Ysgubor y Waun

Tywyn, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £729 yr wythnos
  • £104 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 2 o welyau soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Cawod

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Newydd ei adnewyddu, mae gan y llety hunan-ddarpar hwn ger Tywyn dwb poeth a golygfeydd godidog dros Ddyffryn Dysynni tua’r môr a Bae Ceredigion. Cynigia’r llety Cymreig gyfuniad gwych o foethusrwydd a lleoliad penigamp ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ymhell o swn unrhyw draffig. Mae traethau poblogaidd Tywyn ac Aberdyfi ychydig filltiroedd i ffwrdd a cheir yn ogystal fynediad preifat i draeth dair milltir i ffwrdd.

Dyma safle canolog perffaith i fwynhau’r atyniadau lleol megis ramblo, heicio a beicio gyda mynediad gwych at lwybrau cerdded lleol. Bydd croeso cynnes Cymreig yn eich aros.

Llawr Gwaelod

Mae’r ysgubor Gymreig hyfryd hon wedi ei hadnewyddu’n llwyr ond nid yw wedi colli dim o’i chymeriad gwreiddiol. Mae’r brif ystafell yn gegin/ystafell fwyta a byw ar gynllun agored ac yn llawn cyfaredd gwledig.

Mae’r gegin fodern yn cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol megis peiriant golchi llestri, oergell, rhewgell, stôf drydan, microdon a pheiriant golchi dillad, yn ogystal â bar brecwast. Bwrdd bwyta mawr derw gyda digonedd o lefydd eistedd i 8 o westai.

Ceir soffas cyfforddus lledr yn y lolfa a theledu gyda sgrin fflat o amgylch y lle tân gwreiddiol a’i stôf llosgi coed groesawgar.

Llawr Gwaelod Isaf

Ystafell wely ddwbl eang en-suite gyda drws stabl traddodiadol sy’n darparu mynediad preifat i’r buarth tu allan.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely maint king gyda’i falconi preifat ei hun yn edrych dros Ddyffryn Dysynni ac arfordir Bae Ceredigion – cwbl wefreiddiol. Y lle perffaith i ymlacio a mwynhau’r ardal o’ch cwmpas.

Ystafell wely twin gyda chypyrddau yn y waliau. Digonedd o gymeriad gyda’r trawstiau derw a’r ‘A frames’ hyfryd.

Mae’r oriel a’i thrawstiau derw yn cynnwys gwely soffa dwbl ar gyfer dau ymwelydd ychwanegol pe bai angen. Ceir hefyd ystafell ymolchi fawr deuluol gyda chawod dros
y bath sydd yn edrych allan ar y caeau gerllaw.

Gardd

Mae ardal batio tu allan gyda bwrdd picnic a set barbeciw – delfrydol ar gyfer pryd o fwyd gyda golygfeydd gwefreiddiol i’w mwynhau hefyd, y cyfan tu mewn i fuarth gyda wal o’i gwmpas. Digonedd o le i’r plant chwarae’n ddiogel ac wrth gwrs - twb poeth preifat.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bydd pecyn croesawu yn eich disgwyl wrth i chi gyrraedd, gyda chacen gartref, llefrith, bara ffres, wyau, te a choffi. Darperir yn ogystal wybodaeth am yr ardal gyfagos.
  • Darperir dillad gwely, tywelion bath a llaw a dau sychwr gwallt.
  • Trydan, gwres a choed tân yn gynwysedig.
  • Darperir cot, cadair uchel a giât ar gyfer y grisiau ar gais. Dewch â’ch dillad gwlâu eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
  • Ni chaniateir ysmygu nac anifeiliaid anwes tu mewn i’r bwthyn.
  • Digonedd o le parcio ar gael.
  • Cyfleusterau glanhau beiciau ar gael yn ogystal a storfa ddiogel i’w cadw dan glo os oes angen.
  • Mae’r perchnogion yn gwneud eu byrgers cig oen Cymreig eu hunain, ac mae croeso i chi eu blasu.

Lleoliad

Mae’r bwthyn hunan-ddarpar trawiadol hwn ger Tywyn wedi ei amgylchynu gan dir fferm ac yn edrych dros Ddyffryn Dysynni a draw tua Bae Ceredigion. Dim on un o ddau fwthyn gwyliau par ar y safle, mae Ysgubor y Waun yn cynnig lleoliad heddychlon gyda golygeydd gwefreiddiol ymhell o swn traffig.

