- £560 yr wythnos
- £80 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Golff
- Marchogaeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Dim tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Saif bwthyn gwyliau Jasmine Bach mewn lleoliad gwych ger Llanberis a Chaernarfon, yng Ngogledd Cymru, 4 milltir yn unig o droed y Wyddfa. Ymhlith yr atyniadau lleol ceir Castell Caernarfon, trên stêm i Ryd Ddu, trac beicio, Trên Bach yr Wyddfa a llwybr cerdded i’r pegwn, Llyn Padarn, Mynydd Trydan a Rheilffordd Llyn Llanberis. Mae’r bwthyn hefyd o fewn 1 filltir i bentref Llanrug gyda nifer o siopau cornel, cigydd arbennig, swyddfa’r post a thafarn.
Llawr Gwaelod
Mae’r Gegin, a’r Ystafell Fyw / Bwyta yn ardal gymdeithasol. Cynllun agored gyda nenfwd uchel a llawr teils. Cegin siâp L yn cynnwys oergell / rhewgell dal, popty a hob, microdon, golchwr llestri, tegell a thostiwr. Bwrdd bwyd ar un pen a’r lolfa ar y pen arall gyda seti lledr, teledu a sianeli am ddim, DVD a ffenestr fawr yn edrych dros yr iard, y caeau a Sir Fôn ar y gorwel.
Ystafell wely ddwbl mewn lleoliad heddychlon ar ben pellaf y bwthyn gyda ffenestr fawr sy’n gadael llawer o olau i mewn. Carped ar lawr a cherrig gwreiddiol y wal yn dangos, cwpwrdd dillad mawr gyda droriau, drych a byrddau ger y gwely gyda goleuadau cyffwrdd.
Ceir dwy ffenestr yn yr ystafell twin cyntaf – gyda silffoedd mawr, un tu ôl i bob gwely. Cwpwrdd dillad sengl hen ffasiwn gyda drych, gwaith cerrig gwreiddiol ar y waliau, carped a byrddau ger y gwely gyda goleuadau cyffwrdd.
Mae’r to ar osgo yn ychwanegu cymeriad a chynhesrwydd i’r ail ystafell twin. Ystafell heddychlon gyda charped, drych a chwpwrdd dillad yn y wal.
Noder fod un gris fechan yn arwain i'r ystafell ddwbl ac i un o'r ystafelloedd twin.
Bathrwm golau gyda ffenestr velux. Llawr teils, bath gyda chawod drydan drosto, sinc a thoiled.
Iwtiliti yn cynnwys peiriant golchi dillad, dadleithydd fel y gellir sychu golch, dillad gwlyb ac esgidiau yn hwylus dros nos.
Gardd
Iard breifat gyda waliau cerrig a phlanhigion dringo sy’n creu preifatrwydd. Golygfeydd dros gaeau agored draw i Sir Fôn (gall machlud haul fod yn wefreiddiol gyda’r nos). Un fainc ardd, bwrdd metal a dwy gadair fetel.
Gwybodaeth Ychwanegol
Caniateir anifeiliaid anwes – Dau gi ufudd, canolig eu maint, £20 yr un yn ychwanegol yn daladwy wrth archebu. Ni chaniateir i gwn gael eu gadael ar eu pennau eu hunain yn y ty oni bai eu bod mewn cawell.
Dillad gwely yn gynwysedig
Tyweli £2.50 y pen
Darperir cot a chadair uchel
Gwres a thrydan yn gynwysedig
Parcio am ddim
Dim ysmygu yn y bwthyn