Hafan Penrhyn

St Davids, Pembrokeshire West Wales

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special Offer10% off Special Offer Discount on selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024
  • Special Offer15% offer on stays between 30th March - 13th April 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £513 yr wythnos
  • £73 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae'r bwthyn 5 seren hwn y tu allan i Porthgain ar Benrhyn Tŷ Ddewi yn cynnig golygfeydd gwych o'r môr a chefn gwlad ac mae'n ddelfrydol ar gyfer cyplau, ffrindiau neu wyliau i'r teulu. Gyda'r gorau o ddau fyd ceir gweithgareddau niferus gerllaw (megis arforgampau, syrffio, cerdded a physgota) a gellir dewis un ai i fod yn anturus neu i ymlacio a'i chymeryd hi'n dawel o flaen stôf goed, neu ymweld ag un o'r bwytai gorau yn yr ardal.

Llawr gwaelod

Ardal fyw a bwyta agored gyda soffas lledorwedd cyfforddus, stôf losgi coed, teledu (Freesat) gyda cysylltydd HDMI, DVD. Bwrdd bwyta a chadeiriau i eistedd 4.

Cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, peiriant golchi dillad, meicrodon, popty a hob trydan, oergell/rhewgell.

Ystafell iwtiliti gyda lle i storio. 

Llawr cyntaf

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl, cypyrddau dillad, basn ymolchi. Golygfeydd o'r môr.

Ystafell wely 2 - dau wely sengl. Golygfeydd o'r môr.

Ystafell ymolchi - baddon gyda chawod drydan, toiled a basn.

Gardd

Ardal patio preifat yn y cefn gyda bwrdd, cadeiriau a barbaciw. Lawnt un ochr y tŷ (gyda lein ddillad os oes angen).


Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys gwîn, te, coffi, siwgwr a llaeth   
  • Dillad gwelyau a thywelion ar gael   
  • Haearn a bwrdd smwddio ar gael   
  • Trydan a gwres canolog yn gynwysedig   
  • Cadair uchel, cot trafeilio a gât staer ar gael (gellir wneud cais pan yn archebu). Dewch a'ch dillad eich hun i'r cot
  • Wi-fi ar gael
  • Dim ysmygu
  • Man parcio ar gyfer 2 gar (parcio i un car wrth dalcen y tŷ a'r car arall ar y lawnt heibio'r ardd)   
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad yn y bwthyn .. Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau glan, ffoil a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif ac un rholyn papur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
  • Mae archfarchnadoedd yn ymweld â'r bwthyn ac mae yna hefyd ddigon o siopau lleol gyda chynnyrch gwych  
  • Mae bond 'gofal da am lety' ar y llety hwn am £150, sydd yn ad-daladwy ac yn ddyledus i Y Gorau o Gymru ar yr un pryd â balans eich gwyliau. Neu, gallwch osgoi y bond hwn drwy, yn hytrach, dalu ffî sydd ddim yn ad-daladwy am £5 y person
  • Dim anifeiliad anwes

Lleoliad

Mae'r bwthyn hwn gyda golygfeydd o'r môr wedi ei leoli ar lôn wledig dawel yn Llanrhian ac ond taith fer ar droed neu yn y car o'r môr a phentref pysgota Porthgain gyda'i harbwr, tafarn leol wych o'r enw Y Slŵp, a bwyty bwyd môr 'Y Sied' (The Shed).

Ceir llawer o draethau gwych gerllaw, yn cynnwys Abereiddy a Threfîn. Gallwn hefyd eich hysbysu o draethau bach diarffordd ar ôl i chi gyrraedd y bwthyn, ond cyfrinach yw rhain, felly peidiwch â dweud wrth neb :). Mae traeth poblogaidd Whitesands ond 6 milltir i ffwrdd ac mae'n ddelfrydol ar gyfer syrffio, nofio a hwyl i'r holl deulu.

