Caban Cwm Hedd

Newport Gwent, South Wales Borderlands

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,158 yr wythnos
  • £165 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r llyn

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 3 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae Caban Cwm Hedd yn llety hunan ddarpar sy'n derbyn anifeiliaid anwes ar fferm weithiol. Gyda golygfeydd anhygoel dros y llyn sy'n llawn bywyd gwyllt, yn cynnwys glas y dorlan, gwas y neidr a mwy o adar a phryfed. Gyda cyswllt trafnidiaeth cyhoeddus gwych gerllaw, yn cynnwys rheilffordd i Lundain a mynediad hawdd i rwydwaith yr M4 i Gaerdydd, Abertawe, Bryste a Bath. I'r gogledd gellir mwynhau Sir Fynwy, Y Fenni a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Castell Caerffili yn un o'r rhai mwyaf ysblennydd yng Ngorllewin Ewrop ac ond taith fer i ffwrdd. O fewn y blynyddoedd diwethaf mae'r ardal hon wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau mawreddog yn cynnwys uwchgynhadledd NATO, Cwpan Ryder, a rownd derfynol Cyngrair Pencampwyr UEFA. Gall y llety gysgu hyd at 6 drwy ddefnyddio gwely tynnu allan ychwanegol. 

Llawr Gwaelod

Lolfa ac ardal fwyta, gyda drws deu-blyg yn agor allan i'r patio. Teledu, chwaraewr DVD a dewis o lyfrau a gemau. Stôf goed. 

Cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell a rhewgell, popty trydan a hob nwy, meicrodon, tostiwr a thegell. Bwrdd a chadeiriau i chwech. 

Ystafell wely 1 - dau wely sengl a chwpwrdd dillad.

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl, cwpwrdd dillad a golygfeydd o'r llyn. Yn arwain drwodd i ystafell 3.

Ystafell wely 3 - gwely sengl gyda mynediad drwy ystafell 2 (un gwely tynnu allan ychwanegol ar gael - gwnewch gais pan yn archebu)

Ystafell ymolchi - gyda baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.  

Tu Allan

Patio mawr yn edrych allan dros y llyn, gyda soffa a chadeiriau rattan, a simdde. Mae'r ardd wedi ei chau mewn gyda ffens bren. 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr. 
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig 
  • Mae gan y ty hwn gyflenwad dwr ei hun sydd yn cael ei ffiltro 
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig     
  • Wifi ar gael
  • Basgedaid cychwynnol o goed yn gynwysedig - mwy o goed i'w prynu gan y perchennig
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Dim ysmygu tu mewn y bwthyn 
  • Anifeiliaid anwes - hyd at 2 gi. Ni ganiateir iddynt fynd mewn i'r llyn   
  • Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau    
    • Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol     
  • Digon o le parcio 
  • Ni chaniateir archebu ar gyfer partion

Gwybodaeth Hygyrchedd

Y llety i gyd ar y llawr gwaelod

Drysau i bob ystafell yn 2'9" o led

Lle parcio gwastad wrth ochr y llety, gyda digon o le i fynd mewn ac allan 

Mae yna lip ar y prif ddrws, ac ychydig o godiad rhwng yr ardal fyw a'r ystafell ymolchi, gyda'r gweddill yn lefel 

Os na fydd yr eitemau ailgylch'n cael eu glanhau a didolui, bydd £20 yn cael ei gadw'n ol.

Lleoliad