Nantygleisiaid

Aberystwyth, Pembrokeshire & West Wales

  • 5 Star
  • Bwthyn hudolus gyda twb poeth, mewn lleoliad heddychlon a thawel ger tref glan môr Aberystwyth ar arfordir Canolbarth Cymru.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £569 yr wythnos
  • £81 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 ystafell ymolchi
  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:30
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn hudolus gyda twb poeth, mewn lleoliad heddychlon a thawel ger tref glan môr Aberystwyth ar arfordir Canolbarth Cymru. Mae'r bwthyn steilus hwn yn derbyn anifeiliaid anwes, ac wedi ei addurno'n unigryw gyda sylw wedi ei roi i bob manylyn.

Ychwanegiad newydd i'r wefan

Llawr Gwaelod

Cegin steilus gyda'r holl offer, yn cynnwys popty trydan a hob, oergell/rhewgell Smeg, meicrodon a pheiriant golchi llestri.

Lolfa braf gyda soffas melfed moethus gyda plu oddi mewn, stôf nwy sy'n edrych fel stôf goed, a bwrdd coffi Ffrengig hynafol. Teledu mawr gyda Sky, chwaraewr DVD, Bluerayradio gyda chwaraewr MP3 a CD.

Ardal fwyta hardd gyda bwrdd mawr a chadeiriau ar gyfer 5, tân nwy, radio, chwaraewr CD a MP3.

Ystafell iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad. Toiled arwahan.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl.

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl.

Ystafell wely 3 - gwely sengl.

Ystafell ymolchi gyda cawod dros y baddon, rheilen sychu tywelion, toiled a basn, a rhywaint o gynhyrchion ymolchi

Gardd

Gardd dawel a chaeedig, dec gyda twb poeth, a dodrefn gardd i fwynhau golygfeydd cefn gwlad.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr a llaeth, potel o wîn pefriog, creision, cacennau cri a Waffles Tregroes
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
  • Dillad gwelyau, tywelion, yn ogystal â gŵn baddon a sliperi  
  • 3 sychwr gwallt ar gael   
  • Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot   
  • Wifi ar gael 
  • Croeso i hyd at 2 anifail anwes - ci cyntaf am ddim; ail gi £25 yr arhosiad   
  • Dim ysmygu tu mewn y bwthyn   
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 
  • Digon o le parcio 

Lleoliad