Ty'r Castell

St Davids, Pembrokeshire West Wales

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £751 yr wythnos
  • £107 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 3 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Ystafell ymolchi

  • Dim tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 18:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn gwyliau 5 seren ger yr arfordir yn Sir Benfro sydd hefyd yn croesawu anifeiliaid anwes. Os ydych chi’n edrych am le rhamantus a chlud, lle i ddod ar wyliau gyda chriw o ffrindiau neu wyliau teulu, byddwch yn sicr wrth ei bodd gyda’r bwthyn hwn a’r ardal. Mae Ty’r Castell wedi bod yn gartref ers yr 16eg Ganrif ac efallai cyn hynny. Saif mewn llecyn hardd, 5 munud yn unig o harbwr bychan a thraeth tywodlyd Abercastell lle gellir ymuno â 186 milltir o Lwybr Arfordirol o amgylch Sir Benfro, gyda’i olygfeydd godidog. Bwthyn arfordirol delfrydol y gellir ei fwynhau drwy gydol y flwyddyn yn hinsawdd fwyn Abercastell. Tafarn wledig draddodiadol ger llaw hefyd.

Llawr Gwaelod

Ystafell fawr ar gynllwyn agored yng nghanol y bwthyn yn cynnwys cegin gyda bwrdd mawr ac ystafell fwyta yn y pen arall yn cynnwys stôf llosgi coed hardd. Cegin yn cynnwys micro-don, peiriant golchi a sychu dillad, oergell, rhewgell a pheiriant golchi llestri.

Ystafell fyw ar wahân – clyd iawn gyda dwy soffa a stôf losgi coed, teledu a chwaraewr DVD.

Ystafell ymolchi gyda chawod.

Gwres o dan y llawr ar y llawr gwaelod i gyd.

Llawr Cyntaf

3 ystafell wely gyda lloriau pren. Prif ystafell gyda gwely ‘super king’, ystafell twin a thrydedd ystafell gyda gwely sengl ar y prif lawr a gwely maint king ar lawr uwch ei ben. Gellir cyrraedd at hwn i fyny grisiau o’r ystafell.

Gardd

Gardd amgaeedig gyda phatio llechi a lawnt uwch o’i amgylch. Bwrdd patio gyda chadeiriau a chyfarpar barbeciw.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • System wresogi olew gyda gwres dan y llawr gwaelod a rheiddiaduron ar y llawr cyntaf. (Gwres a thrydan yn gynwysedig)
  • Basged gyntaf o logiau am ddim. Gellir prynu rhagor gan y perchennog.
  • Llieiniau gwely a thywelion dwylo yn cael eu cynnwys. Darperir tywelion baddon am bris ychwanegol.
  • Wi-fi a ffôn yn derbyn galwadau i mewn.
  • Digon o lefydd parcio.
  • Croesewir anifail anwes, (gellir derbyn mwy nag un gyda threfniant blaenorol)
  • Mae Ty’r Castell yn un o ddau fwthyn moethus ar y fferm, felly gall fod yn ddelfrydol ar gyfer teulu ehangach ayb sydd eisiau ymuno â’r gwyliau am ychydig ddiwrnodau.

Lleoliad

Mae bwthyn arfordirol Ty’r Castell yn Sir Benfro wedi ei leoli yn Abercastell, taith fer yn y car o ddinas leiaf Prydain, Tŷ Ddewi. Mae’r lleoliad yng nghefn gwlad rhwng Tŷ Ddewi ac Abergwaun a ddim ond 2 filltir o’r A487 a phentref Mathri. Mae bws Gwibiwr Strwmbl yn mynd yn ôl a blaen hefyd. Wedi ei leoli o fewn Parc Cenedlaethol Sir Benfro, mae’r bwthyn wedi ei amgylchynu gan olygfeydd godidog a gormodedd o fywyd gwyllt. Mae’r bwthyn hefyd yng ngolwg ‘Carreg Samson,’ siambr gladdu o Oes y Cerrig Newydd, a’r chwedl yw bod Sant Samson wedi gosod y garreg fedd gan ddefnyddio dau fys yn unig.

