Gwel y Bryn

Machynlleth, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £536 yr wythnos
  • £77 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Popty Range/Aga
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Dau fwthyn chwarelwyr wedi eu hadnewyddu'n drawiadol i fod yn un llety helaeth gan gadw nifer o'r nodweddion gwreiddiol. Wedi ei leoli ym mhentref Corris yn Ne Eryri, mae Gwel y Bryn wedi ei amgylchynu gan olygfeydd godidog, llwybrau cerdded ac atyniadau. Mae yma hefyd ardd deras gaeedig gyda golygfeydd dros y bryniau i Gader Idris. Yn ganolog i drefi Dolgellau a Machynlleth, Prifddinas Hanesyddol Cymru, yn ogystal â chopaon Eryri a thraethau euraidd. 

Llawr Gwaelod

Lolfa - ystafell helaeth ac ymlaciol, gyda llosgwr coed, nenfwd gyda trawstiau a digon o le i eistedd. Teledu a chwaraewr Blu Ray, llyfrau, gemau, DVDs a mapiau. 

Cegin / ystafell fwyta - cegin gyda'r holl offer yn cynnwys popty Range tanwydd cymysg gyda 6 cylch, 2 bopty a gril. Oergell/rhewgell fawr, meicrodon ac uned ynys. Mae'r ardal fwyta yn berffaith ar gyfer ymlacio gyda bwrdd bwyta mawr a dreser. Stôf addurnol wedi ei gosod yn y lle tân llechen.

Ystafell iwtiliti - gellir cael mynediad o'r gegin i'r ystafell hon drwy ddrws stabl, ac yma fe leolir y peiriant golchi llestri a pheiriant golchi/sychu dillad. Mynediad i'r ardd teras yn y cefn.

Ystafell toiled a basn.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - ystafell fawr, ymlaciol gyda gwely dwbwl, cwpwrdd dillad, byrddau a lampau ger y gwely. Cadair freichiau a chadair suglo yn edrych allan dros y bryniau ochr arall y dyffryn.

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl a chypyrddau dillad, byrddau a lampau ger y gwely. Cadair i fwynhau'r golygfeydd.

Ystafell wely 3 - dau wely sengl, cwpwrdd dillad, byrddau a lampau ger y gwely. Yn edrych allan dros yr ardd teras yn y cefn.

Ystafell ymolchi - ystafell steilus gyda baddon â chawod llaw, uned cawod arwahan, toiled, basn a golygfeydd o'r bryniau. 

Gardd

Gardd gefn hollol gaeedig. Stepiau gyda rheilen llaw yn arwain i ardal dec gyda bwrdd a chadeiriau ble gellir mwynhau'r golygfeydd dros y bwthyn tuag at y bryniau a chopa Cader Idris. Barbaciw siarcol ar gael.

Os ydych yn dod â'r teulu, mae yna barc chwarae i blant o fewn 50 metr i'r bwthyn. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te Cymreig, coffi, siwgwr a llaeth, bisgedi a photel o wîn   
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig   
  • Pecyn cychwynol o goed ar gyfer y stôf. Gellir prynu coed ychwanegol o'r garej ym Machynlleth   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
  • Sychwr gwallt ar gael  
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot   
  • Wifi ar gael
  • Croeso i un ci (llawr gwaelod yn unig)   
  • Dim ysmygu tu mewn y bwthyn 
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 
  • 3 lle parcio ochr arall y ffordd   

Lleoliad

Wedi ei leoli yng Nghorris Uchaf yn ne Eryri, hen bentref chwarel oedd unwaith yn darparu llechi ar gyfer toeon ym mhob cwr o'r byd. Wedi ei amgylchynu gan dirwedd syfrdanol o fynyddoedd a llynnoedd. Lleoliad cyfleus ar yr A487, yn ganolog i ddwy dref farchnad - Machynlleth, Prifddinas Hanesyddol Cymru, a Dolgellau, cartref i dros 200 o adeiladau cofrestredig - mwy nag unrhyw dref arall yng Nghymru. 

