- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £469 yr wythnos
- £67 y noson
- 4 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 17:00
- Amser gadael: 09:00
Disgrifiad
Bwthyn croesawgar wedi ei adnewyddu'n drawiadol ac wedi ei leoli i lawr stryd fach dawel yng nghanol tref farchnad Dolgellau. Yn llythrennol rownd y gornel o'r holl gyfleusterau, yn cynnwys caffis gwych, ystafelloedd te, bwytai a thafarndai, ac ystod o siopau annibynnol. Gellir llogi beiciau a chael mynediad i lwybrau megis Llwybr Mawddach a Chader Idris o stepen y drws.
Mae atyniadau megis Canolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin, Zip World a Bounce Below i gyd gerllaw, yn ogystal â thraeth Baner Lâs Abermaw, Trên Stêm Talyllyn, cestyll a llawer mwy.
Llawr Gwaelod
Cegin - ystafell olau a modern. Offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, popty, hob, oergell/rhewgell, peiriant golchi dillad, haearn a bwrdd smwddio gyda digon o le i storio. Mae'r llawr llechen yn rhoi teimlad o oerni yn yr haf, a theimlad cynnes a chlyd drwy fisoedd y gaeaf.
Lolfa - cysurus a chroesawgar ac yn lle delfrydol i ymlacio. Mae'r llawr llechen yn parhau o'r gegin i roi teimlad clyd a chynnes. Mae'r soffa fawr gysurus yn atyniadaol ar ôl diwrnod hir, anturus, neu ar y llaw arall yn rhoi rhywle deniadol os ydych yn penderfynu aros i mewn. Yn cynnwys teledu, chwaraewr DVDs a Freesat, stôf drydan a bwrdd bwyta.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - ystafell ramantus gyda gwely maint king, cypyrddau dillad a dau spa-traed ar gyfer traed blinedig!
Ystafell plentyn - gyda gwely maint plentyn mewn ystafell ddiogel gyda gât ddiogelwch ar y grisiau. Mynediad uniongyrchol i'r ystafell ymolchi yn ogystal ag ystafell wely 1. Uned newid ar gael yma hefyd.
Ystafell ymolchi - unedau modern yn cynnwys cawod ddwbwl, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Ail Lawr
Ystafell wely 2 - gwely sengl gyda chypyrddau dillad.
Ystafell wely 3 - 1 gwely dydd sengl, cypyrddau dillad, teledu gyda Freesat a bocs o gemau bwrdd.
Ardal dawel ar ben y grisiau ar gyfer darllen, neu ymlacio mewn cadair gyfforddus.
Gardd
Iard fechan gaeedig yng nghefn y bwthyn gyda bwrdd a chadeiriau - delfrydol ar gyfer bwyta allan.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, llaeth a trits.
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Canieteir 2 gi i aros am swm ychwanegol - nid yw cwn yn cael mynd fyny staer
- Rheilen sychu tywelion i sychu dillad ar ô bod allan
- 3 sychwr gwallt ar gael
- 2 spa-traed ar gael yn yr ystafell wely
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir.
- Wifi ar gael
- Dim ysmygu tu mewn y bwthyn
- Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau, ffilm glynu; Ystafell ymolchi: 2 rolyn papur toiled; Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Lle parcio diogel i 1 car