- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- £630 yr wythnos
- £90 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 3 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 4 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Dim tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Storfa tu allan
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Wedi ei leoli ond rai cannoedd o fetrau o'r dwr yn Sandy Haven, mae'r bwthyn hwn yn steilus, helaeth a pherffaith ar gyfer teuluoedd ac anifeiliaid anwes. Y bwthyn hwn yw'r lleiaf o nifer fach ar yr un safle sydd yn rhannu ystafell chwaraeon, parc chwarae plant a lawnt fawr sy'n ddelfrydol ar gyfer chwarae rownderi, pêl droed a gemau teuluol eraill. Mae yna nifer o draethau gwych a phentrefi arfordirol hyfryd yn yr ardal yn cynnwys Traeth Marloes, Dale, St Brides, Little Haven a Broad Haven. Ymhellach i ffwrdd mae yna nifer o atyniadau pob tywydd yn cynnwys Fferm Folly, Parc Deinosor, Parc Bywyd Gwyllt a Pharc Oakwood.
Llawr Gwaelod
Cegin, ardal fwyta a lolfa ar gynllun agored. Cegin gydag offer yn cynnwys popty dwbwl, hob 5 cylch, oergell/rhewgell, meicrodon, tostiwr, tegell a bwrdd bwyta i eistedd 8. Lolfa yn cynnwys 3 soffa, stôf goed nwy, a theledu ar y wal gyda DVD.
Ystafell wely 1 - gyda gwely dwbwl.
Ystafell ymolchi gyda toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - dau wely sengl gydag en-suite sy'n cynnwys baddon a chawod oddi mewn.
Ystafell wely 3 - dau wely sengl.
Ystafell wely 4 - gwely maint king gyda golygfeydd o'r môr yn y pellter.
Ystafell ymolchi gydag uned cawod mawr, toiled a basn.
Tu Allan
Lawnt gyda bwrdd picnic yn ogystal â lawnt fawr arall sy'n cael ei rhannu, gyda parc chwarae plant.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwelyau yn cael eu darparu. Dewch a thywelion eich hun
- Dewis da o lyfrau a gemau i blant
- WiFi ar gael
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dim ysmygu
- Croesewir anifeiliaid anwes (mwyafrif o 2 gi am £20 y ci). Noder y dylai'r cwn gael eu cadw ar dennyn ar y safle
- Lle parcio y tu blaen i'r llety ar gyfer 2 gar
Darperir y canlynol ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau. Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur i bob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
Gwybodaeth ar gyfer yr Anabl a'r Llai Abl
- Parcio rhwydd ar raean ac yna tir gwastad i mewn i'r llety
- Dim stepiau a gall cadair olwyn gael mynediad i'r ardd
- Ystafell wely a thoiled ar y llawr gwaelod
- Croesewir cwn tywys
Lleoliad
Bwthyn yng nghanol teras ar hen iard fferm ond sydd nawr yn cynnwys 10 o fythynnod gwyliau. Wedi ei leoli ond rai cannoedd o fetrau o'r traeth yn Sandy Haven. Mae'r dafarn agosaf, The Brook Inn, ychydig dros filltir i ffwrdd yn St Ishmaels. Tafarn ymlaciol sy'n addas i'r holl deulu ac yn gweini bwyd. Mae traeth cysgodol Sandy Haven yn ddelfrydol ar gyfer caiacio a physgota crancod.
Mae nifer o draethau gwych gerllaw yn cynnwys Traeth Marloes, Little Haven ac Aber Llydan (Broad Haven). Mae Dale a St Brides hefyd yn fannau diddorol, ac o Dale gellir dal cychod pysgota, gwylio adar neu hyd yn oed wylio dolffiniaid, cyn mynd yn nôl i Griffin Inn ar y cei am fwyd. Mae Aber Llydan yn draeth mawr sy'n addas ar gyfer yr holl deulu ac yn ffefryn gyda nofwyr a'r rheiny sy'n mwynhau chwaraeon dwr. Mae'r ardal yn berffaith ar gyfer beicwyr gyda'r Llwybr Beicio Celtaidd (National Cycle Route 4) yn pasio gerllaw, a milltiroedd o lonydd gwledig tawel i'w darganfod.
Mae pentref Little Haven ond taith fer i ffwrdd yn yn car. Unwaith yn leoliad masnachu môr a smyglo, mae yma draeth tywod, nifer o darafndai a chaffi a siop wych sy'n arbenigo mewn bwyd môr wedi ei ddal yn lleol. Mae'r traeth yn boblogaidd ar gyfer pysgota, syrffio, ac yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd. Yn ystod llanw isel gellir cerdded ar draws y traeth i Aber Llydan.
Traethau
Bae cysgodol Sandy Haven (0.2 milltir)
Aber Llydan - traeth euraidd yn wynebu'r gorllewin ac yn berffaith ar gyfer teuluoedd ifanc (5 milltir)
Chwaraeon Dwr
Offer syrffio, caiacio a mwy ar gael i'w llogi yn Haven Sports yn Aber Llydan (5 milltir)
Cerdded
Mae llwybr Arfordirol Sir Benfro sy'n rhan o Lwybr Arfordirol Cymru yn pasio gerllaw (0.1 milltir)
Pysgota
Pysgota gwych o'r lan ar hyd y rhan yma o'r arfordir (0.1 milltir)
Cychod pysgota yn gadael o Dale (4 milltir)
Golff
Clwb Golff Hwlffordd gyda golygfeydd anhygoel o Barc Cenedlaethol Sir Benfro (11 milltir)
Beicio
Mae'r ffyrdd tawel gwledig yn ddelfrydol ar gyfer beicio ac yn addas ar gyfer pob oed a gallu. Mae'r Llwybr Beicio Celtaidd (National Cycle Route 4) yn pasio gerllaw (0.1 milltir)
Marchogaeth
Stablau Marchogaeth Nolton yn fusnes teuluol, ac yn addas ar gyfer pob lefel a gallu (8.4 milltir)