Ty Mawddwy

Dolgellau, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Bwthyn gwyliau hunan-ddarpar 5 seren yng Ngogledd Cymru gyda hawliau pysgota ar yr Afon Dyfi. Y llecyn perffaith ar gyfer gwyliau cefn gwlad traddodiadol yng Nghymru.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £522 yr wythnos
  • £75 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae’r bwthyn gwyliau hunan-ddarpar moethus hwn yn Eryri yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau cefn gwlad traddodiadol yng Ngogledd Cymru. Mae Ty Mawddwy yn adeilad rhestredig Gradd II, ac yn fwthyn gwyngalchog a hudolus, ble gellir mwynhau golygfeydd trawiadol o’r patio. Wedi ei amgylchynu gan dirlun heddychlon, mynyddig De Eryri ac mae’n cynnwys hawliau i bysgota ar yr Afon Dyfi.

Llawr Gwaelod

Mae Ty Mawddwy yn cyfuno swyn nodweddion traddodiadol fel trawstiau gwledig traddodiadol a stôf losgi coed, gyda’ch holl hanfodion modern.

Cegin dderw gyflawn wedi ei gwneud â llaw gan gynnwys peiriant golchi llestri, microdon, oergell, rhewgell, hob a phopty â ffan. Mae hefyd yn cynnwys ardal i fwyta a drysau gwydr yn arwain i’r patio a’r ardd gyda golygfeydd gwych o’r mynyddoedd.

Mae’r llawr gwaelod agored yn cynnwys ystafell fyw gysurus iawn gyda soffas a chadeiriau cyfforddus, teledu sky, doc i-pod ac amrywiaeth o gemau bwrdd. Hefyd ar y llawr gwaelod mae dwy ystafell wely unigryw - un twin ac un dwbl, yn ogystal ag ystafell ymolchi fawr deuluol gyda chawod bwerus dros y bath.

Ystafell iwtiliti gyda pheiriant golchi a pheiriant sychu dillad, sinc a boeler. Digonedd o le i adael eich dillad awyr agored, esgidiau ayyb.

Dwy ystafell wely – 1 twin ac 1 dwbl yn ogystal ag ystafell ymolchi fawr.

Llawr Cyntaf

Fyny’r grisiau mae ystafell ddwbl moethus arall gyda chyfleusterau en-suite a golygfeydd hyfryd o’r mynyddoedd.

Mae hefyd ardal eistedd arall gyda theledu sky a DVD – delfrydol ar gyfer ychydig o breifatrwydd a difyrrwch.

Gardd

O ardd dawel, gysgodol eich bwthyn gwyliau moethus, mae cefn gwlad Eryri yn darparu cefndir gwerth chweil i bryd bwyd yn yr awyr agored neu brynhawn ymlaciol yn darllen. Dodrefn gardd a barbeciw yn cael eu darparu.

Man diogel ar gyfer storio beiciau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Blodau ffres (yn y tymor iawn) ar gyfer eich cyrhaeddiad.

Dillad gwely, tyweli a sychwr gwallt yn cael eu darparu. Leiniau cotwm gwyn Eifftaidd a blancedi Cymreig.

Trydan, gwres canolog llawn yn ogystal â llwyth cychwynnol o goed tân yn gynwysedig.

Wi-fi yn gynwysedig.

Ffôn dalu yn y bwthyn.

Darperir gemau bwrdd diweddar.

Tri chwarter milltir o hawliau pysgota ar yr Afon Dyfi hefyd yn gynwysedig.

Digonedd o le parcio.

Gellir darparu cot a chadair uchel ar eich cais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.

Ymddiheuriadau ond ni ellir derbyn anifeiliaid anwes.

Caiff y canlynol hefyd eu darparu yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad... Cegin: hylif golchi llestri/tabledi hylif golchi. Ystafell ymolchi: sebon a phapur toiled. Nwyddau glanhau cyffredinol: cannydd, glanhawr cawod, dwsteri, sugnwr llwch ayyb.

