- £572 yr wythnos
- £82 y noson
- 10 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 3 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae’r bwthyn gwyliau hunan arlwyo hyfryd hwn yn Eryri, wedi ei leoli yn Nyffryn Dysynni, ardal o harddwch eithriadol ger Tywyn, Gogledd Cymru. Mewn llecyn o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, mae’r bwthyn neilltuedig hwn yn mwynhau golygfeydd godidog o odre Cadair Idris. Mae’n safle perffaith ar gyfer cerdded a chrwydro gyda milltiroedd o lwybrau cerdded tawel a diddorol i bob cyfeiriad.
Llawr Gwaelod
Adeiladwyd y bwthyn hunan arlwyo teuluol hwn ym 1994 ac mae ganddo brif lolfa gysurus gyda thân agored coed neu lo a theledu. Ceir ffenestr fawr yn edrych i lawr y dyffryn tuag at Graig yr Aderyn. Mae’r ystafell fwyta, drws nesaf i’r patio, yn rhannu’r golygfeydd trawiadol rhain hefyd.
Mae’r gegin helaeth a modern yn edrych dros yr ardd a’r patio ac yn cynnwys popeth o ficrodon a phopty trydan i rewgell a rayburn. Mae iwtiliti’r bwthyn yn cynnwys yr holl offer angenrheidiol am wyliau cysurus ac ymlaciol, megis golchwr llestri a pheiriant golchi a sychu dillad.
Mae’r bwthyn yn cysgu hyd at 10 o bobl yn gyfforddus gyda’r dewis o gael un gwely ychwanegol wedi ei osod ar gais i gysgu 11.
Mae gan yr ystafell wely gyntaf wely maint super king (neu gellir ei wneud yn ddau wely twin ar gais) gyda chyfleusterau en-suite a theledu SKY.
Mae gan yr ail ystafell welyau twin, neu gellir eu gwneud yn wely dwbl ar gais. Teledu a chwaraewr DVD/VIDEO yn gynwysedig.
Mae gan y drydedd ystafell wely dwbl.
Mae’r bedwaredd ystafell wely yn ystafell deuluol gyda gwely dwbl a gwely sengl, ynghyd â chot Mothercare. O’r ystafell hon mae yna hefyd ystafell arall wedi ei chysylltu gydag un gwely sengl sydd yn gwneud yr ystafell yn berffaith ar gyfer teulu o ddau oedolyn, dau o blant a baban.
Mae gan y bwthyn hefyd ystafell ymolchi fawr gyda bath a chawod.
Gardd
Mae’r ardd amgaeedig wedi ei chynllunio’n chwaethus gydag ardaloedd preifat i ymlacio, siglen unigryw wedi ei cherfio â llaw a barbeciw i fwynhau'r golygfeydd. Perffaith ar gyfer gwyliau teuluol, mae ardal i’r plant yn ddiogel gydag amryw o gyfleusterau awyr agored gan gynnwys siglenni, si-so, sleidiau a ffau yn y coed a thy chwarae hyfryd. Ceir ardal ddiogel i’r plant chwarae sy’n cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau chwarae awyr agored megis siglenni, llithren a thy pren/den chwarae yn y goeden.
Mae shed yr ardd yn cynnwys dingi, byrddau syrffio bychain, gwialenni pysgota a beiciau i bob oed.
Gwybodaeth Ychwanegol
Llefydd parcio ar gael o fewn ffiniau diogel y bwthyn.
Mae Maes Mihangel yn cynnig lleoliad gwledig a heddychlon, yn gwbl ddi-draffig, gyda golygfeydd gwefreiddiol a thraethau poblogaidd Tywyn ac Aberdyfi o fewn saith milltir.
Dau got a dwy gadair uchel ar gael ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig. Coed a glo ar gyfer y stôf yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim.
Darperir dillad gwely, tywelion a sychwr gwallt.
Darperir Wifi a ffôn dalu.
Fideos a dvd’s plant ar gael
Dim ysmygu
Croesewir anifeiliaid anwes.
Hawl i bysgota am ddim
Caniateir gwyliau byr (dros benwythnos / canol wythnos) yn ystod y tymor tawel. Gweler yr holl fanylion o dan 'Prisiau’.
Pecyn croeso wrth i chi gyrraedd gyda the, coffi, siwgr a siocled poeth. Gall y cynnwys amrywio yn ddibynnol ar beth sydd ar gael, ond mae’r pecyn fel arfer yn cynnwys Bara Brith neu gacennau cri a photel o win. *Pecyn arbennig yn cael ei ddarparu ar gyfer archebion y Pasg a’r Nadolig.
Amrediad o deganau plant, llyfrau a fideos/DVD’s ar gael. Teledu ar wahân a chwaraewr fideo/DVD i’r plant.
Dim ysmygu.
Cyfleusterau parcio car ar gael o fewn ffiniau’r bwthyn gan ei wneud yn ddiogel.
Mynediad at bysgota am ddim ar afon sydd yn llifo drwy dir y perchennog.
Offer pygota a beiciau ar gael gan y perchennog gerllaw
Gall y perchnogion fynd a chi i fyny mynydd Cader Idris yn eu tryc ar gais.
Gwyliau byr ar benwythnosau neu yng nghanol yr wythnos ar gael yn ystod y tymor tawel. Mwy o wybodaeth o dan ‘Prisiau’.
Mae’r canlynol yn cael eu darparu yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad;
Cegin : hylif golchi llestri, powdr golchi.
Ystafell Ymolchi : sebon, hylif golchi dwylo a thoiled rôls.
Glanhau cyffredinol : bleach, glanhawr cawod, dwster, bagiau i’r hwfer, polish, chwistrellydd gwrth-facteria.