Melin Llyn

Aberdaron, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,166 yr wythnos
  • £167 y noson
  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 4 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae Melin Llŷn yn fwthyn gwyliau mawr a moethus. Gyda’i hystafelloedd chwaethus, cyfoes a’i dodrefn hyfryd, mae’r hen felin ddŵr hon yn berffaith i ddod â’r teulu neu’ch ffrindiau ynghyd. Mae Melin Llŷn wedi’i lleoli yng nghanol Pen Llŷn, o fewn ei gardd amgaeedig ei hun mewn lleoliad tawel. O’r llety arbennig hwn, mae traethau tywod hir euraidd Pen Llŷn o fewn ychydig o filltiroedd.

Llawr Gwaelod

Cegin – Cegin bwrpasol o dderw wedi’i pheintio, gydag arwyneb gwenithfaen, sinc Belfast a theledu. Mae’n cynnwys peiriant golchi llestri integredig NEFF, ffwrn ddwbl a hob trydan, oergell/rhewgell, microdon, tostiwr Dualit a thegell, gan gynnwys Airfryer Ninja. Mae’r ynys wedi’i wneud o sinc a marmor gyda chadeiriau cyfoes o sinc.

Lolfa – Ystafell fawr gyda stôf llosgi coed groesawgar, soffa ledr Eidalaidd, soffa felfed wyrdd-las, cadair ledr goch gyfoes a chadair ledr gyfforddus melyn tywyll. Clustogau a blancedi moethus. Bwrdd coffi wedi’i wneud o gert Indiaidd gwreiddiol, a bwrdd pwrpasol derw mawr gyda 10 cadair dderw. Gwnaed yr holl lenni a’r bleinds â llaw. Seld steil Tsieineaidd a goleuadau cyfoes. System sain GPO ‘retro’. Teledu mawr gyda chwaraewr DVD a chlustogau llawr moethus.

Cyntedd – Mainc fodern a nenfwd uchel.

Ystafell gawod – Ystafell gawod llawr gwaelod fodern, wledig gyda thŷ bach a chawod.

Prif ystafell wely – Gwely moethus mawr iawn gydag ystafell gawod en-suite. Drych lledr, stôl bwrpasol a wnaed yn lleol, tyweli moethus gwyn a phethau ymolchi.

Ystafell iwtiliti gyda pheiriant golchi dillad, peiriant sychu, bwrdd smwddio a haearn.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely Aberdaron – Gwely haearn mawr iawn ‘antique’ gyda blanced chwaethus a chlustogau o liain Cymreig. Cadair ledr a stôl droed mewn steil diwydiannol. Cwpwrdd dillad mewn steil diwydiannol a drych. Carthen croen dafad.

Ystafell wely Rhiw – Dau wely sengl gyda blancedi gwlân Cymreig, clustogau o liain Cymreig a chrwyn defaid. Cwpwrdd dillad gwyrdd-las a rheilen ddillad fodern.

Ystafell ymolchi – Bath gyda chawod uwch ei ben, drych portwll ac ategolion moethus.

Ystafell wely Meillionydd – Dau wely sengl gyda blancedi gwlân Cymreig a chlustogau moethus. Croen dafad ar y llawr a rheilen ddillad chwaethus.

Ystafell wely Plas Newydd – Gwely mawr iawn ac otoman du melfed moethus, dodrefn mewn steil gwladfaol a rheilen ddillad ‘antique’. Clustogau a blanced gwely moethus a charthen croen dafad.


Gardd

Gardd fawr amgaeedig gyda dodrefn gardd a golygfeydd o gefn gwlad. Gall gwesteion eistedd o gwmpas pwll tân a mwynhau’r amgylchedd gwych.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bydd pecyn i’ch croesawu yn cynnwys amrywiaeth o gynnyrch lleol. Gadewch inni wybod os ydych chi’n dathlu digwyddiad arbennig ar eich gwyliau, ac fe geisiwn ei wneud hyd yn oed yn fwy cofiadwy ichi.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Wifi ar gael
  • Mae basged o goed a bwced o lo wedi’u cynnwys yn y pris.
  • Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.
  • Darperir 5 sychwr gwallt.
  • Cot teithio a chadair uchel ar gael ar gais (dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda).
  • Dim ysmygu yn y bwythyn.
  • Croesewir hyd at 2 gi sy’n ymddwyn yn dda am £25 y ci.
  • Ceir parcio preifat oddi ar y ffordd gyda lle i hyd at 5 car.
  • Gellir trefnu gwasanaethau arlwyo a phampro gan therapyddion harddwch lleol ar gais.
  • Mae gwesteion Melin Llŷn hefyd yn gymwys i gael gostyngiad o10% yn y Cwt Tatws yn ystod eu arhosiad. Siop unigryw yw’r Cwt Tatws gydag amrywiaeth eclectig o gynnyrch chwaethus i’r cartref lle byddwch hefyd yn cael eich croesawu â chacen a phaned.

