- £582 yr wythnos
- £83 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae llety moethus 5 seren Ger-y-llyn yn cynnig y gorau o ddau fyd. Mae ganddo holl fanteision lleoliad gwledig prydferth mewn pentref cefn gwlad traddodiadol gyda 2 dafarn, ac eto ond 20 munud o ganol Caerdydd a munudau yn unig o briffordd yr M4. Mae Cwrs Golff Morgannwg, Cwrs Golff Parc Cottrell, arfordir De Cymru, Stadiwm y Mileniwm, Stadiwm Swalec a Stadiwm Dinas Caerdydd i gyd gerllaw.
Mae Ger-y-llyn un o ddau apartment gwyliau moethus yng Nghaerdydd wedi ei osod o fewn 20 acer o dir ar 240 acer y perchnogion lle caiff ceffylau rasio eu magu. Mae’r tir yn cynnwys llyn bychan (gyda ffens o’i amgylch a mynediad trwy giât) gyda digonedd o fywyd gwyllt a physgod, a bydd y plant wrth eu bodd yn bwydo’r hwyaid, cwrdd â’r defaid anwes a chwarae ar y gerddi mawr.
Llawr Gwaelod
Mae’r holl ystafelloedd ar y llawr gwaelod gyda gwresogyddion trydan drwyddo draw ac yn cynnwys ystafell agored yn gyda lolfa/lle bwyta/cegin a dwy ystafell wely.
Lolfa / lle bwyta: Teledu sgrin fawr a chwaraewr DVD, radio/CD, mynediad Wi-fi a soffa cornel lledr mawr a chyfforddus (gellir ei ddefnyddio fel gwely soffa i gysgu 2 ychwanegol hefyd)
Ardal y gegin: Popty trydan, micro-don, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, bar brecwast a stolion uchel sy’n eich galluogi i wneud y mwyaf o’r golygfeydd gwych dros y llyn a’r wlad o’ch amgylch.
Ystafell wely 1: Dau wely sengl ac ystafell ymolchi en suite gyda chawod dros y bath, toiled a basn ymolchi.
Ystafell wely 2: Gwely dwbl ac ystafell ymolchi en suite gyda chawod, toiled a basn ymolchi.
Gardd
Ardal patio gyda dodrefn gardd
Gerddi yn wynebu’r de yn amgylchynu’r llyn pysgota.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Ystafell iwtiliti ar wahân tu allan sy’n cael ei rhannu rhwng y ddau apartment gwyliau 5 seren Caerdydd. Yn cynnwys peiriant golchi a pheiriant sychu dillad.
- Drysau llydan sy’n caniatáu mynediad i gadair olwyn.
- Ffens ddiogel o amgylch y llyn, serch hynny ni ddylid gadael plant i chware o’i amgylch heb oruchwyliaeth.
- Darperir dillad gwely, tywelion a sychwr gwallt
- Cost ychwanegol o £20 y noson os gofynnir am y wely soffa ac mae mwy na 4 o westeion yn eich grwp (uchafswm o 6 gwestai)
- Gellir darparu cot a chadair uchel ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Digonedd o le parcio ar gael
- Dim anifeiliaid nac ysmygu
- Storfa ar gyfer cadw beiciau / offer golff ayb
- Wifi yn gynwysedig
- Mae’r ddau apartment gwyliau yma yng Nghaerdydd yn derbyn gwyliau byr drwy gydol y flwyddyn a gellir eu harchebu gyda’i gilydd i letya grwpiau mwy.