Mae Tŷ Ddewi yn ddinas hyfryd ac unigryw wedi ei hamgylchynu gan olygfeydd arfordirol godidog ac mae’n adnabyddus am ei harddwch a’i ddigonedd o fywyd gwyllt. Cadeirlan Tŷ Ddewi yw’r peth mwyaf nodweddiadol yno ers y 12fed ganrif ac yr oedd yn daith bererindod boblogaidd drwy’r Canol Oesoedd ac mae’n parhau i ddenu miliynau bob blwyddyn. Gerllaw'r gadeirlan mae adfeilion ysblennydd Llys yr Esgob o’r canol oesol. Mae gan ddinas Tŷ Ddewi lawer iawn i’w gynnig i bob ymwelydd.

Gall y perchennog drefnu gwyliau cerdded ar Lwybr Arfordirol Sir Benfro gyda thywysydd neu ddim. Cynigir gwasanaeth casglu a chludo i grwpiau, does dim angen pacio eich bagiau bob bore, dewch a’r esgidiau cerdded, côt, rhywbeth bach i’w fwyta a gwên!

Ar gyfer y rhai mwy actif ac anturus gall y perchennog (ar y cyd gyda chwmni arall) drefnu’r canlynol ar eich cyfer - Dringo Creigiau Môr, Caiacio Môr, Cyfarwyddiadau Cychod Pŵer, gwyliau Hwylio, Cyfarwyddiadau Hwylio (oddi ar y dŵr), Cyrsiau Morwriaeth, Cyrsiau Gyrru, Ymarferion Adeiladu Tîm, Cyrsiau Cymorth Cyntaf, Cyfeiriannu, Trawstaith Creigiau Môr, Syrffio a bol-fyrddio.

Mae Ynys Ddewi hefyd yn le gwych i ymweld ag ef yn ystod eich gwyliau. Mae’n ynys ddramatig, filltir o arfordir Sir Benfro. Mae’r ynys yn ymestyn dros tua 600 acer ac yn cynnwys creigiau sy’n 400 troedfedd o uchder sydd yn le bridio adar y môr, ac sydd bellach yn eiddo i’r Gymdeithas Frenhinol Amddiffyn Adar (RSPB). Gellir mynd i Ynys Ddewi drwy wasanaeth cwch rheolaidd o Sant Justinian, sydd yn croesi Swnt arbennig sy’n enwog am ei greigiau peryglus sy’n cael eu hadnabod fel y ‘Bitches.’

Traethau

Abercastell - Y traeth agosaf i’r bwthyn ac o fewn pellter cerdded hawdd. Cildraeth darluniadwy gyda thywod a cherrig mân. 0.2 milltir

Abereiddi - Traeth graeanog wedi yn cynnwys cerrig mân a thywod yn bennaf. Mae’r traeth yn wych ar gyfer teuluoedd gyda chyfleusterau defnyddiol yno. 4.5 milltir

Traeth Porth Mawr - traeth baner las sy’n boblogaidd gyda theuluoedd oherwydd ei nofio diogel a thywod gwyn, glân. Mae hefyd yn cael ei gydnabod fel un o lefydd syrffio gorau Cymru. 10 milltir

Chwaraeon Dŵr

Anturiaethau TYF yn cynnwys canŵio, caiacio, arfor-neidio a llawer mwy. 10 milltir

Cerdded

Os ydych eisiau tro hamddenol o gwmpas Abercastell neu heicio am wythnos gyfan, mae i gyd ar garreg eich drws. Llwybr Arfordirol Sir Benfro. 0.2 milltir

Pysgota

Dim ond pellter byr o’r bwthyn mae nifer o draethau bychain sydd yn darparu pysgota môr gwych, gan gynnwys un o’r llefydd gorau i bysgota draenogod y môr yn y Deyrnas Unedig. 0.2 milltir.

Tripiau Cwch – Tripiau pysgota a thripiau tywys i weld yr ardal o Borthgain. 3.5 milltir

Golff

Cwrs golff Priskilly sydd yn adnabyddus am ei groeso cynnes a chwrs golff heriol 9 twll, wedi ei osod mewn parcdir hyfryd. 4.5 milltir

Beicio

Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 (neu NCR 4) ¼ milltir o’r bwthyn ac yn mynd o Lundain i Abergwaun yn bennaf ar lonydd gwledig tawel. 0 milltir

Ar gyfer beicio oddi ar y ffordd mae Llys-y-frân yn barc mawr gwledig ychydig tu allan i Hwlffordd. 20 milltir

Merlota

Merlota Tŷ Ddewi yn darparu cyfleoedd marchogaeth yn yr ardal, gan fynd trwy ddyffrynnoedd a dolydd a mynd i badlo yn y môr neu sblash yn yr afon. 9.5 milltir