Cwm Hesgen

Dolgellau, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £579 yr wythnos
  • £83 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Dim signal ffôn symudol

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn fferm carreg cwbl unigryw a diarffordd, wedi'i leoli yn y bryniau 10 milltir i'r gogledd o Ddolgellau (tua 30 munud mewn car i'r dref). Ar fferm ddefaid weithredol o 700 erw, mae'r bwthyn hwn mewn lleoliad gwych ym Mharc Cenedlaethol Eryri gyda golygfeydd hyfryd, llwybrau cerdded rhagorol o'r drws, llwybrau beicio mynydd a rhaeadrau. Mae'r bwthyn yn garbon niwtral gyda thrydan o dyrbin dŵr ac yn gwresogi o bwmp gwres o'r ddaear.

"Mae gan parc coedwig Coed y Brenin gerllaw lwybrau beicio mynydd trac sengl gwych ar gyfer pob gallu, llwybrau cerdded i'r teulu, mannau chwarae, llwybrau cyfeiriannu, siop llogi beiciau a chaffi da" gan Jacky, ein Rheolwr eiddo lleol.

Mae Cwm Hesgen wedi'i adnewyddu'n sympathetig ac wedi cadw llawer o'r nodweddion gwreiddiol. Parcio digonol a diogel. Mae’r perchnogion yn darparu pecyn croeso da gan nad yw'n bosib 'picio allan' i’r siop oddi yma!

Lolfa: ystafell drawiadol glyd gyda stôf llosgi coed fawr yn y lle tân inglenook traddodiadol (darperir coed tân), soffas lledr cyfforddus, cadair esmwyth, teledu Sky digibox, chwaraewr DVD, chwaraewr CD a WiFi. Mae rhai ffilmiau, llyfrau a gemau yn cael eu cyflenwi ar gyfer gwesteion ac mae ffôn ar gael. Mae drws yn arwain o'r lolfa i'r ystafell haul.

Ystafell haul: golygfeydd gwych, lloriau llechi a dodrefn cyffyrddus.

Cegin: mae gan yr ystafell fawr hon lawr teils gyda bwrdd pren a chadeiriau. Mae'r gegin  yn cynnwys peiriant golchi llestri, peiriant golchi dillad, oergell, rhewgell a popty trydan. Mae ganddo bopeth sydd ei angen arnoch.

Ar y llawr cyntaf mae tair ystafell wely â thrawstiau

Ystafell wely 1: gwely dwbl hyfryd gyda theledu / DVD ac ystafell gawod en suite gyda thoiled a basn.

Ystafell wely 2: ystafell gyda dau wely sengl.

Ystafell wely 3: ystafell gwely dwbl.

Ystafell ymolchi: wedi'i theilsio, gyda baddon, cawod llaw, toiled a basn.

Y tu allan: patio llechi gyda byrddau picnic a barbeciw brics. Golygfeydd panoramig syfrdanol o'r bryniau cyfagos o'r ardd gefn. Mae mainc ardd yn y tu blaen i fanteisio ar y golygfeydd o gefn gwlad. Gellir defnyddio'r ysgubor ar gyfer storio beiciau mynydd, ac ati.

Mae lleoliad y bwthyn hwn yn arbennig iawn mewn ardal heddychlon iawn ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae'n loliad perffaith i ymlacio ac efallai na fyddwch chi am crwydro dim pellach yn ystod eich arhosiad. Dolgellau yw'r dref farchnad agosaf ac mae ganddi ddetholiad da o siopau, caffis a thafarndai. Mae taith anhygoel dros ffordd fynyddig anghysbell yn mynd â chi i'r dref a'r llyn yn y Bala ar gyfer chwaraeon dŵr a llogi cychod ar Llyn Tegid (Llyn y Bala) a'r Rheilffordd stêm fach yn Llanuwchlyn. Mae rhwydwaith o lwybrau cerdded a llwybrau ceffyl a llwybrau beicr. Ar gyfer beicwyr mynydd rydych chi wedi'ch lleoli yn agos at y ganolfan wych yng Nghoed Y Brenin, sydd hefyd â chaffi da, llwybrau cerdded coedwig, cyrsiau cyfeiriannu ac ardal chwarae dda i blant. Mae'r llwybr beic teulu yn Nhraswsfynydd hefyd yn daith fer i ffwrdd. Mae'r traethau agosaf yn Porthmadog a Harlech a'r pentref Eidalaidd ym Mhortmeirion,

  • Trydan a gwres wedi'i gynnwys
  • Darperir dillad gwely a thyweli
  • Cot a chadair uchel ar gael trwy drefniant

Lleoliad