- £931 yr wythnos
- £133 y noson
- 10 Guests
- 5 Bedrooms
- 4 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 4 o welyau sengl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 4 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Clyd, cynnes a chroesawgar, mae’r llety hwn ger Tywyn yn berffaith ar gyfer teuluoedd neu griw o ffrindiau. Mae Ffermdy’r Waun yn ffermdy carreg, newydd ei adnewyddu, ond heb golli dim o’i gymeriad gwreiddiol ac mae’r bwthyn Cymreig hwn yn mwynhau golygfeydd godidog dros Ddyffryn Dysynni tua’r mor a Bae Ceredigion. Wedi ei osod yng ngogoniant Parc Cenedlaethol Eryri a dim ond tair milltir o’r traeth agosaf, mae’n leoliad cwbwl heddychlon sy’n codi’r ysbryd ac yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau hamddenol yng nghefn gwlad Gogledd Cymru.
Llawr Gwaelod
Mae gan y llety hyfryd hwn yn Nhywyn system wresogi o dan y llawr drwy holl ystafelloedd y llawr gwaelod.
Cegin fodern ar gynllun agored gyda system wresogi o dan y llawr. Canolbwynt yr ystafell yw’r lle tan gwreiddiol gyda’r popty bara a’r twll cannwyll gwreiddiol, gyda stof llosgi coed gyfoes. Soffa gyfforddus a bwrdd bwyta gyda lle i 10 o westeion.
Mae gan y gegin yr holl gyfarpar angenrheidiol; oergell fawr a rhewgell, stof drydan, hob anwythol (induction) a bar brecwast. Mae’r pantri gwreiddiol drws nesaf i’r gegin gyda slabiau llechi, shilffoedd a microdon.
Yn arwain o’r cyntedd mae’r ystafell fyw ar wahan gyda soffa gornel ledr fawr ateleru gyda sgrin fflat. Yn ganolog i’r ystafell hon hefyd mae lle tan cerrig a stof llosgi coed groesawgar arall.
Mae gan Ffermdy’r Waun ystafell iwtiliti ei hun drws nesaf gyda chawod, toiled, peiriant golchi a sychwr dillad – delfrydol ar gyfer cadw’r esgidiau neu’r beiciau mwdlyd!
Fyny grisiau
Ystafell wely 1 – ystafell wely en-suite gyda gwely dwbl derw, cwpwrdd dillad a chist ddroriau. Golygfeydd hyfryd o’r caeau cyfagos. Ystafell gawod en-suite fawr.
Ystafell wely 2 a gwely bync, cwpwrdd dillad mawr yn y wal a golygfeydd hyfryd dros y ardd.
Lleolir ystafell ymolchi deuluol yn ganolog i fyny’r grisiau gyda bath a chawod.
Ystafell wely 3 – y prif ganolbwynt i fyny’r grisiau yw’r bont dderw sy’n arwain i’r ystafell wely twin hon. Golygfeydd dros dir fferm bendigedig.
Ystafell wely 4 – ystafell wely en-suite gyda gwely dwbl, lle tan carreg gwreiddiol a golygfeydd dros Ddyffryn Dysynni draw at Fae Ceredigion. Ystafell gawod en-suite.
Ystafell wely 5 – ail ystafell wely twin gyda chwpwrdd dillad mawr yn y wal. Golygfeydd o’r ardd.
Gardd
Lawnt fawr gyda golygfeydd gwefreiddiol tua’r arfordir ar y gorwel. Gyda’i holl ystafelloedd hyfryd Mae’r llety hwn yn Nhywyn yn cynnig lleoliad gwych am aduniad teuluol.
Mae ganddo hefyd ei ardal batio ei hun gyda chyfleusterau barbeciw a bwrdd picnic er mwyn gallu eistedd yn ol, ymlacio a mwynhau harddwch yr ardal o’ch cwmpas.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd pecyn croesawu yn eich disgwyl wrth i chi gyrraedd, gyda chacen gartref, llefrith, bara ffres, wyau, te Cymreig a choffi. Darperir yn ogystal wybodaeth am yr ardal gyfagos.
- Darperir dillad gwely, tywelion bath a llaw a dau sychwr gwallt.
- Trydan, gwres a choed tan yn gynwysedig.
- Darperir cot, cadair uchel a giat ar gyfer y grisiau ar gais. Dewch a’ch dillad gwlau eich hunain ar gyfer y cod os gwelwch yn dda.
- Ni chaniateir ysmygu nac anifeiliaid anwes tu mewn i’r bwthyn.
- Digonedd onle parcio ar gael.
- Cyfleusterau glanhau beiciau ar gael yn ogystal a storfa ddiogel i’w cadw dan glo os oes angen.
- Mae’r perchnogion yn gwneud eu byrgers cig oen Cymreig eu hunain, ac mae croeso i chi eu blasu.