Y Stablau - Stables

St Davids, Pembrokeshire West Wales

  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £632 yr wythnos
  • £90 y noson

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 5 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Dim tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae'r bwthyn hunan ddarpar hwn ger Tŷ Ddewi yn sefyll ar ben ei hun ger arfordir hardd Sir Benfro. O fewn pellter cerdded i'r môr a Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan, mae'r ardal yn ddelfrydol ar gyfer cerdded, pysgota, arforneidio, syrffio, gwylio bywyd gwyllt, ac wrth gwrs eistedd yn nol ac ymlacio. Delfrydol ar gyfer teuluoedd a grwpiau.


Llawr Gwaelod

Lolfa - seddau cyfforddus ar gyfer 7, teledu a dewis o lyfrau a gemau bwrdd

Cegin ac ardal fwyta - cynllun agored gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty trydan, hob nwy, meicrodon, tostiwr, tegell ac oergell/rhewgell

Bwrdd ty fferm yn eistedd 7

Ystafell iwtiliti - toiled, peiriant golchi a sychwr dillad

Ystafell wely 1 - gyda gwely dwbwl

Ystafell wely 2 - gyda 2 wely sengl

Ystafell ymolchi - baddon, cawod drydan arwahan, toiled a basn 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 3 - gyda 3 gwely sengl yn edrych i lawr ar y gegin  

Tu Allan

Lawnt breifat yn y cefn, a gardd gymunedol gyda mainc a Barbaciw mawr. Cae chwarae ychwanegol lle gellir chwarae rownderi, pêl droed, criced a gemau eraill. Mainc y tu blaen i'r tŷ i fedru ymlacio a mwynhau'r golygfeydd anhygoel.   

Gwybodaeth Ychwanegol

Pecyn croeso

Gwres a thrydan yn gynwysedig   

Dillad gwelyau yn gynwysedig - dewch â'ch tywelion eich hun  

Digon o le parcio ar y fferm  

Wifi am ddim

Caniateir anifeiliaid anwes (mwyafrif o 2). Rhaid iddynt ymddwyn yn dda; ni ellir eu gadael ar ben eu hunain ac ni ddylent ddringo ar y dodrefn. Gan ei bod yn fferm weithiol dylai cŵn fod wedi arfer o gwmpas cŵn ac anifeiliaid eraill.       

Cot a chadair uchel - dylid gwneud cais pan yn archebu, a dod â dillad eich hunain i'r cot   

Dim ysmygu 

Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 

Gellir archebu gyda Y Felin i gysgu cyfanswm o 12

Lleoliad

Mae Y Stablau yn fwthyn ar ben ei hun wedi ei leoli ar fferm ger arfordir hardd Sir Benfro. Mae'r bwthyn ar un ochr i fuarth â lawnt yn y canol gyda fwthyn hunan ddarpar arall a tŷ fferm  perchnogion. Gellir archebu'r dau bwthyn gyda'i gilydd i letya hyd at 12 o bobl. Mae Llwybr Arfordirol Sir Benfro, sy'n rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan, yn gyfleus, gyda traeth braf Porthselau hefyd gerllaw. 

Fe leolir y bwthyn ond 1 filltir o ganol Ty Ddewi, dinas leiaf Prydain. Mae'n werth ymweld â'r Gadeirlan, ac mae digon o lefydd i fwyta ac yfed a nifer o siopau bach lleol yma. Gellir archebu tripiau cwch oddi yma - yn cynnwys tripiau gwylio dolffiniaid, morloi ac adar, pysgota a reidiau cychod cyflym.

Fe geir nifer o draethau a childraethau ar hyd y rhan yma o'r arfordir, a llawer o lecynnau cuddiedig yn cynnwys y Blue Lagoon yn Abereiddy. Mae arforneidio (coasteering) yn boblogaidd yn ogystal â gweithgareddau traddodiadol megis syrffio, nofio, pysgota, neu, wrth gwrs, ymlacio.

Heb fod ymhell yn Sir Benfro mae yna lawer o atyniadau ar gyfer pob tywydd, yn cynnwys Parc Trampolín Hanger 5, Fferm Folly, Parc Antur Oakwood, Parc Deinosoriaid, a Sŵ Gymreig Anna. 

Traethau

Mae traeth Porth Mawr (Whitesands) yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd, ond mae yna hefyd rai eraill yn cynnwys Caerfai ac Abereiddy. Yr agosaf i'r bwthyn yw Porthselau (0.4 milltir)      

Cerdded

Mae Llwybr Arfordirol Sir Benfro yn rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan, a gellir ymuno ag ef gerllaw'r bwthyn (0.3 milltir)  

Pysgota

Gellir dod o hyd i lefydd gwych ar gyfer pysgota môr ond pellter cerdded o'r bwthyn (0.2 milltir)   

Tripiau Cychod Lleol - tripiau pysgota yn ogystal â rhai i weld y golygfeydd o St Stinan (0.3 milltir)   

Beicio

Taith Feicio Cenedlaethol 4 (NCR 4) yn pasio drwy Tŷ Ddewi (1 milltir)   

Beicio oddi ar y ffordd ym mharc gwledig Llys-y-Frân y tu allan i Hwlffordd (26 milltir)  

Chwaraeon Dwr

Mae Antur TYF yn cynnwys canwio, caiacio, arforneidio a llawer mwy (2.4 milltir)   

Golff

Clwb Golff Tŷ Ddewi - un o dri cwrs 9 twll sydd wedi ei lleoli ar yr 20 milltir o daith ar hyd arfordir Gogledd Sir Benfro (2.2 milltir) 
 
Marchogaeth

Mae Stablau Nolton yn cynnig marchogaeth gwych ar hyd y traeth (11.6 milltir)