Ty Blawd

St Davids, Pembrokeshire West Wales

  • 3 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 7th June and 25th July
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024
  • Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £437 yr wythnos
  • £62 y noson
  • 3 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Dim tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn gwyliau hunan arlwyo moethus yn Nhy Ddewi, Gorllewin Cymru. Mae bwthyn Ty Blawd wedi ei leoli ar fferm deuluol, gyda llyn brithyll ar y safle. Mae’r fferm yn ymestyn i lawr i Lwybr Arfordirol Sir Benfro sy’n mynd ar hyd y clogwyni ar ymyl gogleddol penrhyn hardd Ty Ddewi. Mae hefyd yn agos i draeth Baner Las Porthmawr.

Llawr Gwaelod

Cegin ansawdd uchel yn cynnwys hob nwy, popty trydan, microdon, tegell, tostiwr, golchwr/sychwr dillad, oergell/rhewgell, haearn a bwrdd smwddio. Digonedd o lestri, cytleri a gwydrau yn ogystal ag offer coginio. Mae’r bwrdd yn eistedd pedwar yn gyfforddus.

Dau ris yn arwain i ardal y lolfa sydd wedi ei dodrefnu gyda soffa a dwy gadair freichiau, teledu â sianeli am ddim a chwaraewr DVD. Ceir chwaraewr CD/radio a chasgliad o lyfrau a gemau hefyd.

Llawr Gwaelod Uwch

Tri gris yn arwain i fyny i’r bathrwm - gyda theils ar y llawr a’r waliau. Bath gyda chawod bwerus drosto, tolied, basn golchi dwylo a gwyntyll.

Ystafell wely ddwbl glud.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely twin hyfryd gyda thrawstiau agored.

Gardd

Ceir ardal breifat tu allan i’r bwthyn. Mae croeso i westai gerdded trwy dir y fferm i ymuno â’r llwybr, sydd ond dri chae i ffwrdd. Ceir hefyd lyn ar y fferm a’i lond o frithyll, os hoffai gwestai ddod a’u ffyn pysgota gyda nhw.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nwy, trydan, gwres canolog/dwr poeth yn gynwysedig.

Darperir dillad gwely. Dewch a thyweli a thyweli llestri gyda chi os gwelwch yn dda.

Gellir darparu cot a chadair uchel ar eich cais (dewch a’ch dillad gwely eich hun i’r cot os gwelwch yn dda).

Croesewir cwn.

Lleoliad

Saif bwthyn hunan arlwyo Ty Blawd ar fferm weithredol, 2 filltir i’r gogledd o Dy Ddewi, dinas leiaf Prydain. Mae’r fferm yn ymestyn draw at Lwybr Cerdded enwog Arfordir Sir Benfro, a cheir nifer o lwybrau beicio yn pasio gerllaw.

Mae dinas hardd ac unigryw Ty Ddewi wedi ei hamgylchynu gan un o’r arfordiroedd gorau yn Ewrop. Derbyniodd statws dinas gan Frenhines Elisabeth II oherwydd presenoldeb yr eglwys gadeiriol, ond mewn gwirionedd, pentref bychan hardd yw Ty Ddewi. Wedi ei leoli o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, mae Ty Ddewi wedi ei amgylchynu gan olygfeydd arfordirol trawiadol ac mae’n adnabyddus am ei harddwch a’i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Mae Ty Ddewi wedi swyno llawer yn cynnwys hyfforddwr presennol tîm rygbi Seland Newydd sy’n cyfeirio at Dy Ddewi fel ei hoff le yn y byd.

