- £548 yr wythnos
- £78 y noson
- 5 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Popty Range/Aga
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae’r bwthyn 200 mlwydd oed hwn wedi cael ei adnewyddu’n hyfryd gyda sawl elfen fodern ac nid yw ond munud o daith gerdded i sgwâr y dref. O’r stôf losgi coed i’r dreser steil chic a blancedi clytwaith gwreiddiol, dim ond dau air sydd i ddisgrifio’r llety hwn yn Nolgellau - hollol brydferth. Gyda nifer o lefydd i fynd am dro, bwytai, caffis a phob math o siopau diddorol wrth garreg eich drws, mae Seithfed Nef wir yn fan cychwyn gwych er mwyn mwynhau ac archwilio Eryri.
Llawr Gwaelod
Cegin/Ystafell fwyta - wedi ei haddurno’n lliwgar mewn steil ty fferm, gyda llawr o lechi fflacsen gwreiddiol a thrawstiau o dderw a llarwydden. Caiff yr offer cegin angenrheidiol i gyd eu darparu gan gynnwys popty Belling, micro-don, peiriant golchi a sychu dillad, oergell gyda rhan fach sy’n rhewgell. Darperir amrywiaeth o offer cegin o ansawdd, sosbenni a dysglau pobi, cyllyll a ffyrc, llestri a tseina.
Mae yna fwrdd derw hyfryd wedi'i osod drws nesaf i’r ffenestr, ac mae modd ei ymestyn i fod â digon o le i 8. Drws nesaf iddo mae dreser wedi ei hadnewyddu gyda chadair fwthyn â lle i 2 er mwyn ymlacio. Mae gan y llety hwn ddrysau Ffrengig dwbl sy’n arwain at yr ardd hardd sy'n debyg i fuarth.
Mae grisiau o’r gegin / ystafell fwyta yn arwain fyny at yr ystafell fyw. Mae mwy o fannau storio o dan y grisiau ar gyfer beiciau, pramiau a chlybiau golff ac ati. Mae gan yr ystafell hon fynedfa ar wahân er mwyn hwyluso dod â beiciau ac ati yn syth i mewn i’r ardal storio.
Y Llawr Cyntaf
Ystafell fyw: Ystafell liwgar, fawr a golau, gydag ardal simdde draddodiadol o gerrig a stôf losgi coed Franco Belge, er mwyn darparu gwres ychwanegol i’r gwres canolog nwy. Trawstiau a linteri derw gwreiddiol ac mae’r grisiau a’r carpedi Sisal yn ychwanegu at y teimlad gwledig.
Mae soffas cyfforddus a chadair freichiau yn eich croesawu tuag at y teledu mawr sgrin fflat, gyda chwaraewr DVD, BT Vision a chyfleuster iPlayer. Darperir cysylltiad we ddiwifr am ddim. Yn y lolfa gwelwch hefyd silff lyfrau sy’n gartref i lyfrau ar gyfer pob math o oedrannau, gemau, posau a chasgliad o bamffledi sy’n llawn mapiau, canllawiau a gweithgareddau.
Yr Ail lawr
Y Brif Ystafell Wely: To gyda thrawstiau siâp cromen gyda siandelïer grisial hardd. Dillad gwely gwyn, gobenyddion plu, cwilt cyfforddus a blancedi clasurol o glytwaith hardd, ar wely dwbl Laura Ashley a matres sbring moethus - y cyfan yn sicrhau noson dda o gwsg. Cypyrddau wrth y gwely a lampau, cist ddroriau a chwpwrdd dillad dwbl sy’n ychwanegu at brintiau manwl y llenni a’r bleindiau. Darperir tywelion gwyn meddal.
Yr Ail Ystafell Wely: Wedi ei addurno yn yr un steil gyda tho uchel a thrawstiau siâp cromen a siandelïer, mae gan yr ystafell hon wely dwbl bach hen ffasiwn (4tr x 6tr) a gwely sengl hael wedi’i ddyrchafu (3tr 3' x 6tr). Mae gan y ddau wely fatresi sbring moethus, gobenyddion plu, cwilt clyd a blancedi hardd clasurol. Byrddau wrth y gwely gyda lampau, cist ddroriau a chwpwrdd dillad unigryw o ffabrig mewn steil canoloesol. Mae modd darparu cot yn yr ystafell hon os oes angen.
Ystafell gawod: Mae gan yr ystafell gawod swît wen foethus gyda thy bach, basn ymolchi pedestal a chawod steil ‘dwr glaw’ gyda rinsiwr corff ar wahân a rheiddiadur modern. Darperir hefyd sebon llaw, sebon cawod a siampw.
Gardd
Mae gan Seithfed Nef ardd heddychlon mewn steil buarth hardd, gyda phatio o dywodfaen. Mae’r ardal amgaeedig hon yn cynnwys bwrdd a chadeiriau llechen ac ardal dec ar wahân gyda set arall o fwrdd a chadeiriau. Mewn sied fach wedi’i pheintio mae yna farbeciw mawr. Mae potiau mawr gyda detholiad o flodau yn ychwanegu lliw i’r ardd drwy gydol y flwyddyn. Golygfeydd hyfryd o’r ardd dros y toeau tuag at y bryniau yn y pellter.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Darperir dillad gwely, tywelion baddon a llaw a sychwr gwallt
- Trydan a gwres canolog nwy yn gynwysedig
- Cysylltiad we ddiwifr ar gael am ddim
- Darperir cot gyda 2 lefel a chrud siglo, darperir dillad gwely os bydd cais. Cadair uchel hefyd ar gael os oes cais.
- Soffa gwely dwbl hefyd ar gael yn y lolfa ar gyfer llefydd ychwanegol i gysgu os oes angen
- Dim parcio preifat/oddi ar y ffordd ond digonedd o lefydd parcio cyhoeddus ar gael yn agos iawn i’r bwthyn.
- Darperir y fasged gyntaf o goed tân a thanwydd am ddim, gellir prynu mwy o goed tân am £3.00 y fasgedaid.
- Darperir hefyd amrywiaeth o offer babi gan gynnwys cadeiriau siglo a bownsio, mat newid, mat chwarae, cadair i’r bath, diheintydd potel, prosesydd bwyd bach, gatiau diogelwch a gorchuddion plwg. Mae modd darparu step a sêt i’r toiled / poti hefyd.
- Os hoffech fwy o lety ar gyfer ffrindiau neu deulu, mae gyda ni fwthyn gwyliau arall ar yr un stryd o’r enw Dan yr Allt (cysgu hyd at 4).