Yn agos at 50 o draethau gwych sy'n cynnig hwylio, syrffio, caiacio, a llawer mwy.
- £561 yr wythnos
- £80 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Syrffio
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 09:00
Disgrifiad
Dolffiniaid, tywod euraidd a phyllau dŵr yn y creigiau! Dyma rai o'r pethau i ddarganfod yn ystod eich arhosiad yn llety hunan ddarpar Pembroke Mill. Hen felin ddŵr o'r ail ganrif ar bymtheg sydd wedi ei hadnewyddu'n ddiweddar ac oddi mewn i 30 acer o dir preifat ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn agos at 50 o draethau gwych sy'n cynnig hwylio, syrffio, caiacio, a llawer mwy.
Llawr Gwaelod
Derbynfa helaeth gyda grisiau yn arwain i fyny at Pembroke Mill. Mae'r llety wedi ei leoli ar lawr cyntaf ac ail lawr un hanner melin ddŵr sydd wedi ei hadnewyddu.
Mae yma gegin fasnachol ac ystafell fwyta fawr ar y llawr gwaelod - gellir defnyddio'r rhain gan y gwestai yn unig pan fydd y ddau lety yn cael eu archebu gan un parti, sy'n caniatau i bawb goginio a bwyta gyda'i gilydd. Mae yna hefyd doiled anabl ar y llawr gwaelod.
Llawr Cyntaf
Wrth fynd drwy'r drws i'r llety, o'ch blaen bydd lolfa helaeth gyda soffas lledr a theledu lloeren (freeview a Sky+).
Cegin - gyda'r holl offer yn cynnwys popty, meicrodon a llestri.
Ystafell wely 1 - gyda gwely sengl.
Ail lawr
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl
Ystafell wely 3 - ystafell deuluol gyda gwely dwbwl a gwely sengl.
Ystafell ymolchi - gyda baddon a chawod oddi mewn
Garden
There are 30 acres of private grounds, plus a patio and lawn area with BBQ, picnic bench and plenty of room to enjoy.
Gardd
Mae yma 30 acer o dir preifat, yn ogystal â patio a lawnt gyda Barbaciw, bwrdd picnic a digon o le i fwynhau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Trydan a gwres canolog yn gynwysedig
Dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt ar gael
WIFI am ddim
Cot a chadair uchel ar gael os dymunir
Ystafell olchi a sychu dillad
Dim anifeiliaid anwes
Lle parcio diogel
Mae lle yn Pembroke Mill ar gyfer storio eich offer adloniadol
Dewis o gemau a theganau plant ar gael
Gellir trefnu i logi beic os dymunir
Gwasanaeth pigo i fyny neu ollwng i lawr ar gael i westeion sydd am gerdded llwybr yr arfordir neu ymweld â mannau eraill yn yr ardal
Gellir archebu'r llety am wyliau byr ar rai adegau o'r flwyddyn. Mwy o wybodaeth o dan 'Prisiau'
Gellir cyfuno'r llety hefo Pembroke Retreat i gysgu hyd at 12
Lleoliad
Mae Pembroke Mill yn un o ddau lety hunan ddarpar oddi mewn i hen felin ddŵr sydd newydd ei hadnewyddu. Wedi ei leoli ar 30 acer o dir preifat, hanner milltir o ganol tref Penfro a 5 munud o'r traeth agosaf. Mae llawer iawn i'w wneud yn yr ardal, gan gynnwys 7 cwrs golff o fewn taith chwarter awr yn y car.
Tref fach yw Penfro ei hun wedi ei hamgylchynu gan wal hynafol - y rhan fwyaf yn dal i sefyll. Fe saif Castell Penfro yn urddasol ger cefnen greigiog gyda dŵr ar dair ochr - dyma un o'r cestyll Normanaidd sydd wedi goresgyn orau yn y wlad. Mae'n hawdd gweld pam y datganwyd Penfro yn ardal cadwraeth yn 1977. Gellir dod o hyd i nifer o dafarndai lleol traddodiadol yn y dref.
Heb fod ymhell o'r llety hwn mae trefi glan môr Dinbych y Pysgod a Llanussyllt (Saundersfoot); trefi hanesyddol Doc Penfro ac Aberdaugleddau; cestyll Maenorbŷr a Caeriw; traethau gwych arfordir De Sir Benfro; tref farchnad boblogaidd Narberth; dyfrffordd hardd Aberdaugleddau, ac wrth gwrs, Llwybr Arfordirol Penfro. Mae hyn i gyd, yn ogystal â llawer o atyniadau a gweithgareddau eraill i'w darganfod yn yr ardal. I'r rhai sy'n mwynhau chwaraeon dŵr neu'r traethau, nid oes unrhyw Sir arall yn y DU gyda mwy o wobrau glan môr neu draethau Baner Lâs, felly os ydech am syrffio, caiacio, hwylio, neu ymlacio ar y tywod, mae yna draeth i chi - yr agosaf ond 5 munud i ffwrdd a 49 arall heb fod ymhell yn y car!
Os ydych wrth eich bodd yn bwyta ac yfed ar eich gwyliau, mae yna dafarndai lleol traddodiadol a bwytai, o fewn pellter cerdded i'ch llety. Mae porthladd yr Irish Ferry ond 5 munud o Pembroke Mill, a gyda llongau yn rhedeg ddwywaith y dydd, beth am daro drosodd i Iwerddon am y diwrnod.
Mae nifer o atyniadau teuluol yn yr ardal yn cynnwys parciau antur, parciau dŵr, sŵ a chanolfannau bywyd gwyllt, chwaraeon dŵr, gwîb gartio, saethyddiaeth, marchogaeth ar y traeth, adar ysglyfaethus, tripiau ar gwch i ddarganfod ynysoedd lleol, a llawer, llawer mwy.
Beaches
Traeth Aberfawr (Freshwater East) yw'r agosaf i Pembroke Mill, yn wynebu'r dwyrain, ac wedi ei gysgodi o'r gwynt sy'n ei wneud yn ddelfrydol i deuluoedd (4 milltir)
Traeth Barafundle - un o'r traethau gorau ym Mhrydain a'r byd; fe'i gymherir yn aml i draeth yn y Caribî, ond yn well! (4.9 milltir)
Chwaraeon Dŵr
Un o'r ardaloedd gorau am anturiaethau chwaraeon dŵr yn cynnig tripiau jet-sgi, hurio caiac, hurio cwch modur, a phob math o chwaraeon bordiau - Tenby Watersports (11 milltir)
Cerdded
Cerdded ar gyfer pob gallu ar stepen y drws, gyda tafarn leol i dorri syched heb fod ymhell - Llwybr Arfordirol Penfro (0.5 milltir)
Pysgota
Heb fod ymhell o'r llety, mae pysgota môr gwych yn Aberdaugleddau (harbwr naturiol ail fwyaf y byd) (8 milltir)
Tripiau cwch i bysgota neu i weld y golygfeydd o Ddinbych y Pysgod (11 milltir) neu Aberdaugleddau (8 milltir)
Golff
Clwb Golff De Penfro - cwrs gwych 18 twll yn addas ar gyfer golffwyr o bob gallu drwy gydol y flwyddyn (3.5 milltir)
Beicio
Mae'r ffyrdd gwledig tawel yn ddelfrydol ar gyfer beicio i bob oed a gallu, gyda llwybrau megis Cardi Bach a Llys y Frân gerllaw. Mae ffyrdd lleol yn arwain yn syth o'r llety (0 milltir)
Marchogaeth
Marchogaeth Traeth Stablau Nolton - busnes teuluol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro (19 milltir)