Ychydig filltiroedd i’r dwyrain, ar arfordir bendigedig Gorllewin Cymru saif pentref Solfach, sydd hefyd yn cael ei gydnabod fel perl Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Lleoliad delfrydol ar gyfer cerdded, hwylio, pysgota neu yn syml iawn, i ymlacio ymysg y siopau, orielau a bwytai sydd wedi eu lleoli ynghanol golygfeydd gwefreiddiol. Saif y pentref ar hafn ddofn yn aber yr Afon Solfach, sy’n cynnwys stryd hir gyda harbwr bychan ar ei phen. Ceir nifer o dafarndai lleol sy’n darparu bwyd ac awyrgylch arbennig, yn ogystal â siop leol sy’n cynnwys swyddfa bost, siop papurau newydd a nifer o eitemau gwyliau megis offer pysgota ac eitemau i’r traeth. O harbwr Solfach gallwch ddal cwch i weld y bywyd gwyllt lleol neu hyd yn oed drip pysgota i ddal ychydig o bysgod ffres ar gyfer y barbiciw. Mae neidio o’r cei a physgota am grancod yn rai o hoff ddiddordebau’r plant lleol. Gellir hefyd archebu cyrsiau cychod hwylio a gweithgareddau dwr yn y cei.

Mae’n werth ymweld ag Ynys Dewi (Ramsey) yn ystod eich gwyliau hefyd. Ynys ddramatig, filltir oddi ar arfordir Sir Benfro yw hon, oddeutu 600 acer mewn maint gyda chlogwyni 400 troedfedd. Mae’r rhain yn llawn adar y môr yn magu ac mae bellach yn eiddo i’r RSPB. Gellir cyrraedd Ynys Dewi gyda gwasanaeth cwch arferol o St Justinian. Mae’r ynys yn gartref i filoedd lawer o adar môr yn y tymor, yn cynnwys gweilch y penwaig, gwylanod coesddu, gwylanod y graig a phalod (puffins). Mae’r ogofau a’r traethau o amgylch Ynys Dewi yn ardal fagwraeth i’r crynodiad mwyaf o forloi llwyd sy’n rhoi genedigaeth i dros 400 o genau bychain gwynion yn ystod yr Hydref.

Traethau

Porthmawr (Whitesands) – Traeth baner las sy’n boblogaidd gan deuluoedd gan ei fod yn cynnig nofio diogel a thywod gwyn glân. Fe’i hystyrir yn un o fannau syrffio gorau Cymru hefyd. 2 filltir

Bae Caerfai – Traeth tywod hyfryd a chysgodol, perffaith i deuluoedd. 2.8 milltir

Niwgwl – Traeth tywod gwastad a llydan sy’n ymestyn am ddwy filltir gyda chlawdd cerigos enfawr y tu cefn iddo. Mae ymchwyddiadau grymus yn rholio i mewn fan hyn drwy gydol y flwyddyn. 9.2 milltir

Traeth Caerbwdi - Traeth creigiog hardd, perffaith ar gyfer snorclo. Creigiau tywodfaen coch sydd fan hyn, ac oddi yma y cafwyd y cerrig ar gyfer adeiladu Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi. 3.1 milltir.

Chwaraeon Dwr

Mae TYF Adventure yn cynnwys canwio, caiacio, neidio arfordir a llawer mwy. 2.4 milltir

Cerdded

Llwybr Cerdded Arfordirol Sir Benfro. Os ydych chi’n edrych am daith gerdded fach hamddenol neu her wythnos o hyd, mae’r dewis ar drothwy eich drws. Ymunwch â’r llwybr 0.5 milltir i ffwrdd.

Pysgota

Ceir pysgota brithyll ar y safle yn llyn y fferm (cedwir brithyll yr enfys ynddo) 0 milltir

Ar gyfer pysgota môr, gallwch gerdded ar draws tir y fferm at gildraethau a darnau caregog sy’n cynnig pysgota môr penigamp, sydd hefyd yn un o’r llefydd gorau i bysgota am ddraenogiaid y môr yn y DU. 0.5 milltir.

Teithiau Cwch Solfach - Tripiau pysgota a thripiau golygfaol o Harbwr Solfach. 5.4 milltir

Golff

Clwb Golff Dinas Ty Ddewi - un o dri chwrs naw twll nodedig o fewn 20 milltir ar hyd arfordir Gogledd Sir Benfro. 2.2 milltir

Beicio

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 yn pasio gerllaw’r bwthyn ac yn rhedeg o Abergwaun i Lundain. Ar ffyrdd gwledig tawel yn bennaf. 0.3 milltir

Am feicio oddi ar y ffordd mae parc gwledig mawr Llys-Y-Fran tu allan i Hwlffordd. 27 milltir