Maes y Llan

Pwllheli, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £963 yr wythnos
  • £138 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 17:00
  • Amser gadael: 09:30

Disgrifiad

Mae'r llety hyfryd hwn mewn lleoliad preifat ar Benrhyn Llyn gyda golygfeydd pell-gyrhaeddol o fynyddoedd, dyffrynnoedd a'r môr - oddi mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Yn derbyn anifeiliaid anwes a gyda stôf goed groesawgar, llwybrau cerdded mynyddig ac arfordirol ar stepen y drws, mae Maes y Llan hefyd yn ganolog i dref Pwllheli, nifer o draethau euraidd, tref Caernarfon ac Eryri. 

Llawr Gwaelod

Lolfa - ystafell groesawgar gyda dwy soffa ledr, stôf goed a theledu. Drysau patio gyda golygfeydd yn rhoi mynediad i'r patio a'r ardd.

Cegin fawr siâp 'L' gyda lle tân a thrawstiau, yn cynnwys popty a hob trydan, meicrodon, oergell, rhewgell a pheiriant golchi llestri. Ardal arwahan yn cynnwys bwrdd bwyta, soffa a theledu ar y wal.

Ystafell ymolchi gyda cawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Ustafell iwtiliti yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - ystafell helaeth gyda gwely maint king, dodrefn derw a theledu ar y wal. 

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl gyda golygfeydd.

Ystafell wely 3 - gwely sengl gyda golygfeydd o'r mynyddoedd.

Ystafell wely 4 - tri gwely sengl - gellir eu gosod fel un gwely mawr king ac un gwely sengl os dymunir.

Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion. 

Gardd

Gardd fawr gyda golygfeydd tuag at y mynyddoedd a'r môr. Patio gyda bwrdd, cadeiriau a barbaciw siarcol.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr, cacennau cri a photel o wîn    
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig     
  • 3 sychwr gwallt ar gael
  • Coed yn gynwysedig. 
  • Cot, cadair uchel a giât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Croesewir hyd at 2 gi (llawr gwaelod yn unig) 
  • Dim ysmygu tu mewn     
  • Storfa i feiciau ayb yn sied yr ardd   
  • Digon o le parcio preifat  

Lleoliad