Holly Bank

Dolgellau, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • Special Offer10% offer on April holidays
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £681 yr wythnos
  • £97 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 3 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 09:30

Disgrifiad

Bwthyn hunan ddarpar hyfryd ger Dolgellau wedi ei osod mewn lleoliad dyrchafedig gyda’i ardd amgaeedig ei hun a golygfeydd gwych o Gadair Idris. Yn ganolog i fynyddoedd Eryri a thraethau hyfryd Gogledd Cymru, mae’r bwthyn hwn ddwy filltir i ffwrdd o Ddolgellau ac 8 milltir o draeth tywod y Bermo.

Llawr Gwaelod

Lolfa drawiadol, groesawgar gyda ffenestr fawr sy’n cynnig golygfeydd gwych o gadwyn mynyddoedd Cadair Idris. Tân trydan gyda fflam fyw, teledu a chwaraewr DVD.

Cegin/ystafell fyw helaeth gyda pheiriant golchi llestri, microdon, oergell a rhewgell. Bwrdd bwyta sy’n eistedd 8 o flaen y drysau patio mawr sydd yn arwain yn uniongyrchol i’r patio gyda’i ddodrefn pwrpasol y gellwch eu defnyddio i fwynhau’r golygfeydd gwych. Ceir hefyd peiriant golchi dillad yn y porch cefn drws nesaf.

Ystafell wely ddwbl 1 – ystafell wely gyda golygfa , hefyd yn wynebu Cadair Idris.

Ystafell wely ddwbl 2 – ystafell eang, hyfryd yn edrych dros yr eiddo preifat, amgaeedig.

Ystafell wely ddwbl 3 – ystafell wely glyd gyda chwpwrdd dillad, byrddau bob ochr i’r gwely, lampau a basn golchi dwylo.

Ystafell wely twin gyda’r un golygfeydd gwefreiddiol ag ystafell wely 1.

Ystafell ymolchi gyda bath, sinc a thoiled.

Ystafell gawod helaeth ar wahân, gyda sinc a thoiled.

Gardd

Mae’r patio amgaeedig a’r lawnt ar du blaen yr eiddo hunan-ddarpar hwn yn Nolgellau yn lleoliad perffaith i eistedd yn ôl a mwynhau golygfeydd hyfryd panoramig.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Darperir dillad gwlâu, tywelion bath a llaw a sychwr gwallt.
  • Gwres olew canolog a thrydan yn gynwysedig.
  • Cot a chadair uchel ar gael ar gais.
  • Wifi ar gael.
  • Croesewir hyd at ddau anifail anwes - £50 y ci. 
  • Digonedd o le parcio preifat.

Lleoliad

Wedi ei osod mewn lleoliad preifat, dyrchafedig gyda golygfeydd gwych tua chadwyn mynyddoedd Cadair Idris , mae’r bwthyn hunan-ddarpar hwn yn Nolgellau yn sefyll uwchlaw pentref Llanelltyd yn ne Eryri. Dim ond 2 filltir o ganol tref Dolgellau gyda’i hystod eang o gyfleusterau a dim ond 8 milltir o draeth Baner Las tywodlyd Bermo.

Ceir digonedd o siopau difyr, caffis gwych, tafarndai a gwestai yn nhref farchnad liwgar Dolgellau. Ceir hefyd fwy o adeiladau wedi eu rhestru yn nhref Dolgellau nac yn unrhyw dref arall yng Nghymru, dros 200. Am gacennau blasus a wifi am ddim, ymwelwch â Senedd-dy T.H.Roberts, neu bwytewch allan ym mwyty’r Meirionydd a Dylanwad Da. Am ddiod tawel, mae’r Unicorn yn le hyfryd. Ceir hefyd sawl bwyty y’i hargymhellir yn fawr tu allan i’r dref megis Bwyty Mawddach a George lll ym Mhenmaen-pwl.

Ymysg prif atyniadau’r ardal mae’r llwybrau cerdded mynyddig ac arfordirol, ynghyd â thraethau tywodlyd Bermo a Fairbourne, Canolfan Beicio Mynydd enwog Coed y Brenin a’r cwrs rhaffau a dringo sydd yno. Mae llwybr y Mawddach yn llwybr 9 milltir gyda glannau’r afon gan ddilyn hen lein y rheilffordd o Ddolgellau i Fermo, perffaith ar gyfer cerdded neu feicio. Atyniadau eraill sydd ar gael yw’r Ganolfan Rafftio Dwr Gwyn ger y Bala, Safle Treftadaeth y Byd Castell Harlech, a rheilffordd gul Tal-y-llyn.

Dyddiau hamdden eraill y’i hargymhellir yw Labyrinth y Brenin Arthur sy’n wych ar gyfer teuluoedd, Ogofeydd Llechi Corris a Chanolfan Grefftau Corris. Os nad ydyw hynny’n ddigon i’ch bodloni, beth am rywbeth hyd yn oed mwy anturus megis y wifren zip hiraf yn Ewrop, ym Methesda neu drampolîn tanddaearol mwyaf y byd ym Mlaenau Ffestiniog am brofiadau cwbl wahanol ac unigryw.

Traethau

Traeth Bermo – traeth hir a thywodlyd Baner Las, 8 milltir.

Traeth Fairbourne – traeth tywodlyd, 9.5 milltir.

Cerdded

Llwybr newydd Cwnwch- Llanelltyd – addas ar gyfer pob oed, 0 milltir, ar drothwy drws ei bwthyn hunan-ddarpar yn Nolgellau.

Llwybr Cwnwch – Dolgellau – addas ar gyfer pob oed, 2 filltir o’r bwthyn.

Llwybr y Mawddach – Dolgellau – addas ar gyfer pob oed – cerddwyr, beicwyr, a defnyddwyr cadeiriau olwyn, 2 filltir o‘r bwthyn.

Mynydd Cader Idris – tri prif lwybr yn cychwyn o Ddolgellau (2 filltir), Minffordd(9 milltir) ac Abergynolwyn (18 milltir).

Llwybr Clywedog – Brithdir – llwybr cerdded cymedrol hamddenol gyda’r afon, 6 milltir.

Llwybr Panorama – Bermo – addas ar gyfer pob oed, 8.5 milltir.

Beicio

Llwybr y Mawddach – fel uchod, 2 filltir.

Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau addas ar gyfer pob oed, 4 milltir (taith fer ar eich beic ar hyd ffyrdd gwledig).

Golff

Clwb Golff – cwrs golff 9 twll, 2 filltir.

Pysgota

Darllenwch fwy am yr ystod o gyfleoedd pysgota yma : opsiynau gwahanol ar gyfer pob oed.

Marchogaeth

Canolfan Merlota Bwlchgwyn – addas i unrhyw un dros 4 oed, 9.5 milltir.

Chwaraeon Dwr

Llyn Bala – hwylio, caiacio, gwynt-fyrddio, adeiladu rafft, 19 milltir.

Canolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn, Canolfan Tryweryn – rafftio dwr gwyn, caiacio a chanwio, 23 milltir.