Granar Gynolwyn

Tywyn, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £489 yr wythnos
  • £70 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei leoli yn nhawelwch cefn gwlad gyda golygfeydd anhygoel o dirwedd de Eryri. Mae’r llety hunan ddarpar hwn yn Nhywyn yn cynnig croeso cynnes Cymreig yn ysblander Dyffryn Dysynni. Mae Granar Gynolwyn wedi ei leoli ar fferm deuluol, gerllaw uchelderau mawreddog Cader Idris, rhaeadr, a thraethau godidog gogledd Cymru. Ardal ddelfrydol i fwynhau cerdded, beicio neu ymlacio ac ymgolli yn y golygfeydd a’r awyr iach.

Llawr Gwaelod

Cegin ac ystafell fwyta gyda golygfeydd braf o gefn gwlad. Mae’r gegin yn cynnwys peiriant golchi llestri, popty, oergell, rhewgell a pheiriant golchi dillad.

Lolfa gyfforddus gyda dwy soffa, teledu mawr 42 modfedd a chwaraewr DVD. Casgliad o lyfrau.

Llawr Cyntaf

Llofft helaeth gyda gwely maint ‘king’ a golygfeydd anhygoel o gefn gwlad.

Ystafell ymolchi gyda chawod, basn a thoiled.

Gardd

Patio gyda bwrdd picnic - man delfrydol i fwynhau haul y prynhawn, ac ymlacio yn swn yr afon sydd yn llifo’n araf gerllaw. Mae yna daith gerdded odidog ar hyd glan yr afon - gellir ymuno â’r llwybr ochr arall y bont o’r drws ffrynt.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
  • Pecyn croeso wrth gyrraedd - yn cynnwys cacen gartref, te, coffi, siwgr a llaeth
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir
  • Wi-fi ar gael
  • Mae’r eitemau canlynol hefyd ar gael: hylif golchi llestri, tywelion golchi a sychu llestri, tabledi i’r peiriant golchi llestri
  • Dim anifeiliad anwes
  • Dim ysmygu
  • Digon o le preifat i barcio
  • Pwysig - Noder mai dim ond ar gyfer gwesteion sy'n talu y mae'r eiddo hwn.

Lleoliad

Mae’r bwthyn bach cysurus hwn wedi ei leoli ar fferm deuluol yn ne Eryri, drws nesaf i dy fferm y perchennog. Mae’n mwynhau golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Dysynni, gyda’r môr a’r mynyddoedd ar garreg y drws; mae’r llety hunan ddarpar hwn yn Nhywyn yn cynnig y lleoliad delfrydol ar gyfer gwyliau yng ngogledd Cymru. Mae yna faes carafannau ar y fferm, wedi ei leoli mewn cae cyfagos.

Y pentref agosaf yw Abergynolwyn, ac yma fe geir caffi, swyddfa bost, tafarn a gorsaf trên stêm (1.5 milltir). Mae Caffi Ceunant, yn ogystal â thafarn The Railway Inn yn cynnig bwyd da, tra mae’r bwytai yng Ngwesty Minffordd, Tal-y-Llyn (3 milltir) a Tafarn Cross Foxes, ger Dolgellau yn cael eu cymeradwyo. Gellir dod o hyd i ystod o ddarpariaethau yn Nhywyn (7.5 milltir), gan gynnwys archfarchnad, banc, siopau amrywiol, bwyty gwych o’r enw Walkers Quality, a hyd yn oed sinema draddodiadol. Mae gan Tywyn gyswllt trafnidiaeth cyhoeddus da - ar drên neu fws.

Mae harddwch a llonyddwch yr ardal hudolus hon o Gymru yn eich amgylchynu, ac mae’n cynnwys Llyn Mwyngil (Llyn Tal-y-llyn), ysblander Cader Idris, a Chastell y Bere - castell Cymreig hynafol wedi ei adeiladu gan Llywelyn Fawr yn y drydedd ganrif ar ddeg. Y traeth agosaf yw Tywyn, gydag Aberdyfi 4 milltir i’r de ar hyd yr arfordir - tref lan y môr brydferth gyda traeth braf, caffis, siopau a bwytai.

Mae atyniadau poblogaidd eraill yn yr ardal yn cynnwys trên stêm Tal-y-llyn - gellir ymuno â’r trên yn Abergynolwyn, rhaeadr ysblennydd Dolgoch (hefyd ar lwybr y tren), Canolfan y Dechnoleg Amgen, Canolfan Grefftau Corris a Labyrinth y Brenin Arthur. Mae Craig y Deryn gerllaw hefyd - dyma’r unig fan yn Ewrop lle gwelir bilidowcars yn nythu ar y tir; mae’n dirnod ysblennydd ac unigryw.

Cerdded
  • Llwybr Mari Jones (o garreg y drws)
  • Llwybr cylchol ysblennydd, 12 milltir o hyd, sydd yn ymweld â Chastell Y Bere (castell Cymreig o’r drydedd ganrif ar ddeg) a Chraig y Deryn - man arbennig i fwynhau’r golygfeydd (o garreg y drws)
  • Llwybr Rhaeadr Dolgoch (2.5 miltir) - taith gerdded fer i gyfres o raeadrau sydd yn byrlymu i lawr ceunant greigiog a choediog i bwll dwfn islaw (o garreg y drws)
  • Cader Idris (taith gerdded fynyddig) - taith yn cychwyn o Lanfihangel y Pennant (1.5 milltir) ac yn dringo’n raddol am 10 milltir i’r copa - mae’r llwybr wedi ei raddio’n ganolig/caled
  • Llwybr Arfordirol Cymru - o Tywyn gellir cerdded i’r gogledd tuag at y Friog (Fairbourne), neu i’r de ar hyd 4 milltir o dywod euraidd i Aberdyfi (7.5 milltir)
Traethau
  • Tywyn - traeth tywod ynghyd â phromenâd a phwll padlo (7.5 milltir)
  • Aberdyfi - traeth tywod hir - yn berffaith ar gyfer gwyliau teuluol (11.5 milltir)
  • Fairbourne - tywod euraidd ar draeth sydd yn 2 milltir o hyd ar lanw isel (15 milltir)
Beicio
  • Mae’r lonydd gwledig sydd yn cychwyn o garreg y drws yn ddelfrydol ar gyfer beicio. Gellir hurio beiciau yn Llanegryn (7.5 milltir)
  • Beicio Mynydd Dyfi - pob llwybr yn cychwyn o Fachynlleth (13 milltir)
  • Canolfan Feicio Mynydd Coed-y-Brenin - llwybrau addas ar gyfer pob oed (20 milltir)
Pysgota
  • Wedi ei amgylchynu gan y môr, afonydd a llynnoedd, dyma un o’r ardaloedd pysgota gorau sydd ar gael. Rhowch gynnig ar bysgota o’r lan yn Nhywyn ac Aberdyfi, pysgota ar y llyn yn Nhal-y-llyn (3 milltir), neu bysgota ar afon Dysynni (ar stepen y drws).
Chwaraeon Dwr
  • Mae Chwaraeon Dwr yn Aberdyfi yn cynnwys hwylio, rhwyfo, canwîo, pysgota a tripiau cychod (11.5 milltir)
  • Bala - mae Llyn Tegid a’r Ganolfan Dwr Gwyn Cenedlaethol yn leoliadau gwych ar gyfer chwaraeon dwr (26 milltir)
Golff
  • Clwb Golff Aberdyfi - cwrs golff 18 twll (11.5 milltir)
Marchogaeth
  • Canolfan Farchogaeth Bwlchgwyn - addas ar gyfer unrhyw un dros 4 oed (15 milltir)