Sea Heights

Saundersfoot, Pembrokeshire West Wales

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £558 yr wythnos
  • £80 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 1 gwely bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 17:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn hunan ddarpar trawiadol yn Saundersfoot gyda golygfa o'r môr o'r ardd ffrynt. Delfrydol ar gyfer teuluoedd neu grŵp o ffrindiau, mae'r byngalo hwn yn berffaith ar gyfer eich gwyliau yn Sir Benfro. Gyda traethau eang, dyfroedd clir, harbwr a llefydd gwych i fwyta ac yfed, mae Saundersfoot yn leoliad gwyliau arbennig.

Llawr Gwaelod

Ardal fwyta a chegin agored gyda 2 set o ddrysau deu-blyg yn agor allan i'r ardd gefn.     

Cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell maint llawn, tostiwr, tegell, popty a hob trydan, ffan.    

Lolfa gyda soddas cyfforddus, stôf losgi coed a theledu (Smart gyda freeview).   

Ail lolfa gydag ardal ddarllen.    

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gyda chwpwrdd dillad a theledu.  Ystafell ymolchi en-suite gydag uned gawod, toiled a basn.   

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl gyda chwpwrdd dillad a theledu.  

Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.  

Ystafell wely 3 - ystafell gyda dau wely sengl, storfa a theledu.   

Ystafell wely 4 - gwely bync (2 wely sengl maint llawn) gyda chwpwrdd dillad a theledu.    

Gardd

Lawnt fawr yn y cefn gyda patio ac ail batio yn y gornel gyda barbaciw a mainc i eistedd.   

Ardal teras yn yr ochr.  

Teras yn y ffrynt gyda golygfeydd o'r môr.   

Gwybodaeth ychwanegol

Trydan a gwres yn gynwysedig   
Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   
Cot trafeilio a chadair uchel ar gael.  
Storfa ddiogel ar gyfer beiciau / offer golff   
Haearn a bwrdd smwddio ar gael   
Digon o le parcio  
Caniateir anifeiliaid anwes (mwyafrif o 2)   

Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 

Gall archfarchnadoedd ymweld â'r bwthyn ac mae digon o siopau yn Saundersfoot a Dinbych y Pysgod  
Noder fod sleepers rheilffordd mewn un rhan o'r ardd ac rydym yn argymell nad ydy plant ifanc yn cael eu gadael ar ben eu hunain i chwarae ar rhein 

Lleoliad

Mae'r bwthyn hunan ddarpar trawiadol hwn yn Saundersfoot wedi ei leoli yn gyfleus i ganol y pentref. Mae ar fryncyn y gellir ei ddringo ond mae'n bosib y bydd angen car ar gyfer gwesteion sydd ddim am ddringo'n nol i fyny'r allt. Mae yna draeth braf, harbwr a dewis gwych o dafarndai a bwytai yn Saundersfoot. Mae'r traeth yn berffaith ar gyfer teuluoedd ac yn ddelfrydol ar gyfer caiacio, nofio, a gweithgareddau eraill. Gellir archebu tripiau pysgota a bywyd gwyllt o'r harbwr.

Dair milltir i ffwrdd mae Dinbych y Pysgod sydd yn cynnig nifer o atyniadau, yn cynnwys ystod o siopau, tafarndai traddodiadol, bwytai, a 3 traeth gwych.

Mae llwybr Arfordirol Penfro, sydd yn 186 milltir o hyd, yn pasio gerllaw, a gellir mwynhau golygfeydd anhygoel o'r arfordir oddi arno.   

Mae digonedd o atyniadau hamdden yn yr ardal sydd yn addas i bawb sydd yn aros yn y bwthyn hunan ddarpar hwn yn Saundersfoot. Yn cynnwys gweithgareddau dan do neu awyr agored megis beicio, pysgota, hwylio, syrffio, marchogaeth, bowlio, beiciau cwod yng nganolfan Ritec Valley Quad, reidiau brawychus yn Oakwood, Fferm Folly, a Pharc Chwaraeon Gwledig Heatherton.  

Traethau

Mae traeth tywod mawr yn Saundersfoot - delfrydol i deuluoedd (0.5 milltir) 

Traeth Barafundle - wedi derbyn pleidlais nifer o weithiau am fod yn un o'r traethau gorau ym Mhrydain a'r byd; fe'i gymharir yn aml â thraeth yn y Caribî - dim ond yn well! (14 milltir)    

Chwaraeon Dŵr

Chwaraeon Dŵr Dinbych y Pysgod - yr eithaf am anturiaethau dŵr, yn cynnig saffaris jet-ski, hurio caiacs, hurio cwch fodur, chwaraeon dŵr tynnu, gwahanol fathau o bordio (3 milltir)

Cerdded

Pun ai ymlwybro'n dawel neu heicio am wythnos yw eich dewis, mae Llwybr Arfordirol Sir Benfro, sydd yn rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan, ar stepen eich drws (0.4 milltir)    

Pysgota

Pysgota gwych o gwmpas y creigiau a'r traethau. Tripiau pysgota o'r harbwr  

Golff

Mae yna gwrs gollf llwyddianus a phoblogaidd yn Heatherton sydd yng nghefn gwlad trawiadol Sir Benfro. Sialens i bob golffiwr beth bynnag ei allu (5 milltir)   

Beicio

Mae lonydd tawel cefn gwlad yn ddelfrydol ar gyfer beicio - yn addas ar gyfer pob oed a gallu. Mae llwybrau lleol yn cynnwys Y Tramway, Llwybr Brunel, Cardi Bach, Llys y Fran. Mae'r llwybrau yn arwain yn uniongyrchol o'r bwthyn 

Marchogaeth

Mae Fferm Maros yn darparu gweithgareddau gan gynnwys merlota (9 milltir)