Ty Carreg Sampson

St Davids, Pembrokeshire West Wales

  • 3 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,314 yr wythnos
  • £188 y noson
  • 3 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 3 o welyau sengl
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 4 o doiledau
  • Dim tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 18:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Dim ond 5 munud o gerdded o’r harbwr bach, traeth a llwybr arfordirol yn Abercastell, mae’r bwthyn moethus hwn yn Sir Benfro yn berffaith ar gyfer gwyliau teulu neu grŵp o ffrindiau. Lleoliad godidog, tafarn wledig draddodiadol yn gyfagos a chyfleusterau en-suite yn y 4 ystafell wely i gyd. Mae’r bwthyn gwyliau hwn yn Sir Benfro hefyd yn hefyd yn caniatáu cŵn ac wedi ei amgylchynu gan lawer o atyniadau e.e. Tŷ Ddewi - dinas leiaf Prydain, Ynys Ddewi a Labordy Cefnfor yn Abergwaun. Mae atyniadau poblogaidd yn cynnwys tripiau cwch i wylio dolffiniaid a morfilod, arfor-neidio, deifio, pysgota a cherdded.

Llawr Gwaelod
Ystafell fyw fawr a chroesawgar gyda lle i hyd at 12 eistedd, stôf llosgi coed, teledu a chasgliad da o DVDs a llyfrau.

Cegin wedi ei gosod yn llawn, oergell/rhewgell fawr a digonedd o le storio yn y bwthyn moethus hwn, Sir Benfro

Ystafell golchi dillad gyda pheiriant golchi a sychu dillad.

Ystafell wely 1 - ystafell deulu gyda mynediad addas i gadair olwyn ac mae’n ystafell deuluol. Gwely maint king a gwely sengl gyda chawod a baddon clasurol ar wahân yn yr ystafell ymolchi.

Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 – ystafell deulu arall gyda gwely super king a 2 wely sengl mewn ardal ar wahân, sy’n cynnig preifatrwydd. Mae’r en-suite yn cynnwys basn, toiled a chawod.

Ystafell wely 3 – gwely super king (neu gall fod yn ddau wely sengl) gyda chwpwrdd dillad yn y wal a chawod yn yr ystafell ymolchi. Gellir gosod trydydd gwely sengl yma hefyd os oes angen.

Ystafell wely 4 – gyda gwely maint king, cwpwrdd dillad yn y wal ac ystafell ymolchi ar wahân yn cynnwys cawod a thoiled.
Gellir mynd i mewn i bob ystafell wely (ac eithrio un) drwy ddrysau preifat allanol.

Gardd
Mae gan y bwthyn hwn yn Sir Benfro ardd amgaeedig, gydag ardal patio llechfaen a lawnt wedi ei godi’n uwch. Bwrdd patio gyda chadeiriau ac offer barbeciw.
Mae’r ardd yn ffinio gyda chaeau y gellir eu defnyddio gan blant fel ardal i chwarae.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres olew gyda system wresogi o dan y llawr ar y llawr gwaelod a rheiddiaduron ar y llawr cyntaf. (Trydan a gwres yn gynwysedig).
  • Pentwr cychwynnol o goed tân am ddim. Gellir prynu ychwaneg o goed tân gan y perchennog.
  • Dillad gwely a thywelion dwylo yn gynwysedig. Gellir darparu tywelion bath hefyd am ffi ychwanegol.
  • Basged gyntaf o logiau am ddim. Gellir prynu rhagor gan y perchennog.
  • Wifi yn y bwthyn moethus hwn.
  • Cot teithio a chadair uchel ar gais. Drws parhaol ar waelod y grisiau.
  • Digonedd o lefydd parcio.
  • Derbynnir cŵn (gellir derbyn mwy nag un gyda threfniant blaenorol).
  • Saif ar yr un fferm a bwthyn Tŷ'r Castell sy’n golygu y gellir archebu’r ddau fwthyn gyda’i gilydd ar gyfer grwpiau mwy

Lleoliad

Mae bwthyn moethus Tŷ Carreg Sampson, Sir Benfro wedi ei leoli yn Abercastell, taith fer yn y car o ddinas leiaf Prydain, Tŷ Ddewi. Mae’r lleoliad yng nghefn gwlad rhwng Tŷ Ddewi ac Abergwaun a ddim ond 2 filltir o’r A487 a phentref Mathri. Mae bws Gwibiwr Strwmbl yn mynd yn ôl a blaen heibio’r bwthyn hefyd.

Wedi ei leoli o fewn Parc Cenedlaethol Sir Benfro, mae’r bwthyn wedi ei amgylchynu gan olygfeydd godidog a gormodedd o fywyd gwyllt. Mae’r bwthyn hefyd yng ngolwg ‘Carreg Samson,’ siambr gladdu o Oes y Cerrig Newydd, a’r chwedl yw bod Sant Samson wedi gosod y garreg fedd gan ddefnyddio dau fys yn unig.

