- £1,020 yr wythnos
- £146 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 1 Pet
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Ty gwyliau mawr moethus ar wahân gyda dwy ardd helaeth yn y blaen ac yn y cefn. O fewn pellter cerdded i dafarn, siop a phwll nofio a dwy filltir yn unig o draeth tywodlyd Cei Newydd sydd wedi derbyn gwobr Baner Las. Lleolir ar heol breswyl dawel a phreifat yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru, gyda golygfeydd eang gwych. Saif ar ymyl pentref Cross Inn, naw milltir o Aberaeron a deunaw milltir o Aberteifi ac Aberystwyth. Lleoliad cyfleus, yn ganolog i amrediad helaeth o atyniadau a gweithgareddau lleol.
Llawr Gwaelod
Mae gan y ty moethus hwn fynedfa fawr yn arwain i ben y grisiau mahogani lle ceir goleuadau cylch addurniadol.
Ceir llawr pren yn yr ystafell fyw fawr yn ogystal â lle tân marmor gyda lle tân trydan ag effaith glo. Teledu gyda sianeli am ddim a DVD.
Ail ystafell fyw fawr gyda soffa ledr foethus i dri a lle tân marmor. Teledu arall gyda sianeli am ddim.
Cegin gyflawn fawr iawn gyda 5 hob, popty trydan, oergell/rhewgell mewn cwpwrdd a golchwr llestri. Bwrdd cegin derw, chwech o gadeiriau a theledu gyda sianeli am ddim.
Ystafell fwyta ffurfiol mewn mahogani gyda bwrdd a 4-8 cadair, uned wal a drysau patio yn arwain i’r ardd gefn.
Iwtiliti fawr gyda microdon, peiriant golchi a sychwr dillad ar wahân, toiled a drws cefn yn arwain i’r ardd.
Llawr Cyntaf
Pen y grisiau yn agored gyda chanhwyllyr grisial â 12 o oleuadau i’w addurno.
Prif ystafell wely gyda gwely maint king, suite mahogani cyflawn ac ystafell ymolchi en suite (toiled, basn, bath a chawod llaw).
Ail ystafell wely fawr gyda gwely dwbl, suite hufen a mynediad at ystafell ymolchi gyda bath/cawod.
Ystafell wely tri gyda gwely dwbl, dodrefn a mynediad i’r un ystafell ymolchi ag ystafell dau.
Ystafell wely pedwar gyda dau wely sengl a storfa yn y wal.
Gardd
Gerddi mawr iawn yn y blaen a’r cefn.
Yn y blaen ceir lawnt helaeth gyda giatiau dwbl a wal o’i hamgylch.
Lawnt helaeth arall yn y cefn gyda phatio. Wedi ei ffensio ar hyd y cefn gyda golygfeydd dros dir fferm. Lein ddillad, tap tu allan a dodrefn gardd. Darperir trampolîn mawr ar gais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dillad gwely, tywelion dwylo a bath yn gynwysedig
Darperir cot ar gais, dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Gwres nwy canolog a thrydan yn gynwysedig
Rhodfa 60 troedfedd yn y blaen gyda lle i lawer o geir. Goleuadau addurniadol ar hyd y rhodfa.
Ffôn ar gyfer derbyn galwadau yn unig
Ni chaniateir anifeiliaid anwes nac ysmygu yn y llety.
Pwll nofio yn y parc carafanau gyferbyn (codir ffi am ei ddefnyddio).