Mae Penrhyn Tŷ Ddewi yn hardd ac yn cynnwys Tŷ Ddewi ei hun, dinas leiaf Prydain. Mae'n werth ymweld â'r Gadeirlan sydd ond 6 milltir i ffwrdd o'r bwthyn. Mae digon o lefydd i fwyta ac yfed yn Nhŷ Ddewi, siopau bach lleol, ac archfarchnad. Mae ynys ddramatig Dewi (Ramsey) yn orlawn o adar a bywyd y môr. Gellir cael mynediad i'r ynys ar long o St Justinian. Gellir llogi pob math o dripiau llong, gan gynnwys reidiau cwch jet, tripiau pysgota, gwylio adar, gwylio morloi, ac hyd yn oed tripiau gwylio morfilod a dolffiniaid. Mae Llwybr Arfordirol Sir Benfro, rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan yn le delfrydol i fynd i gerdded. Mae bws wennol yn rhedeg gerllaw'r llety a gall eich gollwng i lawr neu eich pigo i fyny o lefydd gwahanol ar hyd y llwybr. Mae arforgampau (coasteering) yn boblogaidd iawn yn yr ardal (fe geisiodd Meirion, un ohonom ni, wneud hyn yma), yn enwedig yn y Blue Lagoon yn Abereiddy, gyda gwersi a llogi cit ar gyfer gweithgareddau poblogaidd megis caiacio a syrffio, ar gael yn lleol.

Mae Abergwaun 8 milltir i ffwrdd. Fe geir porthladd yma (perffaith ar gyfer trip diwrnod i'r Iwerddon) ac mae iddo hanes diddorol iawn: fe ddigwyddodd goresgyniad olaf Prydain yma yn 1797 gyda'r arwres leol, Jemima Nicholas yn honedig wedi trechu'r goresgynwyr Ffrengig, a hynny gan ddefnyddio fforch law yn unig. Mae tapestri arbennig yn darlunio'r benod hanesyddol hon a gellir ei weld yn Neuadd y Dref. Mae penrhyn creigiog Strumble Head ger Abergwaun yn le delfrydol i wylio'r llongau yn dod i mewn i'r porthladd ac i geisio cael cip olwg ar ddolffiniaid yn y bae.

Ar gyfer teuluoedd, mae Fferm Folly, Parc Antur Oakwood a Parc Trampolîn Hanger 5, Parc Bywyd Gwyllt Manor House a Byd o Weithgareddau Heatherton yn weithgareddau gwych ar gyfer pob tywydd.

Traethau

Abereiddy - traeth graeanog o gerrig a thywod. Mae'r traeth yn berffaith ar gyfer teuluoedd gyda cyfleusterau gwych ar y safle (2 filltir) 

Whitesands - traeth Baner Las sy'n boblogaidd gyda theuluoedd oherwydd y nofio diogel a'r tywod gwyn glan. Mae hefyd yn un o'r mannau gorau yng Nghymru ar gyfer syrffio (6 milltir)    

Chwaraeon Dŵr

Gellir trefnu i fynd i ganwîo, caiacio, arforgampio a mwy yn Abereiddy (2 filltir) 

Cerdded

Gellir ymuno â Llwybr Arfordirol Sir Benfro a Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan ym Mhorthgain (1 filltir)  

Pysgota

Ambell i fae a chreigiau ar gyfer pysgota môr gwych (1 filltir)   

Tripiau llong i bygota o St Justinians a Phorthgain (1 filltir)   

Golff

Mae Cwrs Golff Priskilly yn enwog am ei groeso cynnes a sialens y cwrs golff 9 twll (5 milltir)   

Beicio

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 (neu NCR 4) yn pasio'n agos i'r bwthyn ac yn mynd yr holl ffordd o Abergwaun i Lundain ar hyd lonydd gwledig tawel (0 milltir)   

Ar gyfer beicio oddi ar y ffordd beth am ymweld â pharc gwledig Llys-y-Fran y tu allan i Hwlffordd (20 milltir)  

Marchogaeth

Mae Stablau Nolton yn cynnig marchogaeth gwych ar draeth Druidstone Haven (11 milltir)