Y Cleddau

Llangwm, Pembrokeshire West Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £531 yr wythnos
  • £76 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r afon
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Sorry, infants (aged under 2) are not allowed at this property
  • Sorry, children (aged between 2 and 17) are not allowed at this property
  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Yn swatio ger aber afon diarffordd ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro, heb fod ymhell o ganol pentref bychan Llangwm. Mae’r bwthyn gwyliau rhyfeddol hwn yn cynnig llonyddwch oddi mewn ac oddi allan, wedi ei leoli 50 metr o’r dŵr ac o fewn ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Unwaith i chi gyrraedd bydd yn bosib i chi fyw yn hapus heb ddefnyddio eich car, os mai dyna yw eich dymuniad, gan fod popeth sydd ei angen arnoch o fewn pellter cerdded, yn cynnwys llwybrau anhygoel, golygfeydd o’r dŵr, tafarn a siop leol gerllaw. Os dymunwch grwydro ymhellach, gellir mwynhau traethau braf, cestyll ac atyniadau eraill o fewn taith fer yn y car. Dyma leoliad delfrydol ar gyfer cyplau, neu deuluoedd sydd yn chwilio am encil rhamantus ac ymlaciol. Gellir hefyd fwynhau gwyliau yn seiliedig ar weithgareddau awyr agored, gyda mynediad uniongyrchol i’r dŵr ar gyfer caiacwyr a chanŵ-wyr.

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw gysurus a chlyd gyda stôf losgi coed a lle cyfforddus i eistedd 4 gyda teledu a chwaraewr DVD.

Cegin ffasiynol gyda’r holl offer angenrheidiol yn cynnwys Rayburn, hob trydan a pheiriant golchi llestri.

Ardal fwyta eang gyda lle i 4 eistedd.

Llawr Cyntaf

Ystafell ymolchi ffasiynol gyda baddon a chawod arwahan.

Ystafell wely yn cynnwys gwely derw modern, gyda nenfwd a hen le tân pren. Ffenestri sash yn edrych allan dros y dyffryn coediog.

Ystafell wely ddwbwl gyda lle storio a golygfeydd o’r coetir.

Gardd

Gardd hardd y tu blaen i’r bwthyn gyda bwrdd a chadeiriau wedi eu gosod ar gerrig llechi ymysg y borderi.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso gyda cynnyrch lleol (e.e. mêl a wyau maes o’r pentref, catwad cartref, bara lleol, llaeth, teisennau cri, menyn Cymreig, te a choffi).
  • Cyflenwad cychwynol o goed ar gyfer y stôf goed.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Dillad gwely, tywelion a sychwr gwallt ar gael.
  • Cynnyrch ymolchi organig (grawnffrwyth, lemon a phren cedrwydd) wedi eu gwneud yn lleol - Conscious Skincare.
  • Wi-fi ar gael.
  • Peiriant golchi/sychu dillad.
  • Llety delfrydol ar gyfer gŵyl lenyddol Llangwm.
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu.
  • Cynnyrch glanhau sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd yn gynwysedig
  • Parcio oddi ar y ffordd ar gyfer un car.



Lleoliad

Mae’r bwthyn gwyliau hwn yn Llangwm yn un o 4 o dai mewn rhes ar hyd ymyl aber yr afon Cleddau. Mae’r bwthyn wedi ei leoli oddi ar ffordd dawel ac ond 50 metr o aber yr afon Cleddau/Cleddau Ddu, sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol. Gellir cerdded i Langwm, pentref traddodiadol gyda siop/swyddfa bost, a thafarn bentref sydd yn gweini prydiau clasurol - mae’r perchennog ddigon bodlon archebu bwyd arbenigol lleol i mewn, megis crancod a physgod, os gofynnir am hynny o flaen llaw. Mae’r cinio dydd Sul yn ardderchog gyda phrisiau cystadleuol, a bob dydd Gwener mae’n ddiwrnod pysgod lleol a sglodion. Fe gynhelir gŵyl lenyddol flynyddol yn Llangwm.

Fe geir llawer o lefydd da i fwyta gerllaw. Mae Beggars Roost yn Burton ond 3 milltir i ffwrdd - wedi ei leoli mewn rheithordy sydd wedi ei adnewyddu ac o fewn 9 acer o erddi hardd, fe weinir prydiau bwyd rhagorol yn y bwyty, yn cynnwys Tarten Tomato, Brie a Sbigoglys; Eog gyda Mêl a Sinsir; a Pastai Stêc a Chwrw. Mae nos Wener yn noson stêc. Hefyd yn Burton mae’r Jolly Sailor yn edrych allan dros y dŵr a sydd gyda rhestr eang o winoedd â bwydlen hir sydd yn cynnwys digon o gynnyrch lleol.

Mae’r ardal yn adnabyddus am ei thraethau syfrdanol gan gynnwys Barafundle a Broad Haven. O fewn 20 milltir mae Tŷ Ddewi, gyda Chadeirlan hardd a nifer o siopau bach gwych. Dylid hefyd ymweld â phentref Solfach, gyda’i harbwr tlws, a Narberth gyda’i siopau unigryw. Gellir archebu tripiau i weld y golygfeydd, gwylio bywyd gwyllt, cychod pysgota a tripiau pleser i gyd o Tŷ Ddewi. Mae atyniadau eraill yn cynnwys Parc Dŵr Blue Lagoon, Parc Thema Oakwood, a Byd Gweithgareddau Hetherton.

Traethau

Traeth tywod Aberllydan (Broad Haven) sydd yn wynebu’r Gorllewin (10 milltir).

Chwaraeon Dŵr

Gellir llogi byrddau syrffio gwynt a caiaciau o Haven Sports yn Aberllydan.

Cerdded

Llwybrau cerdded braf o’r bwthyn yn cynnwys Llwybrau Arfordirol Cymru Gyfan/Sir Benfro (0.1 milltir).

Pysgota

Gellir pysgota o fewn aber yr afon neu o nifer o leoliadau ar hyd ochr y dŵr. Gellir hefyd archebu tripiau ar gychod pysgota o St Martin’s Haven (13 milltir).

Golff

Clwb Golff Mayfield (3 milltir)

Beicio

Mae Taith Sir Benfro (Tour of Pembrokeshire) yn ddigwyddiad beicio blynyddol gwych yn yr ardal. Gyda lonydd gwledig tawel gellir beicio o ddrws y bwthyn (0.1 milltir).

Marchogaeth

Mae Stablau Marchogaeth Traethau Nolton yn fusnes teuluol gwych ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro (13 milltir).