glanhau cyffredinol: bleach, golchwr cawod, chwistrellydd gwrthfiotig a.y.b.