Y Felin - The Mill

St Davids, Pembrokeshire West Wales

  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £545 yr wythnos
  • £78 y noson

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Dim tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei leoli ger yr arfordir, mae'r bwthyn hunan ddarpar hwn yn Nhŷ Ddewi yn berffaith ar gyfer teuluoedd a grwpiau. Gardd gydag ardal breifat ac ardal gymunedol sy'n cynnwys cae chwarae mawr, a taith fer ar droed i lawr at y môr yn St Justinians. Traethau gwych gerllaw ac wrth gwrs dinas enwog Tŷ Ddewi, dinas leiaf Prydain. Delfrydol ar gyfer yr holl weithgareddau ar hyd Penrhyn Tŷ Ddewi, neu i ymlacio a chymryd i mewn harddwch y rhan hyn o Sir Benfro.

Llawr Gwaelod

Lolfa - soffa gyfforddus i eistedd 5, teledu, a dewis o lyfrau a gemau bwrdd

Cegin ac ardal fwyta - cynllun agored gyda chegin sydd â'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty nwy Rangemaster gyda hob 5 cylch, meicrodon, tostiwr, tegell ac oergell

Bwrdd bwyta gyda lle i 6 eistedd

Ystafell iwtiliti - toiled, peiriant golchi a rhewgell llawn maint

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gyda chypyrddau dillad. Ystafell ymolchi ynghlwm gyda toiled, basn ac uned cawod

Ystafell wely 2 - gwely sengl

Ystafell wely 3 - gwely sengl

Ystafell wely 4 - gwely sengl

Ystafell ymolchi - baddon gyda chawod drydan uwchben, toiled a basn

Tu Allan

Gardd breifat yn y cefn, gardd gymunedol eang gyda mainc i eistedd a Barbaciw mawr. Cae chwarae ychwanegol, perffaith ar gyfer rownderi, pêl droed a gemau eraill.


Gwybodaeth Ychwanegol

Gwres a thrydan yn gynwysedig   

Dillad gwelyau yn gynwysedig - dewch â'ch tywelion eich hun    

Digon o le parcio ar y fferm  

Wifi am ddim

Caniateir anifeiliaid anwes (mwyafrif o 2). Rhaid iddynt ymddwyn yn dda; ni ellir eu gadael ar ben eu hunain ac ni ddylent ddringo ar y dodrefn. Gan ei bod yn fferm weithiol dylai cŵn fod wedi arfer o gwmpas cŵn ac anifeiliaid eraill.       

Cot a chadair uchel - dylid gwneud cais pan yn archebu, a dod â dillad eich hunain i'r cot   

Dim ysmygu 

Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 

Gellir archebu gyda  Y Stablau i gysgu cyfanswm o 12 

Lleoliad

Mae Y Felin wedi ei leoli ar fferm weithiol ger yr arfordir yn ymyl St Stinan (St Justinians), Ty Ddewi. Fe leolir bwthyn y perchennog ar y fferm, ac un bwthyn hunan ddarpar arall, Y Stablau - gellir archebu'r bwthyn gyda'i gilydd i gysgu 12. O fewn pellter cerdded mae Swnt Dewi (Ramsey Sound) y dŵr sy'n gwahanu Ynys Dewi a'r tir mawr, a St Stinan, o ble mae'r tripiau cychod lleol yn rhedeg. Mae'r tripiau yn cynnwys bywyd gwyllt, pysgota a gwylio dolffiniaid. Hefyd o fewn pellter cerdded, neu daith fer yn y car, mae'r traeth yn Porthselau. Mae tref eglwys gadeiriol Tŷ Ddewi ond milltir i ffwrdd ac yma fe geir bwytai, siopau lleol a thafarndai gwych. Mae teuluoedd wrth eu boddau gyda'r siopau gwerthu hufen ia, a gellir archebu tripiau ar gwch gan un o'r darparwyr. Fe geir marchnad leol ar y sgwar ar rai diwrnodau o'r wythnos. 

Fe welir arfordir anhygoel o gwmpas yr holl benrhyn gyda traethau a childraethau gwych. O draethau addas i deuluoedd, i syrffio ac arforneidio, mae popeth i gael yn yr ardal.

Heb fod ymhell yn Sir Benfro mae yna lawer o atyniadau ar gyfer pob tywydd, yn cynnwys Parc Trampolín Hanger 5, Fferm Folly, Parc Antur Oakwood, Parc Deinosoriaid, a Sŵ Gymreig Anna. 
 
Traethau

Mae traeth Porth Mawr (Whitesands) yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd, ond mae yna hefyd rai eraill yn cynnwys Caerfai ac Abereiddy. Yr agosaf i'r bwthyn yw Porthselau (0.4 milltir)      

Cerdded

Mae Llwybr Arfordirol Sir Benfro yn rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan, a gellir ymuno ag ef gerllaw'r bwthyn (0.3 milltir)  

Pysgota

Gellir dod o hyd i lefydd gwych ar gyfer pysgota môr ond pellter cerdded o'r bwthyn (0.2 milltir)   

Tripiau Cychod Lleol - tripiau pysgota yn ogystal a rhai i weld y golygfeydd o St Stinan (0.3 milltir)   

Beicio

Taith Feicio Cenedlaethol 4 (NCR 4) yn pasio drwy Tŷ Ddewi (1 milltir)   

Beicio oddi ar y ffordd ym mharc gwledig Llys-y-Frân y tu allan i Hwlffordd (26 milltir)  

Chwaraeon Dŵr

Mae Antur TYF yn cynnwys canŵio, caiacio, arforneidio a llawer mwy (2.4 milltir)   

Golff

Clwb Golff Tŷ Ddewi - un o dri cwrs 9 twll sy'n bodoli ar yr 20 milltir o daith ar hyd arfordir Gogledd Sir Benfro (2.2 milltir) 
 
Marchogaeth

Mae Stablau Nolton yn cynnig marchogaeth gwych ar hyd y traeth (11.6 milltir)