Hafod y Bryn

Tresaith, West Wales

  • 4 Star
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Bwthyn gwyliau cwbl ysblennydd yn Nhresaith - o fewn pellter cerdded i draeth gwych, tafarn leol groesawgar a siop hwylus.

  • £- yr wythnos
  • £- y noson
  • 4 Star
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl
  • 1 gwely bync
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 5 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae'r llety gwyliau arbennig hwn yn Nhresaith o fewn pellter cerdded i draeth gwych, tafarn leol groesawgar a siop gyfleus. Ty steilus newydd ei adeiladu yn cysgu 10, sydd yn ei wneud yn lleoliad gwyliau delfrydol yng Ngorllewin Cymru ar gyfer trefnu amser gyda theulu neu ffrindiau. Yn ogystal â thraeth Tresaith mae yna nifer o draethau gwych gerllaw, a llawer o atyniadau a gweithgareddau i'w mwynhau gan deuluoedd, cyplau neu grwpiau o ffrindiau.

Llawr Gwaelod

Ystafell Chwaraeon gyda bwrdd pwl a dewis o gemau a llyfrau.

Ystafell wely 1 - gwely maint king gydag ystafell ymolchi en-suite.

Ystafell gawod steilus gyda thoiled.

Ystafell iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad.

Garej gyda lle i storio beiciau.

Llawr Cyntaf

Lolfa fawr gyda lloriau pren a balconi, soffa gyfforddus siap L, teledu, XBox, DVD a stôf losgi coed. Bwrdd a chadeiriau ar y balconi a golygfeydd gwych.

Cegin ac ystafell fwyta agored. Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys popty dwbwl, oergell/rhewgell maint llawn, hob trydan induction, peiriant golchi llestri. Ystafell fwyta gyda drysau deu-blyg hyd yr ystafell yn agor allan i'r patio cefn, bwrdd bwyta gyda chadeiriau i 10. 

Ystafell wely 2 - 2 wely sengl a gwely bync maint llawn.

Ystafell chwarae gyda gwely soffa a gwely sengl sbar (noder nad oes dillad gwely ar gael ar gyfer y gwelyau hyn).

Ystafell ymolchi foethus gyda baddon, toiled a basn.

Ail Lawr

Ystafell wely 3 - gwely maint king gyda chypyrddau dillad, ystafell ymolchi en-suite, a balconi Juliet gyda golygfeydd o'r môr.

Ystafell wely 4 - gwely maint king gyda chypyrddau dillad, ystafell ymolchi en-suite, a balconi Juliet gyda golygfeydd o'r coetir yn y cefn.

Tu Allan

Patio ar y llawr cyntaf gyda mainc a lle ar gyfer barbaciw. Man parcio a lawnt ar y llawr gwaelod. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr a llaeth  

Dillad gwelyau a thywelion ar gael  

Trydan a gwres canolog yn gynwysedig    

Cadair uchel, cot trafeilio a gat grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot   

Wi-Fi ar gael

Lle parcio gerllaw'r llety 

Basged gychwynnol o goed ar gyfer y stôf, gyda rhagor o goed i'w prynu gerllaw   

Barbaciw ar gael   

Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd. Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur ym mhob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol    

Dim ysmygu y tu mewn a dim anifeiliaid anwes   

Lleoliad

Mae’r Bwthyn Gwyliau hwn yn Nhresaith yn dy ar ei ben ei hun gyda digonedd o le parcio, a phellter cerdded byr o dafarn leol ardderchog a thraeth godidog Tresaith. Mae Tresaith ei hun yn bentref arfordirol heddychlon yng Ngorllewin Cymru. Mae Aberporth 1 milltir i’r de gydag amrywiaeth eang o lefydd i fwyta ac yfed yn ogystal â’i draeth hyfryd ei hun.

Mae Llangrannog 6 milltir i’r gogledd ac mae ganddo draeth tywodlyd euraidd, dwy dafarn groesawgar, bwytai, caffi a siop. Mae Gwersyll yr Urdd Llangrannog yn le perffaith ar gyfer diwrnod llawn hwyl i’r teulu gyda llethr sgïo, canolfan farchogaeth a hefyd canolfan hamdden fodern sy’n cynnwys neuadd chwaraeon, cae astro ac ystafell ffitrwydd.

Mae’r holl arfordir yn enwog am ddolffiniaid ac nid yw’n anghyffredin i gael eu cwmni tra’n caiacio o Draeth Tresaith. Gellir archebu tripiau gwylio dolffiniaid o bentref arfordirol hyfryd Cei Newydd (13 milltir) ac Aberteifi (8 milltir). Mae llwybrau cerdded gwych yn yr ardal yn cynnwys rhan Ceredigion o Lwybr Arfordirol Cymru y gallwch ymuno ag ef ger llaw.

Mae atyniadau a gweithgareddau eraill ger y Bwthyn Gwyliau hwn yn Nhresaith yn cynnwys syrffio a chorff fyrddio, Clwb Golff Cwmrhydneuadd, Parc Fferm Arfordirol Ynys Aberteifi a Chanolfan Fêl Cei Newydd. Mae’n werth ymweld â Chastell Cilgerran (11 milltir) sy’n edrych dros yr Afon Teifi, i gael hanes diddorol a golygfeydd a llwybrau cerdded gwych.

Cerdded

Gellir ymuno â rhan Ceredigion o Lwybr Arfordirol Cymru 0.2 milltir o’r bwthyn.

Traethau

Traeth Tresaith - traeth tywodlyd hyfryd gyda gweithgareddau ar gael gan gynnwys hwylio a chwaraeon dwr eraill. 0.1 milltir.

Traeth Aberporth - 1 milltir.

Chwaraeon Dwr

Caiacio, hwylio a mwy ar gael o draeth Tresaith. 0.1 milltir.

Golff

Clwb Golff Cwmrhydneuadd – cwrs golff 9 twll godidog. 5 milltir.

Clwb Golff Aberteifi – cwrs golff pencampwriaeth, 18 twll yn mesur 6687 iard, par 72. 12 milltir.

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. 6 milltir.

Pysgota

Pysgota gwych yn Nhresaith, Penbryn a phentir cyfagos. 0.1 milltir.

Tripiau cwch i bysgota ar y môr ar gael o Aberteifi. 8 milltir.

Trwyddedau i bysgota eog o’r afon Teifi ar gael. 9 milltir.