- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
- £563 yr wythnos
- £80 y noson
- 5 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Awyr Agored
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mwynhewch wyliau ymlaciol yn y bwthyn glan y môr hwn yn Sir Benfro, dim ond 500 llath o draeth Amroth sydd wedi ennill gwobrau ac yn boblogaidd ar gyfer syrffio gwynt, nofio a gemau teulu ar y traeth. Mae llwybr arfordirol Sir Benfro (186 milltir ohono) yn cychwyn yma ac mae’n fan delfrydol i gerddwyr sydd eisiau mwynhau golygfeydd arfordirol godidog ar hyd y daith. Mae’r bwthyn hwn wedi ei ddodrefnu’n glyd gyda gardd fawr ac mae’n berffaith ar gyfer gwyliau gyda chwn hefyd.
Llawr Gwaelod
Mae gan y bwthyn glan y môr swynol hwn yn Sir Benfro ystafell fyw/fwyta fawr a chegin gyda bwrdd brecwast a chadeiriau ar gyfer hyd at 6 o bobl. Ceir teledu digidol gyda sain cwmpasol, chwaraewyr DVD a CD gyda doc I-Pod, Wi-Fi a Band Eang. Ymhlith y teclynnau yn y bwthyn ceir peiriant golchi/sychwr dillad, oergell, microdon, popty, tostiwr a system wresogi gaiff ei storio dros nos.
Llawr Cyntaf
Mae’r bwthyn hwn yn cysgu 5 ac mae dwy ystafell wely gyda gwely dwbl mewn un ystafell a gwely sengl a bync yn y llall (rhaid mynd trwy’r ystafell sengl a bync i gael mynediad i’r ystafell ddwbl). Ystafell ymolchi fawr gyda bath a chawod drydan uwchben y bath.
Gardd
Ceir hanner acer o ardd a llwyni, ac mae deg acer o goetir yn rhedeg yr holl ffordd i lawr at lan y môr. Mae’r ardd yn amgaeedig gan fwyaf ar gyfer teulu ac ar gyfer gwyliau gyda chi, ond mae ychydig o flychau y gall ci ddianc trwyddo os na chaiff ei oruchwylio.
Mae hen gwt moch yn yr ardd sydd wedi ei droi’n sied i storio dodrefn gardd (bwrdd pren a phedair cadair yn gynwysedig) a gellir cadw beiciau yn ddiogel yma os ydych chi’n bwriadu cael gwyliau yn beicio o amgylch Sir Benfro. Gellir storio siwtiau gwlyb ayb yma hefyd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Lleiniau gwely a thyweli’n cael eu darparu ond dim sebon na siampw. Hefyd efallai y byddwch yn dymuno dod a’ch sychwr gwallt eich hun.
Trydan a gwres yn gynwysedig.
Caniateir cwn yn y bwthyn gwyliau hwn.
Wifi yn gynwysedig.
Ni chaniateir ysmygu.
Mae lle i un car barcio gyda lle i dri arall ar hyd y lôn gyferbyn (gadewch y fynedfa yn glir i beiriannau fferm fedru pasio os gwelwch yn dda).
Datganiad Mynediad ar gael ar gais.
Gwyliau byr canol wythnos a phenwythnosau ar gael yn y bwthyn hwn yn Sir Benfro yn ystod y tymor tawel. Gweler y manylion o dan ‘Prisiau’
Lleoliad
Mae Amroth yn bentref arfordirol swynol yn ne Sir Benfro. Mae’r New Inn a’r Amroth Arms o fewn pellter cerdded byr, ynghyd â Gardd Goedwig Colby, ac ar yr ochr orllewinol, mae rhagor o dafarndai, bwytai, siop a chaffi. Bydd taith fer yn y car yn mynd â chi i bentref Wisemans Bridge a chyrchfannau poblogaidd Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod.
Mae Dinbych-y-pysgod yn dref hyfryd sy’n llawn hanes hynafol ac wedi’i hamgylchynu gan wal ganoloesol fawreddog. Dywedodd adroddiad diweddar gan ‘Which?’ fod Dinbych-y-pysgod yn un o gyrchfannau gwyliau gorau’r DU, gyda chanol y dref yn dyddio o’r canoloesoedd a thraethau Baner Las ysblennydd. Mae Dinbych-y-pysgod wedi gweld nifer fawr o newidiadau dros y blynyddoedd, ond mae’r dref wedi parhau ar y map hamdden ers 200 mlynedd. A gyda’r holl brofiad hwnnw, mae pobl Dinbych-y-pysgod yn bendant yn gwybod sut i gynnig amser cofiadwy i bob ymwelydd.
Efallai hefyd y byddwch am ymweld â Chei Creswell gyda thafarn hardd y Cresselly Arms, Lawrenni, Tyddewi gyda’i eglwys gadeiriol hardd, Penfro, Arberth sydd â nifer o siopau a bwytai gwych, Caeriw gyda’r castell arbennig, ac mae nifer o leoedd eraill hefyd i’w harchwilio.
Mae’r ardal yn llawn atyniadau hamdden a gweithgareddau addas i bob aelod o’r teulu. Yn eu plith mae seiclo, pysgota, hwylio, hwylfyrddio, marchogaeth, bowlio, beicio pedair olwyn yng nghanolfan Ritec Valley Quad, reidiau i godi braw yng nghanolfan Oakwood, Folly Farm a Pharc Chwaraeon Gwledig Heatherton.
Traethau
Mae traeth Baner Las Amroth o fewn pellter cerdded hwylus. Gydag ansawdd arbennig i’r dwr, mae’n boblogaidd ar gyfer nofio, hwylfyrddio, pysgota a phob gweithgaredd arall ar y traeth. 500 llath.
Mae traeth Barafundle wedi ennill pleidlais fel un o draethau gorau Prydain a’r byd sawl gwaith; gyda phobl yn dweud ei fod fel un o draethau’r Caribî, ond yn well! 18 milltir
Cerdded
Os ydych am fynd am dro’n hamddenol neu am wythnos o gerdded, bydd rhywbeth ar gael ar ben y drws, a rhywle gerllaw hefyd i dorri eich syched. Llwybr Arfordir Penfro. 0.3 milltir
Beicio
Mae’r ffyrdd gwledig tawel yn ddelfrydol ar gyfer seiclo gyda theithiau addas i bob oed, o ddechreuwyr i seiclwyr profiadol. Mae’r llwybrau lleol yn cynnwys y Tramway, Brunel Trail, Cardi Bach, Llys y Fran. Mae llwybrau ffordd lleol yn dechrau reit wrth y Bwthyn. 0 milltir
Merlota
Mae Canolfan Weithgareddau Fferm Telpyn gerllaw yn cynnig merlota a gweithgareddau eraill. 1 filltir.
Pysgota
Mae nifer o draethau a chreigiau o fewn pellter cerdded byr o’r bwthyn sy’n cynnig pysgota môr gwych 200 medr. Teithiau pysgota ac i weld y golygfeydd o Harbwr Saundersfoot. 4 milltir.
Chwaraeon Dwr
Yr antur chwaraeon dwr gorau, gyda saffari môr ar jet-sgi, llogi caiac, llogi cychod, chwaraeon dwr yn cael eich tynnu, tonfyrddio a glinfyrddio. Tenby Watersports. 8 milltir
Golff
Mae gan Heatherton gwrs golff pitsio a phytio hynod boblogaidd a llwyddiannus yng nghefn gwlad hardd Sir Benfro, i herio golffwyr o bob gallu, trwy’r flwyddyn. 9 milltir.