- £746 yr wythnos
- £107 y noson
- 7 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r afon
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 3 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae'r bwthyn Cymreig hwn ar waelod Cwm Gwaun, gyda'r afon yn rhedeg i'r cei hardd gerllaw. Mae wyneb y bwthyn yn restredig ac wedi ei adnewyddu'n gariadus gan ddarparu yr hyn oll y byddwch ei angen ar gyfer gwyliau yng Ngogledd Penfro, yn cynnwys balconi trawiadol ar y llawr cyntaf sy'n edrych allan dros yr ardd gefn ac ymlaen i goetir hardd Cwm Gwaun. Mae tafarn draddodiadol, 'The Ship Inn' lai na munud i ffwrdd, yn ogystal a'r cei, sydd yn ddelfrydol ar gyfer caiacio, pysgota crancod a cherdded. Mae digon o draethau yn yr ardal ac hefyd ystod eang o weithgareddau ac atyniadau ar gyfer pob tywydd.
Llawr Gwaelod
Lolfa/ardal fwyta gyda stôf goed (coed cychwynol ar gael), bwrdd a chadeiriau bwyta, cadeiriau a theledu, yn arwain drwodd i gegin gyda'r holl offer yn cynnwys hob 'induction', popty, meicrodon, peiriant golchi llestri, bar brecwast gyda 2 stôl, ac oergell/rhewgell mawr. Drws cefn yn arwain allan i'r ardd gyda lle i eistedd.
Lolfa/ystafell ddarllen gyda soffas lledr cyfforddus, teledu a stôf goed.
Ystafell iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad, ystafell ymolchi gydag uned gawod, basn a thoiled.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gydag en-suite yn cynnwys uned gawod, basn a thoiled.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl
Ystafell wely 3 - dau wely sengl
Ystafell wely 4 - gwely sengl
Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn, basn a thoiled.
Landin gyda drysau patio yn arwain i'r balconi sy'n edrych allan i'r ardd gefn, a golygfeydd o Gwm Gwaun.
Tu Allan
Gardd gaeedig gyda lawnt a dodrefn gardd.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso Cymreig yn gynwysedig
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig ond dewch â thywelion eich hun i'r traeth
- Cot a chadair uchel ar gael os dymunir (dewch â dillad eich hun i'r cot)
- Dim ysmygu
- Croesewir anifeiliaid anwes - mwyafrif o 2 gi @ £20 y ci. Ni ddylid gadael cwn ar ben eu hunain ac ni chaniateir iddynt fynd fyny grisiau neu ar y gwelyau
- Wifi ar gael
- Parcio ar gyfer un car - parcio ychwanegol yn y maes parcio cyhoeddus yn y Cei
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri. Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
Gwybodaeth ar gyfer yr Anabl a'r Llai Abl
- Mynediad gwastad i'r llety
- Parcio rhwydd ac wyneb slabiau a choncrid i mewn i'r llety
- Yr ystafelloedd gwely i gyd ar y llawr cyntaf
- Croesewir cwn tywys