- £516 yr wythnos
- £74 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Bwthyn gwyliau sy’n croesawu anifeiliaid anwes ac sydd o fewn pellter cerdded i 2 draeth gwych a 4 tafarn lleol sy'n cynnig bwyd a chroeso cynnes. Bwthyn Gwyliau Deudraeth yw’r lleoliad perffaith am wyliau gyda’r teulu neu ffrindiau. Mae’r arfordir yn enwog am ei ddolffiniaid, a gallwch wylio’r mamaliaid godidog hyn o’r tir neu drwy fynd ar daith ar gwch lleol. Mae’r traethau’n addas i deuluoedd ac maen nhw’n cynnig cyfleoedd gwych i syrffio, pysgota a chwilota yn y pyllau dŵr rhwng y creigiau. Mae modd ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan, sydd gerllaw, a gall Roced Poppit (gwasanaeth bws) eich gollwng neu eich codi ar hyd y daith. Mae’r siopau lleol yn hyfryd, a gallwch grwydro a chwilio am bethau unigryw i’ch atgoffa o’ch gwyliau arbennig. Os ydych chi’n chwarae golff, rhaid ichi ymweld â Chlwb Golff Trefdraeth – mae’r golygfeydd o’r cwrs yn rhyfeddol, felly does dim ots a ydy’r chwarae yn dda neu beidio! Mae digonedd o gyfleoedd i feicio a physgota hefyd. Ar ôl y gwaith caled, gallwch ymlacio a phrofi peth o’r cynnyrch lleol arbennig sydd ar gael yn yr amrywiaeth eang o fwytai.
Llawr Gwaelod
Lolfa gyda soffas cyfforddus, teledu (Freeview), DVD, tân nwy, a mapiau a gwybodaeth leol i dwristiaid.
Mae popeth sydd ei angen arnoch chi yn y gegin, gan gynnwys oergell/rhewgell maint llawn (3 silff), peiriant golchi llestri, hob nwy, ffwrn drydan, tostiwr a thegell.
Mae man bwyta brecwast i gael y tu allan i’r gegin gyda 4 stôl a bwrdd, a drysau patio sy’n agor i gefn y tŷ.
Ystafell fwyta sy’n cynnwys bwrdd a chadeiriau i 6 person.
Ystafell golchi dillad gyda basn ychwanegol, peiriant golchi dillad, peiriant sychu dillad ac ardal sychu dillad.
Ystafell gotiau ar y llawr gwaelod gyda thŷ bach.
Llawr Cyntaf
Ystafell Wely 1 yw’r prif ystafell wely gyda gwely mawr iawn, bwrdd ymbincio, cwpwrdd dillad ac en-suite gydag uned gawod, basn a thŷ bach.
Ystafell babi / storio. Rhwng pen y grisiau ac ystafell wely 1, mae ystafell fechan sy’n berffaith i roi cot i fabi neu i storio bagiau.
Mae Ystafell Wely 2 yn ystafell ddwbl gyda chwpwrdd dillad wedi’i osod.
Mae Ystafell Wely 3 yn ystafell gyda 2 wely sengl, a chwpwrdd dillad.
Mae’r brif ystafell ymolchi yn cynnwys bath, cawod dros y bath, tŷ bach a basn.
Gardd
Ardaloedd â lawnt i’r blaen a’r ochr, ardal balmantog i’r cefn gyda bwrdd a chadeiriau. Ardal batio i’r ochr gyda bwrdd picnic, barbeciw a ‘chiminea’. Mae’r gerddi i’r ochr a’r cefn yn amgaeedig.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso Cymreig yn gynwysedig.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Darperir tyweli gan gynnwys tyweli ar gyfer y traeth.
- Cot a chadair uchel ar gael (mae gorchudd ar y matres ond dewch â’ch dillad gwely eich hun ar gyfer y cot os gwelwch yn dda).
- Dim ysmygu.
- Croesewir anifeiliaid anwes, mwyafrif o 2 gi. £10 fesul anifail. Ni chaniateir iddynt fynd i fyny'r grisiau.
- Mae tyweli cŵn ar gael.
- Wi-fi yn gynwysedig.
- Mae digon o le i barcio ar y dreif ac ar y ffordd y tu allan.
- Bydd yr eitemau a ganlyn hefyd ar gael ichi yn ystod eich cyfnod yn Deudraeth.
Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri.
Ystafell ymolchi: sebon llaw a 2 rolyn o bapur ym mhob tŷ bach. Cynnyrch glanhau cyffredinol: hylif glanhau ac ati.