- £369 yr wythnos
- £53 y noson
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
Cegin
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Gyda golygfeydd rhagorol o Fae Sain Ffraid, mae’r bwthyn gwyliau cysurus hwn i 2 wedi ei leoli’n gampus rhwng Ty Ddewi a Solfach. Caiff pentref Solfach ei adnabod fel perl Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae’r bwthyn hwn sy’n croesawu cwn o fewn pellter cerdded i’r arfordir ac yn ddelfrydol ar gyfer cerdded, hwylio neu ymlacio ymysg siopau, orielau a bwytai’r ardal hyfryd hon.
Llawr Gwaelod
Cegin ac ystafell fyw ar gynllun agored (gyda theledu digidol) yn wynebu’r ffenestr tua’r de a’r ardd. Hob nwy, popty trydan, microdon a gofod i rewi ar gael yn y rhewgell fawr a gaiff ei rhannu.
Ystafell wely ddwbl glud gydag ystafell ymolchi yn cynnwys toiled, basn, bath a chawod dros y bath.
Gardd
Patio preifat gyda dodrefn gardd yn edrych dros ardal laswelltog fawr amgaeedig y’i rhennir gyda’r ddau fwthyn arall ar y safle. Delfrydol i blant ac i anifeiliaid anwes.
Gwybodaeth Ychwanegol
Croesewir uchafswm o 2 anifail anwes* am £10 yr anifail, am wythnos lawn neu rannol. Taladwy i’r perchennog wrth gyrraedd.
Darperir dillad gwely, tywel dwylo a thywelion sychu llestri.
Darperir tywelion bath ar gais am £3 ychwanegol y person (taladwy i’r perchennog wrth gyrraedd). Tywelion yn gynwysedig ar gyfer ymwelwyr tramor yn unig.
Gwres canolog llawn yn gynwysedig
Cot a chadair uchel ar gael
Llefydd parcio ar gael
Derbyniad ffonau symudol yn amrywio yn ôl y darparwr - dim ond Orange sydd yn hollol ddibynadwy.
Dim ysmygu
Gellir trefnu i warchod plant.
*Derbynnir archebion sy’n cynnwys anifeiliaid anwes ar yr amod eu bod wedi eu trin am lyngyr. Noder na ddylid eu gadael ar eu pennau eu hunain yn y bwthyn nac yn yr ardaloedd cymunedol a dylid eu cadw oddi ar y dodrefn drwy’r amser. Mae perchennog yr anifail yn gyfrifol am lanhau ar eu holau. Byddwch yn ystyriol o westeion eraill sy’n ymweld ar yr un pryd â chi a’r rhai sydd yn dod ar eich holau. Noder hefyd nad yw rhai o’r traethau poblogaidd lleol yn caniatáu cwn yn ystod misoedd yr haf.