Hen Ysgubor

Lampeter, West Wales

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £632 yr wythnos
  • £90 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae Hen Ysgubor yn fwthyn moethus 5 seren gyda stôf llosgi coed groesawgar, wedi ei leoli yng nghanol cefn gwlad hyfryd Gorllewin Cymru. Mae ganddo hefyd ystafell gemau ar wahân ar y safle. Siwrnai fer yn unig o arfordir gwych Bae Ceredigion, ardal Gadwraeth arbennig sy’n enwog am ei phoblogaeth frodorol o ddolffiniaid a llamidyddion. Mae croeso i westeion gerdded o amgylch y tir a’r ardal amgylchynol a gwylio’r gweithgareddau bob dydd ar y fferm hon sydd wedi ennill sawl gwobr.

Cyn adeilad fferm wedi ei drawsnewid yw Hen Ysgubor, sydd hefyd yn addas ar gyfer pobl gydag anableddau symudol. Wrth i chi gamu i mewn mae awyrgylch groesawgar yn aros amdanoch yn y lolfa gartrefol gyda lle tân o gerrig a derw. Bydd y stôf llosgi coed wedi ei pharatoi ar eich cyfer os ydych yn cyrraedd pan fo’r tywydd ychydig yn oerach.

Llawr Gwaelod

Lolfa helaeth a chysurus gyda llawr derw. Stôf llosgi coed (darperir basged o goed tân), teledu, chwaraewr DVD a CD. Gellir trawsnewid y soffa yn wely dwbl. Mae’r bwthyn 5 seren hwn wedi ei ddodrefnu gyda dodrefn derw drwyddo draw.

Cegin gyflawn yn cynnwys golchwr llestri, oergell, microdon, rhewgell, popty maint llawn / hob, peiriant golchi dillad / sychwr dillad a chyfarpar smwddio. Ceir hefyd gasgliad cyflawn o lestri, gwydrau, cytleri, sosbenni ayb i wneud coginio yn bleser.

Ystafell wely ar y llawr isaf gyda gwely maint king ac ystafell en-suite fawr, gyda thoiled a basn golchi dwylo. Dodrefn derw yn cynnwys cwpwrdd dillad, cist o ddroriau, cabinet wrth y gwely a drych.

Llawr Cyntaf

Grisiau derw yn arwain at ddwy ystafell wely - un dwbl ac un twin.

Mae gan yr ystafell wely ddwbl ystafell en-suite gyda chawod y gellir cerdded i mewn iddi. Toiled a basn golchi dwylo. Dodrefn yn cynnwys cist o ddroriau, cwpwrdd dillad a chabinetau wrth ochr y gwely.

Ystafell wely twin ensuite gyda baddon, toiled a basn golchi dwylo yn yr ystafell ymolchi. Dodrefn yn cynnwys cist o ddroriau derw a chabinet wrth y gwelyau.

Gardd

Ardal batio i’w rannu gyda dodrefn gardd i fwynhau'r golygfeydd hyfryd, barbeciw, awyr iach a heulwen.

Ystafell gemau gyda bwrdd pwl a thennis bwrdd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gellir gosod gwely sengl ychwanegol yn unrhyw un o’r ystafelloedd gwely.

Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig heb gost ychwanegol.

Darperir cot a chadair uchel ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.

Gwres olew canolog a thrydan yn gynwysedig.

Digonedd o le parcio diogel.

Ffolder yn llawn gwybodaeth am weithgareddau ac atyniadau lleol yn y bwthyn.

Dim ysmygu yn y bwthyn.

Ystafell gemau ar y safle a gardd gaeedig i’w rhannu.

WIFI ar gael.

Darperir barbeciw - Bydd angen dod a siarcol eich hun

Uchafswm o 2 anifail anwes, ac fe’u caniateir ar lawr gwaelod y bwthyn yn unig.