Ceir siop bentref dim on 2 filltir i ffwrdd ym Mryncrug yn ogystal â thafarn leol y Peniarth Arms. Llai na 5 milltir o’ch bwthyn hunan ddarpar ger Tywyn ceir ystod eang o gyfleusterau megis siopau ac archfarchnadoedd, sinema ar ei newydd wedd, gorsaf dren, golff wirion a chanolfan hamdden gyda phwll nofio dan do. Rhai o’r bwytai a'i hargymhellir yn yr ardal yw bwyty sglodion a physgodyn Walkers, Proper Gander a Salt Marsh Kitchen. Bwytai eraill a'i hargymhellir yn fawr yn yr ardal yw Sea Breeze ar lan môr Aberdyfi (9 milltir), George lll - tafarn a bwyty sy’n edrych dros aber yr afon Mawddach ym Mhenmaenpwl (14 milltir) a Glan yr Afon ym Mhennal (15 milltir). Ceir bwyty indiaidd blasus hefyd yn Fairbourne (8 milltir).

Cynigia eich llety ger Tywyn ystod gwych o withgareddau i’r teulu cyfan, gan gynnwys trên stêm sy’n rhedeg o reilffordd Talyllyn, llwybr cerdded cylchol o amgylch lleoliad hanesyddol Castell y Bere ac antur danddaearol Labyrinth y Brenin Arthur. Yn y cyffiniau hefyd ceir atyniadau enwog megis Canolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin a chwrs dringo Go Ape, Castell Harlech sydd wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd a phentref Eidalaidd Portmeirion. I’r de o Dywyn mae pentref arfordirol Aberdyfi gyda thraeth tywodlyd hyfryd, twyni tywod, caffis, siopau bychain unigryw a chwrs golff enwog.

Cerdded

Llwybr cerdded o drothwy’r drws drwy dir fferm llawn golygfeydd.

Llwybr Arfordir Cymru – o Rhoslefain (2 filltir), ewch i’r gogledd tua Fairbourne neu i’r de tua Tywyn ac yna ar hyd 4 milltir o dywod euraidd i Aberdyfi.

Llwybr Rhaeadr Dolgoch – llwybr troed byr gyda chyfres o raeadrau sy’n rhaeadru i lawr dros geunant creigiog a choediog yn ochr y mynydd i bwll dwfn oddi tanodd. 5 milltir.

12 milltir o lwybr cerdded cylchol sydd yn cyfuno cerdded gydag ymweliad i Gastell y Bere (castell Cymreig o’r drydedd ganrif ar ddeg) a Chraig yr Aderyn, nodwedd hyfryd ond dramatig y gellir gweld golygfeydd aruthrol o’r cyffiniau o’i chopa, 9 milltir.

Cadair Idris (llwybr cerdded mynyddig 2,930 o droedfeddi) – un llwybr yn cychwyn o Lanfihangel-y-Pennant (9 milltir) syddbyn dringo’n raddol ar adran ddeheuol y llwybr ceffyl. 10 milltir i’r copa – wedi ei raddio’n lwybr cymhedrol/anodd.

Llwybr y Mawddach, sydd yn dilyn hen gwrs y rheilffordd na ddefnyddir rhagor o Forfa Mawddach i Ddolgellau neu Bermo – un o’r llwybrau cerdded neu feicio hamddenol hyfrytaf y dewch o hyd iddo. 9 milltir o’ch llety yn Nhywyn.

Beicio

Mae’r lonydd gwledig o amgylch eich bwthyn yn berffaith ar gyfer beicio. Gellir llogi beic ym mhentref Llanegryn, 0.6 milltir.

Llwybr y Mawddach (gweler uchod), 9 milltir.

Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau addas ar gyfer pob oedran, 21 milltir.

Traethau

Mynediad preifat i draeth gyda phyllau yn y creigiau i gadw’r plant yn ddiwyd am oriau, 3 milltir.

Traeth Tywyn – traeth tywodlyd yn ogystal a phromenad gyda phwll padlo, 5 milltir.

Traeth Fairbourne – traeth tywodlyd euraidd yn ymestyn am ddwy filltir ar lanw isel, 8 milltir.

Traeth Aberdyfi – traeth hir tywodlyd, perffaith ar gyfer gwyliau gyda’r teulu, 9 milltir.

Marchogaeth

Canolfan Ferlota Bwlchgwyn, Fairbourne – addas ar gyfer unrhyw un dros bedair oed, 8 milltir.

Pysgota

Mae’r ardal wedi ei hamgylchynu gan fôr, afonydd a llynnoedd a dyma un o’r lleoliadau gorau ar gyfer pysgota o bob math. Rhowch gynnig ar bysgota o’r lan yn Nhywyn ac Aberdyfi (4 a 9 milltir), pysgota llyn yn Nhal-y-llyn (10 milltir) neu bysgota afon ar afon Dysynni (1 milltir). Darllenwch fwy am bysgota yn ardal Tywyn ac Aberdyfi.

Chwaraeon Dŵr

Ymysg y Chwaraeon Dŵr y gellir eu gwneud yn Aberdyfi mae hwylio, hwylfyrddio, rhwyfo, canwio, pysgota a thripiau cwch, 9 milltir.

Golff

Clwb Golff Aberdyfi – cwrs golff deunaw twll , 9 milltir.