Beudy Gwenoliaid

Barmouth, North Wales Coast

  • 3 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £450 yr wythnos
  • £64 y noson
  • 3 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae'r bwthyn gwyliau hwn yn y Bermo yn cynnig golygfeydd o'r môr ac ystod eang o atyniadau a gweithgareddau ar garreg y drws. O draethau baner las a theithiau cerdded bythgofiadwy i drenau stêm, teithiau cwch a rownd o golff yng ngolwg y castell a'r môr, mae Beudy Gwenoliaid yn cynnig popeth. O fewn pellter cerdded at y traeth, ac ar hyd y traeth i Bermo ei hun, gyda'i ystod eang o fwytai, siopau, tafarndai ac atyniadau glan-môr eraill.

Llawr Gwaelod

Mae llawr gwaelod y bwthyn gwyliau hwn yn cynnwys dwy ystafell wely, ystafell ymolchi, a'r cyntedd yn arwain at y prif le byw ar y llawr cyntaf.

Mae'r ystafell wely gyntaf yn cynnwys gwely dwbl, cwpwrdd dillad a byrddau wrth ochr y gwely gyda lampau.

Yn yr ail ystafell wely mae gwely dwbl a gwely sengl, cwpwrdd dillad, byrddau wrth ochr y gwelyau, lampau a ffenestri mawr yn edrych allan dros y buarth.

Ystafell ymolchi hyfryd gyda bath maint llawn a chawod uwch ei ben, basn ymolchi a thy bach.

Llawr Cyntaf

Mae'r lle byw a'r patio i gyd ar y llawr cyntaf er mwyn gwneud y gorau o'r golygfeydd hyfryd o'r môr. Mae'r llawr pren hyfryd, y trawstiau agored a'r ffenestri yn y to yn rhoi teimlad agored a golau iawn i'r rhan hon.

Cynllun agored sydd i'r cyfan. Mae un hanner yn cynnwys cegin â'r holl gyfleusterau (gan gynnwys peiriant golchi llestri, microdon, ffwrn, oergell a rhewgell) ac ardal fwyta.

Mae dwy soffa ledr a theledu mawr yn eich gwahodd drwodd i'r lolfa glyd. Ym mhen draw'r lolfa mae drysau patio yn arwain at y lle patio trawiadol. Yn ystod y dydd, mae'n sicr yn werth gadael y drysau patio hyn yn agored led y pen fel y gallwch fwynhau holl ehangder y bwthyn, o'r bwrdd bwyd yn un pen, drwodd at fwrdd yr ardd ar y pen arall.

Gardd

Mae golygfeydd syfrdanol i'w gweld o'r patio. Caeau gwyrddlas yn arwain at bennau'r mynyddoedd y tu ôl i chi, a'r môr o'ch blaen. Llecyn hollol ryfeddol lle byddwch yn sicr o golli pob syniad o amser.

Gwybodaeth Ychwanegol

Te, Coffi, Siwgr, Llaeth a Chacen wrth i chi gyrraedd.

Dillad gwely a thywelion dwylo a bath yn gynwysedig.

Mae modd darparu cot, cadair uchel a gât ar gyfer y grisiau os bydd cais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.

Trydan a gwres canolog yn gynwysedig yn y pris.

Lle parcio preifat ar gyfer 2 car y tu allan i'r bwthyn.

Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn.

Gemau a gwybodaeth ynghylch pethau i'w gwneud yn lleol yn y bwthyn.

Ystafell olchi dillad wedi'i rhannu, gyda pheiriant golchi dillad awtomatig a sychwr dillad

Lleoliad

Mae’r bwthyn gwyliau hyfryd hwn wedi ei leoli yn Llanaber, 1 milltir o Bermo (siopau, bwytai, bariau ayyb) ar arfordir Gogledd Cymru. Taith gerdded fer i’r traeth agosaf a dim ond 5 munud o gerdded i draeth baner las anhygoel Bermo. Mae gan Feudy Gwenoliaid yn cynnwys golygfeydd hyfryd o’r môr ac mae hefyd yng nghefn gwlad, gyda llwybrau yn arwain i’r bryniau o garreg y drws.

Hefyd mae Llwybr Mawddach, sy’n cynnwys Pont Bermo y gellir ymuno ag ef 1 milltir i ffwrdd. Dywedwyd “nad oes taith gerdded well na’r un o Fermo i Ddolgellau oni bai am yr un o Ddolgellau i Bermo.” Mae golygfeydd o fynyddoedd Eryri lawr i aber Mawddach yn anhygoel, ac yn brofiad na ddylid ei fethu, yn enwedig pan mae’r haul yn machlud.

10 milltir i’r gogledd ar hyd yr arfordir mae pentref hardd Harlech gyda’i gwrs golff sy’n enwog yn genedlaethol a rhyngwladol, wedi ei osod mewn lleoliad syfrdanol â Chastell Harlech yn edrych dros y cyfan. Ar gyfer beicwyr mynydd brwd, mae canolfan feicio mynydd enwog Coed y Brenin hefyd ger llaw.

Mae fferi yn croesi o Fermo i Fairbourne ac mae’r trên stêm yn Fairbourne yn cynnig diwrnod hwyliog, dim ond ychydig funudau o’r bwthyn gwyliau hardd hwn yn Bermo. Os oes genych amser, mae’n werth ymweld â phentref Eidaleg Portmeirion, a gyda Pharc Cenedlaethol Eryri mor agos, mae’n werth ystyried taith fyny’r Wyddfa.

Traethau
Traeth Bermo – traeth tywodlyd gyda gwobr Baner Las.1 milltir
Traeth Fairbourne - traeth tywodlyd. 3 milltir (fferi neu drên stêm)
Morfa Dyffryn – traeth tywodlyd a thwyni tywod. 5 milltir
Traeth Harlech – traeth tywodlyd. 9 milltir

Cerdded
Llwybr Panorama – Bermo – addas ar gyfer pob oed. 1 milltir o’r bwthyn
Llwybr Mawddach – Bermo – addas ar gyfer pob oed – cerddwyr, beicwyr a chadeiriau olwyn. 1 milltir.
Copa’r Llethr a Diffwys – Dyffryn Ardudwy – llwybr heriol. 4 milltir o’r bwthyn.
Taith Newydd Clogwyn - Llanelltud - addas ar gyfer pob oed. 9 milltir o’r bwthyn
Cadair Idris - 3 prif lwybr - yr agosaf yn Nolgellau (11 milltir) a Minffordd (18 milltir)

Beicio
Llwybr Mawddach – Fel uchod. 1 milltir
Coed-y-Brenin Mountain Biking Centre – Suitable routes for all ages. 14 miles
Canolfan Feicio Mynydd Coed y Brenin – addas ar gyfer pob oed. 14 milltir

Pysgota
Tripiau pysgota môr ar gychod o Bermo. 1 milltir
Darllenwch fwy am gyfleoedd i bysgota yma – addas ar gyfer pob oed.

Golff
Clwb Golff Harlech – Clwb Brenhinol Dewi Sant – cwrs golff 18 twll. 9 milltir
Clwb Golff Dolgellau – cwrs golff 9 twll. 11 milltir

Marchogaeth
Canolfan Farchogaeth Fferm Bwlchgwyn – addas ar gyfer unrhyw un dros 4 oed. 2 filltir ar y fferi neu’r trên stêm (Ebrill – Medi + hanner tymor). 14 milltir ar y lôn.