Lleoliad

Mae’r bwthyn hardd hwn yn mwynhau lleoliad tawel ac yn sefyll ar ei ben ei hun i lawr lôn wledig hyfryd ym Mhen Llŷn. Llai na 4 milltir i ffwrdd mae pentref glan y môr Aberdaron sy’’n cynnig amrywiol gyfleusterau, megis caffis, dwy dafarn â bwyty, becws to gwellt, a siop. Os hoffech fwyta allan, gallwn argymell yn gryf y bwytai yn y ddwy dafarn (y Ship a Tŷ Newydd) yn Aberdaron, yn ogystal â’r Ship yn Edern (9 milltir). Os ydych chi’n chwilio am dafarn leol dda, mae’r Llew yn Nhudweiliog (5.8 milltir) yn boblogaidd iawn hefyd.

Mae Pen Llŷn wedi ei ddynodi’n ardal o harddwch naturiol eithriadol, a Melin Llŷn yw’r safle delfrydol i fynd i archwilio ei rhwydwaith o lwybrau cerdded a theithiau arfordirol, a'r rheini ar hyd 84 milltir o arfordir trawiadol. Mae Pen Llŷn, lle mae’r Gymraeg a’r ffordd Gymreig o fyw yn parhau i ffynnu, yn enwog am ei draethau hardd a’i chwaraeon dŵr tra bo mynyddoedd mawreddog Eryri o fewn pellter teithio byr.

Mae teithiau cwch ar gael o Borth Meudwy (5 milltir) i Ynys Enlli a oedd unwaith yn safle o bererindod crefyddol ond sydd bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol. Mae dewis da o weithgareddau i’w gwneud yn yr ardal gan gynnwys pysgota, marchogaeth, golff a Pharc Glasfryn, lle gallwch fwynhau gwibgertio, bowlio deg, saethyddiaeth ac ati. Yn ddi-os, mae’n werth ymweld â Phlas Glyn-y-Weddw, plasty godidog gyda galerïau, gerddi hardd ac ystafell dê, tra bo Rheilffordd Ffestiniog, cestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion gerllaw.

Traethau

  • Traeth Aberdaron – traeth tywod a holl gyfleusterau’r pentref hyfryd hwn gerllaw. 3.7 milltir.
  • Porthoer – 4.8 milltir.
  • Tywyn, Tudweiliog – traeth hyfryd cuddiedig y gallwch ei gyrraedd o’r llwybr arfordirol. 5.8 milltir.
  • Dysgwch fwy am 10 o draethau mwyaf poblogaidd Pen Llŷn.

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Llŷn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan) – 84 milltir o gwmpas Pen Llŷn, o Gaernarfon i Borthmadog. Mae’r man ymuno agosaf 2.2 milltir o’r bwthyn yn Llanfaelrhys.
  • Yr Eifl – Cadwyn o fynyddoedd gan gynnwys y pwynt uchaf ar Ben Llŷn. 4.5 milltir o hyd. 14 milltir o’r bwthyn.

Chwaraeon dŵr

  • Mae traeth Abersoch yn cynnig dŵr gwastad ar gyfer tonfyrddio a sgïo ar y dŵr, hwylio, mynd ar gychod pwerus a bordhwylio. 10 milltir.
  • Mae Porth Neigwl yn boblogaidd iawn gyda syrffiwyr a chorff-fyrddwyr. 10.5 milltir.
  • Dysgwch fwy am chwaraeon dŵr ym Mhen Llŷn.

Golff

  • Clwb Golff Nefyn a’r Cyffiniau – 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll ar y clogwyn gyda golygfeydd arfordirol rhagorol. 10 milltir.
  • Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll, ger y traeth. 10.5 milltir.
  • Canolfan Golffio Llŷn – Penyberth. Maes ymarfer golff 15 bae, man ymarfer pytio a byncer a chwrs golff 9 twll gyda golygfeydd o’r môr. I ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol – ac mae modd llogi ffyn golff. 11 milltir.

Marchogaeth

  • Stablau a Chanolfan Farchogaeth Pen Llŷn, Pwllheli. Fferm stablau a marchogaeth i bobl ag unrhyw fath o brofiad. 5.8 milltir.
  • Stablau Marchogaeth Llanbedrog – gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau ar draethau a bryniau. 10 milltir.
  • Canolfan Farchogaeth Cilan – Abersoch. Teithiau ar y traeth a mwy. Gwych ar gyfer plant a dechreuwyr. 12.6 milltir.
  • Dysgwch fwy am farchogaeth ar Ben Llŷn.

Beicio

Pysgota

  • Darllenwch fwy am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd yna i bysgota ar Ben Llŷn – opsiynau sy’n addas i bob oedran.