Mae gwyliau byr hefyd ar gael ar adegau penodol o’r flwyddyn yn y bwthyn gwyliau moethus hwn yn Eryri. Mwy o fanylion o dan ‘Prisiau.’

Lleoliad

Mae bwthyn hunan ddarpar Ty Mawddwy wedi’i leoli yn Nyffryn Dyfi, oddeutu dwy filltir o bentref Dinas Mawddwy yn ne Eryri. Saif ger y bwlch uchaf yng Nghymru sy’n arwain at lynnoedd Efyrnwy a’r Bala gyda’u hamrediad eang o chwaraeon dŵr. Mae trefi marchnad diddorol Dolgellau a Machynlleth 20 munud i ffwrdd mewn car, tra bo’r arfordir (30 munud) yn cynnig dewis eang o draethau euraid megis Bermo ac Aberdyfi.

Mae’r bwthyn yn rhan o fferm organig sy’n cadw defaid a gwartheg ac sy’n cael ei rheoli gyda phwyslais ar gadwraeth. Mae croeso i westai archwilio’r tir a mwynhau’r bywyd gwyllt, yn ogystal â manteisio ar y tri chwarter milltir o hawliau pysgota ar yr Afon Dyfi.

Ceir heddwch a thawelwch cefn gwlad yn y dyffryn hwn ac mae’n lleoliad delfrydol i gerddwyr o bob gallu, gyda chopaon heriol yr Aran Fawddwy a Chadair Idris ar drothwy’r drws.

Ym mhentref Dinas Mawddwy ceir siop grefftau a chaffi Melin Meirion, bwyty a chasgliad o dafarndai traddodiadol da. Ceir llawer o atyniadau poblogaidd o fewn cyrraedd yn cynnwys Canolfan y Dechnoleg Amgen, rheilffyrdd cul, gwarchodfeydd adar yr RSPB, merlota, beiciau modur pedair olwyn a chanolfan beicio mynydd Coed-y-Brenin.

Cerdded

Llwybr Dyffryn Dyfi – dilynwch Afon Dyfi o’r aber yn Aberdyfi at ei tharddiad wrth gopa’r Aran Fawddwy ac yna’n ôl i lawr ochr ddeheuol yr afon trwy Fachynlleth a lawr i’r Borth. Gellir cael mapiau a theithlyfrau o’r Ganolfan Croeso ym Machynlleth. Ymunwch â’r llwybr 0.5 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Clywedog (Torrent Walk) – Brithdir – taith hamdden ganolig tua 2½ milltir ar hyd yr afon – 10 milltir (ger y bwthyn)

Llwybr Mawddach – Dolgellau – addas i bob oed – cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn. 12 milltir

Llwybr Cynwch (Precipice Walk) – Dolgellau – addas i bob oed. 14 milltir o’r bwthyn

Llwybr Newydd Cynwch (New Precipice Walk) – Llanelltyd - addas i bob oed. 14 milltir o’r bwthyn.

Cadair Idris (mynydd) – 3 prif lwybr yn dechrau o Ddolgellau (12 milltir), Minffordd (12 milltir) ac Abergynolwyn (17 milltir).

Chwaraeon Dŵr

Llyn Tegid, Y Bala - hwylio, canŵio, caiacio, hwylfyrddio, adeiladu rafft ac ati. 17 milltir

Llyn Efyrnwy – Canwio, caiacio, hwylio a hwyl fyrddio – addas i’r teulu cyfan. 18 milltir

Canolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol Tryweryn - rafftio dŵr gwyllt, caiacio a chanŵio. 20 milltir

Beicio

Canolfan Feicio Mynydd Coed-y-Brenin – Llwybrau addas i bob oed. 19 milltir

Llwybr Mawddach – Fel uchod

Pysgota

Afon Dyfi – pysgota gwych ac afon enwog am ei brithyll brown, eogiaid a brithyll môr. Gall gwestai sy’n aros yn Ty Mawddwy fanteisio ar hawl y perchennog i bysgota ¾ milltir o’r afon, gyferbyn â’r bwthyn.

Ceir hefyd amrywiaeth o gyfleoedd pysgota yn ardal Dolgellau - lleoedd addas i bob oed.