Bwthyn Tawel

Abergavenny, South Wales Borderlands

  • 4 Star
  • Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch lonyddwch tawel y bwthyn gwyliau hwn yn Y Fenni. Gyda golygfeydd anhygoel ar draws y dyffryn, y Mynyddoedd Duon a Bannau Brycheiniog

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £403 yr wythnos
  • £58 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 ystafell ymolchi
  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Cot
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 15:30
  • Amser gadael: 10:30

Disgrifiad

Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch lonyddwch tawel y bwthyn gwyliau hwn yn Y Fenni. Golygfeydd aruthrol ar hyd y dyffryn, y Mynyddoedd Duon a Bannau Brycheiniog - mae’r bwthyn hwn yn fan delfrydol ar gyfer gwyliau rhamantus. Mae hefyd yn le perffaith ar gyfer gwyliau i deulu bach. Mae naws hyfryd o fod yn bell o bopeth arall, ond mae’n ddigon agos at drefydd ac atyniadau cyfagos.

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw a bwyta ar gynllun agored, gyda digon o le i 6 wrth y bwrdd bwyd. Soffa gyfforddus fawr gyda dwy gadair fawr esmwyth. Casgliad mawr o lyfrau a gwybodaeth i ymwelwyr. Teledu gyda Sky Freeview, chwaraewr DVD, radio a chwaraewr CD.

Cegin fodern gydag oergell a rhewgell ar wahân, peiriant golchi llestri, peiriannau golchi a sychu dillad, hob trydanol, micro-don a phopty ffan.

Ystafell ymolchi gyda chawod maint dwbl a basn a thoiled.

Llawr Cyntaf

Prif ystafell wely gyda gwely dwbl a chot. Dwy ffenestr fawr ar y to gyda golygfeydd anhygoel ar hyd y dyffryn a’r tir fferm.

Gardd

Mae’r bwthyn wedi ei leoli mewn gardd sydd yn 2 erw, ac yn cynnwys perllan, gardd flodau a phadog mawr yn cynnwys ardal fawr amgaeedig. Mae yno hefyd ardal batio breifat gyda barbeciw a mainc.

Mae gan y bwthyn garej ei hun sy’n darparu lle delfrydol i storio beiciau ac offer eraill.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgr, llaeth a chacennau cri neu fisgedi.
  • Cadair uchel, cot teithio a chot gwely ar gael (gofynnwch i archebu). Dewch â dillad gwely eich hun ar gyfer y cot.
  • Dillad gwely a thywelion yn cael eu darparu
  • Trydan a gwres canolog olew yn gynwysedig
  • Darperir yr eitemau canlynol hefyd yn y bwthyn...
  • Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri, powdr golchi, llieiniau llestri a sgwriwr.
  • Ystafell ymolchi: sebon llaw hylif, 3 papur toiled yr wythnos (2 am wyliau byr).
  • Offer golchi cyffredinol: cannydd, golchwr cawod, a chwistrellydd gwrthfacteria ayyb.
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
  • Mae archfarchnadoedd Sainsbury’s, Tesco a Waitrose yn gallu cludo archebion i’r bwthyn.

Lleoliad