Beudy Bach

Lampeter, West Wales

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Pre-Easter offer for stays between 23rd February - 28th March
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May
  • Special Offer20% Pre-Easter offer w/c 22nd March
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 31st May and 25th July

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £562 yr wythnos
  • £80 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Saif y bwthyn hwn ar fferm weithiol lle mae croeso i westeion gerdded o amgylch y tir a’r ardal o’i amgylch a gwylio’r gweithgareddau bob dydd. Mae Beudy Bach yn fwthyn moethus 5 seren gyda thwb poeth, stôf llosgi coed ac ystafell gemau ar wahân, i gyd wedi ei leoli ynghanol cefn gwlad dawel braf. Taith fer yn unig o arfordir godidog Bae Ceredigion - ardal Gadwraeth arbennig sydd hefyd yn enwog am ei boblogaeth frodorol o ddolffiniaid a llamidyddion.

Cyn adeilad fferm wedi ei drawsnewid yw hwn ac wrth i chi gamu i mewn mae awyrgylch groesawgar yn eich disgwyl yn y lolfa gartrefol gyda lle tân o gerrig a derw. Bydd y stôf llosgi coed wedi ei pharatoi ar eich cyfer os ydych yn cyrraedd pan fo’r tywydd ychydig yn oerach.

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw helaeth a chysurus gyda llawr derw a stôf llosgi coed (basged o logiau yn cael eu darparu). Mae’r bwthyn wedi ei ddodrefnu gyda dodrefn derw drwyddo draw. Ceir teledu gyda chwaraewr DVD a CD.

Mae’r gegin yn cynnwys popeth y byddech yn ei ddisgwyl o fwthyn 5 seren, gyda golchwr llestri, oergell, microdon, rhewgell, popty maint llawn / hob, peiriant golchi dillad / sychwr dillad a chyfarpar smwddio i gyd yn gynwysedig. Ceir hefyd gasgliad cyflawn o lestri, gwydrau, cytleri, sosbenni ac offer cegin ayb i wneud coginio yn bleser.

Drws nesaf i’r gegin ceir ystafell iwtiliti sy’n addas ar gyfer sychu a storio esgidiau cerdded ayb.

Ystafell wely ar y llawr isaf gyda dau wely sengl ac ystafell ymolchi en-suite helaeth, gyda chawod, toiled a basn golchi dwylo. Dodrefn derw yn cynnwys cwpwrdd dillad, cist ddroriau, cabinet wrth ochr y gwely a drych.

Llawr Cyntaf

Grisiau derw yn arwain i ystafell wely fawr deuluol gyda gwely maint king a gwelyau bync, cwpwrdd dillad, cist ddroriau a chabinet ger y gwely. Ceir ystafell en-suite yma hefyd gyda bath, toiled a basn golchi dwylo.

Gardd

Ardal batio gyda thwb poeth, dodrefn gardd i fwynhau'r golygfeydd hyfryd, barbeciw golosg (Darperir cyflenwad ar gyfer un barbeciw), awyr iach a heulwen.

Ystafell gemau gyda bwrdd pwl a thennis bwrdd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nodwch os gwelwch chi'n dda mai'r mwyafrif y gallwn ei dderbyn yn y bwthyn yma yw 4 oedolyn a 2 o blant.

Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig heb gost ychwanegol.

Darperir cot a chadair uchel ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.

Gwres olew canolog a thrydan yn gynwysedig.

Digonedd o le parcio diogel o’r neilltu

Ffolder yn llawn gwybodaeth am weithgareddau ac atyniadau lleol yn y bwthyn.

Dim ysmygu yn y bwthyn

Ystafell gemau ar y safle gyda bwrdd pwl a thennis bwrdd.

WIFI ar gael

Uchafswm o 2 anifail anwes, ac fe’u caniateir ar lawr gwaelod y bwthyn yn unig

Lleoliad

Mae Beudy Bach yn uno â bwthyn arall ac ystafell gemau sy’n cael ei rhannu ac mae wedi ei leoli ar fferm sydd wedi ennill gwobrau filltir i ffwrdd o dref farchnad sirol Llanbedr, a dim ond deg milltir o arfordir bendigedig Ceredigion. Mae’r fferm wedi ennill llawer o wobrau mawreddog lleol a cenedlaethol am eu system ffermio sydd wedi ei ddogfennu dros lawer o flynyddoedd yn y wasg leol a chenedlaethol. Mae’r fferm wedi ei henwi ddwywaith fel y fferm glaswelltir orau yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi cynhyrchu silwair gorau Cymru nid llai na phedair gwaith. Anrhydeddau eraill yw'r fferm lanaf a’r daclusaf, yr un gyda’i hadeiladau fferm wedi eu cynllunio orau a’r fferm llawr glwad gorau yng Nghymru.

Cerdded

Llwybrau cerdded gwledig mewndirol yn cynnwys Llwybr Teifi , 1 milltir.

Llwybr Cerdded Arfordirol Ceredigion - yn mynd ar hyd un o ardaloedd arfordirol harddaf yng Nghymru, 10 milltir.

Beicio

Beicio hyd lonydd gwledig ar gael yn cynnwys Llwybr 82 o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sydd yn mynd drwy Lanbedr, l milltir, neu mwynhewch lawer o lwybrau beicio eraill megis Ffordd St David, Cribyn a Llwybrau Gardd Cae Hir, 1 milltir.

Golff

Mae Clwb Golff Cilgwyn yn gwrs golff naw twll tu allan i Lanbedr, 4 milltir.

Merlota

Marchogaeth ar gael mewn ychydig o leoliadau yn cynnwys Bitles Bridle, 5 milltir.

Pysgota

Pysgota Gêm - Afon Teifi yw un o afonydd enwog Prydain am bysgota eogiaid. Trwyddedau diwrnod ar gael, 1 milltir.

Pysgota Cwrs - Cyrchfan Llynnoedd Celtaidd yn cynnig 75 acer o ddyfroedd di-gyffwrdd anhygoel ar gyfer pysgota, 2.5 milltir.

Pysgota môr - Pysgota ar y lan ar hyd yr arfordir a thripiau llogi cychod ar gael o borthladd Aberaeron, 10 milltir.

Traethau

Mae traeth graean Aberaeron yn boblogaidd gyda’r rhai sydd yn edrych am chwaraeon dwr tyner fel hwylio, hwylfyrddio a chanwio, 10 milltir.

Chwaraeon Dwr

Gallwch ddewis o hwylio dingi, mordeithio ar gwch hwylio, cwch bwer, hwylfyrddio, caiacio gyda sesiynau llai a chyrsiau hirach, yn addas ar gyfer pob lefel a gallu. Chwaraeon Dwr Bae Ceredigion, 16 milltir.