Mae pentref Corris yn cynnig ystod o adnoddau ac atyniadau, o Ganolfan Grefftau Corris i Labyrinth y Brenin Arthur - antur danddaearol ar gwch drwy raeadr hudol i mewn yn ddwfn i fynyddoedd Eryri. Mae yma hefyd gaffi/siop a thafarn bentref. Gellir dod o hyd i fwy o adnoddau ym Machynlleth, 6.5 milltir i ffwrdd, yn cynnwys 3 archfarchnad (maint bach i ganolig), siop bapur newydd, siop fara, cigydd, caffis, tafarndai a bwytai. 

Ymysg y nifer o lefydd argymelledig i fwyta'n lleol mae Bistro No. 21 a Gwesty Wynnstay ym Machynlleth, Glan yr Afon ym Mhennal (9 milltir), Tafarn Cross Foxes (6 milltir), a Salt Marsh Kitchen yn Nhywyn (12 milltir). I brofi cwrw lleol mewn awyrgylch ymlaciol, beth am ymweld â'r Llew Gwyn ym Machynlleth neu Glan yr Afon ym Mhennal. 

Mae'r bwthyn hefyd yn ganolog i draethau euraidd Aberdyfi a Tywyn ar arfordir Gogledd Cymru; a Cader Idris, un o gopaon poblogaidd Parc Cenedlaethol Eryri. Os am ymweld â chestyll, mae Castell y Bere yn Llanfihangel-y-Pennant yn em dirgel, tra fod Castell Harlech i'r gogledd yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae Corris a'r ardal o amgylch yn rhan o Biosffer Dyfi sy'n cael ei adnabod yn ryngwladol gan UNESCO. 

Mae rhai o atyniadau eraill yr ardal yn cynnwys Canolfan y Dechnoleg Amgen (4 milltir); Trên Stêm Talyllyn gydag injan Tomos y Tanc yn Nhywyn; Rhaeadr Dolgoch; yn ogystal â Machynlleth, cartref yr Hen Senedd-dy, marchnad stryd hynaf Ynysoedd Prydain, a galeri MOMA Cymru. Mae cwrs golff Aberdyfi; y Sba ym Mhlas Talgarth, Pennal; Gwarchodfa RSPB a Prosiect Gweilch Dyfi yn Ynyshir hefyd yn atyniadau poblogaidd.  

Cerdded

  • Cader Idris – 3 prif lwybr yn cychwyn o Minffordd (1.5 milltir), Llanfihangel y Pennant (7.5 milltir), Dolgellau (9 milltir)  
  • Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan - llwybr byd enwog sy'n cynnig golygfeydd anhygoel ar y ffordd i Aberdyfi ac arfordir Gogledd Cymru. Gellir ymuno gyda'r llwybr ger Machynlleth (6 milltir)  
  • Llwybr Glyndŵr - llwybr yng Ngogledd Cymru gafodd statws Llwybr Cenedlaethol yn y flwyddyn 2000. Gellir ymuno â'r llwybr ger Senedd-dŷ Owain Glyndŵr ym Machynlleth (6.7 milltir)  
  • Llwybr Clywedog (Torrent Walk), Brithdir - llwybr cymhedrol 2½ milltir o hyd ar hyd yr afon (8 milltir)  
  • Llwybr Cynwch, Llanfachreth - addas ar gyfer pob oed (12 milltir)   

Beicio

  • Lôn Lâs Cymru (Llwybr 8, yn cysylltu De a Gogledd Cymru) - gellir cael mynediad o stepen y drws   
  • Beicio Mynydd Dyfi – pob llwybr yn cychwyn o Machynlleth (6 milltir)   
  • Llwybr Mawddach – addas ar gyfer pob oed. Delfrydol ar gyfer beicio, cerdded a defnyddwyr cadair olwyn. Dolgellau (9 milltir, ble gellir hurio beiciau) i Abermaw
  • Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau addas ar gyfer pob oed (17 milltir)   

Pysgota

  • Pysgota ar lyn Talyllyn (3 milltir)  
  • Afon Dyfi - yn cynnig pysgota gwych ac yn enwog am frithyll ac eog (6 milltir)   

Golff

Traethau

  • Traeth Tywyn - traeth euraidd gyda promenâd a pwll padlo (12 milltir)   
  • Traeth Aberdyfi – traeth euraidd hir ar ochr ogleddol aber yr afon Ddyfi. Tref glan môr braf gyda digon o gaffis, siopau a bwytai (15 milltir)  

Chwaraeon Dŵr

Marchogaeth