- £6,587 yr wythnos
- £941 y noson
- 20 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Ystafell chwaraeon
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 14 o welyau sengl
- 3 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 4 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
Awyr Agored
- Parcio ar y stryd
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Llety ar gyfer grwpiau mawr ynghanol Bae Caerdydd - perffaith ar gyfer grwpiau o ffrindiau, dathliadau teuluol, partion stag ac iâr. Mae’r llety hunan-ddarpar hwn wedi ei gynllunio mewn steil unigryw gyda thema bwtîc. Mae’n cynnwys teledu plasma trawiadol 50" gyda phecyn chwaraeon a ffilmiau Sky a wifi am ddim drwy’r holl adeilad. Wedi ei leoli yng nghalon Bae Caerdydd, mae ganddo fwytai, bars, caffis a siopau di-ri ar drothwy ei ddrws, heb sôn am Ganolfan y Mileniwm, sinema, casino a llawer mwy. Mae canol y ddinas, yn cynnwys Stadiwm y Mileniwm, mwy o fwytai, tafarndai, siopau a chlybiau poblogaidd hefyd o fewn cyrraedd hwylus.
Mae’r llety hunan-ddarpar hwn ym Mae Caerdydd hefyd ar gael ar gyfer cyfarfodydd corfforaethol, cynadleddau a hyfforddiant. Cysylltwch â ni am y cyfraddau corfforaethol.
Is-lawr
Ystafell gawod gyda thoiled a thoiled arall arwahan.
Bwrdd pwl a phêl droed bwrdd
Llawr Gwaelod
Lolfa fawr gyda 3 soffa gyfforddus, cadeiriau a gwely soffa dwbl. Mae’r teledu plasma 50" yn cynnwys chwaraeon a ffilmiau Sky a chwaraewr DVD.
Cegin ac ardal fwyta helaeth gyda bwrdd mawr. Mae’r gegin gyda'r holl offer, yn cynnwys popty nwy mawr, peiriant golchi llestri ac oergell/rhewgell.
Ystafell ymolchi yn cynnwys bath gyda chawod oddi mewn a thoiled.
Llawr Cyntaf (Ffrynt y tŷ)
Ystafell wely fawr gyda 4 gwely sengl ac 1 gwely bync triphlyg (dwbwl ar y gwaelod a sengl uwchben).
Ail Lawr (Ffrynt y tŷ)
Ystafell wely fawr gyda 4 gwely sengl a 2 wely bync triphlyg.
Ail Lawr (Cefn y tŷ)
Ystafell wely gyda 6 gwely sengl.
Ystafell gawod.
Toiled arwahan.
Gardd
Llety gyda byrddau gardd a chadeiriau ar y patio. Y llecyn perffaith i fwynhau’r heulwen neu ambell ddiod gymdeithasol yn ystod eich arhosiad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dillad gwely, tywelion bath a dwylo yn gynwysedig
*Noder y gellir uno’r holl welyau sengl i ffurfio gwelyau dwbl mawr ar gais.
Gwres a thrydan yn gynwysedig
Pecyn chwaraeon a ffilmiau Sky yn gynwysedig
Caniateir anifeiliaid anwes – ar gais (gwiriwch hyn cyn archebu)
Wifi am ddim drwyddo draw
Ni ddarperir llefydd parcio penodol ond gellir parcio ' Talu ac arddangos' ar hyd y strydoedd o amgylch y llety.
Bydd unrhyw archeb a geir eu ganslo ar gyfer 'Cardiff Bay Lodge yn destun i ffi o £500. Felly, rydym yn cynghori gwesteion i gael yswiriant gwyliau yn ei le