Ty Isaf

Porthmadog, North Wales Snowdonia

  • 3 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £660 yr wythnos
  • £94 y noson
  • 3 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Dim tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae’r bwthyn gwyliau hwn ger Porthmadog yn cynnig lleoliad canolog hardd a heddychlon yng nghanol Gogledd Cymru. Traethau tywodlyd, mynyddoedd Eryri, cestyll hudolus ac atyniadau diddiwedd i gyd ar drothwy’r drws. Mae’r bwthyn hefyd yn croesawu anifeiliaid anwes ac felly’n encil cartrefol gyda stôf llosgi coed groesawgar, AGA a channoedd o lyfrau i ddewis ohonynt. Mwynhewch fudd fynediad uniongyrchol at y llwybr beiciau sydd yn mynd yr holl ffordd i Gaernarfon o drothwy’r drws, a chaniatâd pysgota ar yr afon sydd yn llifo drwy’r tir.

Llawr Gwaelod

Cegin ty fferm fawr sydd yn cynnig naws groesawgar wrth i chi gerdded i mewn i’r bwthyn hyfryd hwn. Mae yno AGA ac oergell/rhewgell SMEG retro, peiriant golchi a microdon. Bwrdd mawr gyda mainc hir, tair cadair a lle eistedd yn erbyn wal wedi ei chlustogi, a theledu digidol ar y wal.

Ystafell ddwbl glud gyda gwely haearn hen ffasiwn, cypyrddau yn y wal a chypyrddau ochr gwely, a digonedd o lyfrau.

Ystafell twin helaeth gyda chypyrddau dillad wedi eu gwneud â llaw, llyfrau a chadair freichiau gyfforddus ar gyfer eu darllen.

Ystafell ymolchi deuluol yn cynnwys baddon mawr steil gwledig a chawod i’w dal yn y llaw, llawr derw a llechen, toiled a basn.

Soffa fawr gyfforddus a chadair freichiau o amgylch stôf aml-danwydd groesawgar a theledu digidol mawr, chwaraewr DVD, desg dderw hen ffasiwn, bwrdd ysgrifennu a silffoedd llyfrau ar y wal - y lle perffaith i ymlacio gyda gwydraid o win neu baned o de.

Gardd

Drysau stabl derw yn arwain o’r gegin i’r ardd. Mae’r ardd amgaeedig hardd yn cynnwys bwrdd a chadeiriau i chi gael mwynhau mewn lleoliad distaw, preifat.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwres a thrydan yn gynwysiedig.

Darperir dillad gwely.

Darperir cadair uchel a chot teithio ar gais (dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda).

Gwyliau hunan-ddarpar Gogledd Cymru i chi a hyd at ddau gi. (£25 yr un) angen nodi wrth archebu

Addas ar yfer pobl gydag anawsterau symud.

Wi-fi ar gael.

Llefydd parcio preifat ar gael.

Lleoliad

Yn ganolog i Borthmadog, Caernarfon, Eryri a Phenrhyn Llyn, darpara Ty Isaf leoliad gwych ar gyfer gwyliau yng Ngogledd Cymru. Wedi ei leoli ar fferm heddychlon dim ond pum milltir i’r gogledd o Gricieth a saith milltir a hanner o Borthmadog ac yn hwylus dros ben felly. Mae’r bwthyn hefyd yn agos i ffin orllewinol Eryri, traethau Penrhyn Llyn a dim ond deuddeg milltir o Gaernarfon.

Mae’r ty fferm hwn o’r unfed ganrif ar bymtheg wedi ei adeiladu ar safle Rhufeinig ac yn enghraifft wych o fwthyn cyfnod. Mae’r dafarn leol a’r bwyty (y Goat) wedi ei leoli dim ond milltir i ffwrdd ym mhentref Bryncir a thy cyri hefyd o fewn milltir a hanner. Bwytai eraill cymeradwy ydy Y Sgwar yn Nhremadog (7 milltir) a Blas yng Nghaernarfon (12 milltir). Y siop groser agosaf yw Penygroes, dim ond 5 milltir i ffwrdd lle y gellwch hefyd flasu gwin gwinllan Pant Du.

O fynyddoedd godidog i draethau hyfryd, llwybrau cerdded arfordirol, trenau bach a chestyll, fe ddewch o hyd i’r cyfan o fewn ugain munud i Dy Uchaf. Mae’r bwthyn hwn yng Ngogled Cymru wedi ei leoli 200 llath o Lwybr Beicio Lôn Eifion sydd yn dilyn yr hen lein rheilffordd yr holl ffordd o Fryncir i Gaernarfon. Yn ogystal, ar drothwy’r drws, mae Melin Wlân Bryncir sydd yn troi gwlân Cymreig o gnu yn wlanen o flaen eich llygaid.