Lleoliad

Mae’r Hen Ysgubor wedi ei leoli ar fferm sydd wedi ennill gwobrau milltir i ffwrdd o dref farchnad Llanbedr a dim ond deg milltir o arfordir bendigedig Ceredigion. Mae’r fferm wedi ennill sawl gwobr fawreddog leol a chenedlaethol ar gyfer eu system ffermio ac mae wedi ei ddogfennu’n dda ar hyd y blynyddoedd yn y wasg leol a chenedlaethol. Mae’r fferm wedi ei henwi dwywaith fel y fferm laswelltir orau yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi cynhyrchu’r silwair gorau yng Nghymru nid llai na phedair gwaith. Anrhydeddau eraill yw'r fferm lanaf a thaclusaf, yr adeiladau fferm sydd wedi eu cynllunio orau a fferm llawr gwlad orau Cymru.

Mae Llanbedr (1 milltir) yn gartref i Goleg Prifysgol Cymru hynaf Cymru, a dyma sefydliad sydd yn gwobrwyo graddau hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl Caergrawnt a Rhydychen. Mae yna gefn gwlad godidog llawn golygfeydd yn yr ardal ac afon hyfryd Teifi ar gyfer pysgota â gwialen.

Gerllaw mae yna lawer o fwytai annibynnol lleol a thafarndai sydd yn gweini cynnyrch da lleol.

Mae Aberaeron (10 milltir) yn berl celfyddydol llawn diddordebau. Mae yna acwariwm môr, sydd yn enwog am ei fwytai Harbourmaster ac ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llanerchaeron. Bu unwaith yn borthladd prysur gyda hanes adeiladu llongau llewyrchus, ac mae rwan yn gartref i longau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer hamdden yn hytrach na gwaith. Mae’r dref yn parhau i fod yn fan hyfryd i eistedd a gwylio’r byd yn mynd heibio. Mae yna lawer o gaffis a bwytai lleol o ansawdd uchel a thafarndai traddodiadol niferus.

Cerdded

Llwybrau cerdded gwledig mewndirol yn cynnwys Llwybr Teifi , 1 milltir.

Llwybr Cerdded Arfordirol Ceredigion - yn mynd ar hyd un o ardaloedd arfordirol harddaf yng Nghymru, 10 milltir.

Beicio

Beicio hyd lonydd gwledig ar gael yn cynnwys Llwybr 82 o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sydd yn mynd drwy Lanbedr, l milltir, neu mwynhewch lawer o lwybrau beicio eraill megis Ffordd St David, Cribyn a Llwybrau Gardd Cae Hir, 1 milltir.

Golff

Mae Clwb Golff Cilgwyn yn gwrs golff naw twll tu allan i Lanbedr, 4 milltir.

Merlota

Marchogaeth ar gael mewn ychydig o leoliadau yn cynnwys Bitles Bridle, 5 milltir.

Pysgota

Pysgota Gêm - Afon Teifi yw un o afonydd enwog Prydain am bysgota eogiaid. Trwyddedau diwrnod ar gael, 1 milltir.

Pysgota Cwrs - Cyrchfan Llynnoedd Celtaidd yn cynnig 75 acer o ddyfroedd di-gyffwrdd anhygoel ar gyfer pysgota, 2.5 milltir.

Pysgota môr - Pysgota ar y lan ar hyd yr arfordir a thripiau llogi cychod ar gael o borthladd Aberaeron, 10 milltir.

Traethau

Mae traeth graean Aberaeron yn boblogaidd gyda’r rhai sydd yn edrych am chwaraeon dwr tyner fel hwylio, hwylfyrddio a chanwio, 10 milltir.

Mae traeth Cei Newydd yn draeth helaeth, tywodlyd ac wedi ei gysgodi’n dda rhag y gwynt, wedi ei wobrwyo â Baner Las, (Traeth Porthladd) mae’n boblogaidd yn ystod misoedd yr haf, 16 milltir.

Chwaraeon Dwr

Gallwch ddewis o hwylio dingi, mordeithio ar gwch hwylio, cwch bwer, hwylfyrddio, caiacio gyda sesiynau llai a chyrsiau hirach, yn addas ar gyfer pob lefel a gallu. Chwaraeon Dwr Bae Ceredigion, 16 milltir.