Dim ond 5 milltir o Lwybr Arfordirol Sir Benfro, gall y perchennog drefnu gwyliau cerdded i westeion gyda thywysydd neu ddim. Cynigir gwasanaeth casglu a chludo i grwpiau, sydd yn ddefnyddiol iawn os ydych yn bwriadu cerdded amrywiaeth o adrannau yn ystod eich gwyliau.

Mae Tŷ Ddewi yn ddinas hyfryd ac unigryw wedi ei hamgylchynu gan olygfeydd arfordirol godidog ac mae’n adnabyddus am ei harddwch a’i ddigonedd o fywyd gwyllt. Cadeirlan Tŷ Ddewi yw’r peth mwyaf nodweddiadol yno ers y 12fed ganrif ac yr oedd yn daith bererindod boblogaidd drwy’r Canol Oesoedd ac mae’n parhau i ddenu miliynau bob blwyddyn. Mae gan ddinas Tŷ Ddewi lawer iawn i’w gynnig i bob ymwelydd sy’n aros yn y bwthyn moethus hwn yn Sir Benfro.

Mae Ynys Ddewi hefyd yn le gwych i ymweld ag ef yn ystod eich gwyliau. Mae’n ynys ddramatig, filltir o arfordir Sir Benfro. Mae’r ynys yn ymestyn dros tua 600 acer ac yn cynnwys creigiau sy’n 400 troedfedd o uchder sydd yn le bridio adar y môr, ac sydd bellach yn eiddo i’r Gymdeithas Frenhinol Amddiffyn Adar (RSPB). Gellir mynd i Ynys Ddewi drwy wasanaeth cwch rheolaidd o Sant Justinian, sydd yn croesi Swnt arbennig sy’n enwog am ei greigiau peryglus sy’n cael eu hadnabod fel y ‘Bitches.’

Traethau

Abercastell – Hen harbwr gweithiol a’r traeth agosaf i’r bwthyn ac o fewn pellter cerdded hawdd. Mae Abercastell yn gildraeth darluniadwy gyda thywod a cherrig mân. 0.2 milltir

Abereiddi - Traeth graeanog wedi yn cynnwys cerrig mân a thywod yn bennaf. Mae’r traeth yn wych ar gyfer teuluoedd gyda chyfleusterau defnyddiol yno. Mae arfor-nofio yn boblogaidd iawn yma hefyd. 4.5 milltir

Traeth Porth Mawr - traeth baner las sy’n boblogaidd gyda theuluoedd oherwydd ei nofio diogel a thywod gwyn, glân. Mae hefyd yn cael ei gydnabod fel un o lefydd syrffio gorau Cymru. 10 milltir

Chwaraeon Dŵr

Mae Anturiaethau TYF yn cynnwys canŵio, caiacio, arfor-nofio a llawer mwy - i gyd o fewn 10 milltir.

Mae Abercastell yn fan gwych i ddeifwyr gan fod llongddrylliad, ogof a chwythdwll i gyd wedi eu lleoli yn y bae cysgodol. 0.2 milltir

Cerdded

Os ydych eisiau tro hamddenol o gwmpas Abercastell neu heicio am wythnos gyfan, mae i gyd ar garreg eich drws. Llwybr Arfordirol Sir Benfro. 0.2 milltir

Pysgota

Dim ond pellter byr o’r bwthyn mae nifer o draethau bychain sydd yn darparu pysgota môr gwych, gan gynnwys un o’r llefydd gorau i bysgota draenogod y môr yn y Deyrnas Unedig. 0.2 milltir.

Tripiau Cwch – Tripiau pysgota a thripiau tywys i weld yr ardal o Borthgain. 3.5 milltir

Golff

Cwrs golff Priskilly sydd yn adnabyddus am ei groeso cynnes a chwrs golff heriol 9 twll, wedi ei osod mewn parcdir hyfryd. 4.5 milltir

Beicio

Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 (neu NCR 4) ¼ milltir o’r bwthyn ac yn mynd o Lundain i Abergwaun yn bennaf ar lonydd gwledig tawel. 0 milltir

Ar gyfer beicio oddi ar y ffordd mae Llys-y-frân yn barc mawr gwledig ychydig tu allan i Hwlffordd. 20 milltir

Merlota

Merlota Tŷ Ddewi yn darparu cyfleoedd marchogaeth yn yr ardal, gan fynd trwy ddyffrynnoedd a dolydd a mynd i badlo yn y môr neu sblash yn yr afon. 9.5 milltir