Am ddyddiau hamdden gyda’r teulu, mae’r rhestr yn un hirfaith, Fferm Gwningod Dwyfor ger Llanystumdwy (4.3 milltir) gydag amryw o wahanol gwningod ac anifeiliaid fferm megis wyn a merlod. Mae Parc Glasfryn (11 milltir) yn cynnig go cartio , beiciau cwad , bowlio deg a mwy , gan ei wneud yn le gwych ar gyfer pob tywydd. Mae Parc Gelli Gyffwrdd (16 milltir) yn ddiwrnod gwych i’r teulu yn Eryri, yn yr un modd á’r Mynydd Gwefru yn Llanberis. Mae Ceudyllau Llechi Llechwedd (19 milltir) yn cynnig teithiau tanddaearol trwy geudyllau'r pwll llechi gweithiol hwn tra ei bod hi’n werth ymweld â Sw Môr Môn (acwariwm bywyd môr mwyaf Cymru) hefyd.

Am wyliau mwy hamddenol yng Ngogledd Cymru, ewch am dro i Gricieth am enghraifft deg o gastell Cymreig, tra bod Caernarfon yn gartref o bosib i un o gestyll enwocaf Cymru. Mwynhewch arfordir gwefreiddiol Llyn ; ei draethau, ei bentrefi glan y môr hardd a thrip cwch drosodd i Ynys Enlli - un o ynysoedd sanctaidd Cymru. Ymwelwch â phentref a gerddi Eidalaidd Portmeirion (10 milltir) a chymrwch daith ar drên bach o’r môr ger Porthmadog i’r mynyddoedd ym Mlaenau Ffestiniog.

Traethau

Mwynhewch eich gwyliau yng Ngogledd Cymru drwy ymweld â thraeth gwahanol bob diwrnod. Mae yna sawl traeth gwych gerllaw, gan gynnwys:

Cricieth gyda’i ddau draeth poblogaidd, y naill ochr i’r castell. Mae’r rhain yn gymysgedd o dywod a cherrig crynion gydag ardal greigiog ar ben pellaf ochr ddwyreiniol y traeth gyda phyllau rhwng y creigiau ar lanw isel, 5 milltir.

Mae Borth-y-Gest yn swatio ar ochr Glaslyn o’r Aber, gyda sawl cildraeth tywodlyd a chilfachau bychain o fewn pellter cerdded, 8 milltir.

Mae yna hefyd fwy o draethau hardd ar Benrhyn Llyn ac yn ardal Caernarfon (e.e. Aberdesach a Dinas Dinlle).

Beicio

Lôn Eifion - trac hen reilffordd o Fryncir i Gaernarfon. Ymunwch â’r llwybr 200 llath i ffwrdd.

Cerdded

Lôn Eifion (fel uchod).

Lôn Goed - dro hyfryd 6 milltir o goed pren caled a pharadwys i gerddwyr. 3 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Arfordir Llyn (rhan o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan) - sawl rhan o fewn pellter byr, gyda’r man ymuno agosaf yng Nghricieth, 5 milltir.

Digonedd o lwybrau mynydd i ddewis ohonynt yn Eryri. Mae’n werth dringo’r mynydd uchaf yng Nghymru, Y Wyddfa, ac mae’r llwybr agosaf yn cychwyn o Ryd-ddu (13 milltir), neu gellwch ddal y trên bach o Lanberis (18 milltir) i’r caffi ar y copa.

Pysgota

Pysgotwch a’m frithyll yn yr afon sydd yn llifo drwy’r fferm, 200 llath o’r bwthyn.

Llanystumdwy - pysgota ar lyn 6 acer ac ar afon Dwyfor, 4.3 milltir.

Neu beth am drip pysgota o amgylch ynysoedd St Tudwals, dwy ynys fechan oddi ar arfordir Abersoch (17 milltir). Neu gellwch orffwys a gwylio’r dolffiniaid, y morloi a’r holl fywyd gwyllt yn eu cynefin naturiol.

Golff

Clwb Golff Cricieth - cwrs unigryw 11 twll, enwog am ei olygfeydd godidog a’r tawelwch a’r llonyddwch sy’n ei amgylchynu, 5 milltir.

Merlota

Canolfan Weithgareddau Porthmadog - mwynhewch filltiroedd o ferlota mewn golygfeydd gwefreiddiol. Addas ar gyfer plant 4 oed neu hyn ac oedolion, 8 milltir.

Chwaraeon Dwr

Clwb Hwylio Pwllheli, Marina Pwllheli - cyfleusterau gwych ac o bosib y dyfroedd hwylio gorau yn y Deyrnas Unedig, 11 milltir.

Mae traeth Abersoch yn cynnig dwr gwastad ar gyfer tonfyrddio a sgïo dwr, hwylio, mynd ar gychod pwer a hwylfyrddio, 17 milltir.