Cysgod y Coed

Dolgellau, North Wales Snowdonia

  • 4 Star Gold
  • Special Offer20% offer w/c 30th March

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £714 yr wythnos
  • £102 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 09:30

Disgrifiad

Adeilad ar wahân, lleoliad heddychlon, golygfeydd bendigedig ac yn gyfleus tu hwnt. Mae’r bwthyn hwn yn Nolgellau yn cynnig sylfaen gwych ar gyfer eich gwyliau yn Eryri. P’un ai eich bod yn chwilio am wyliau llawn cyffro neu ymlacio’n llwyr, mae gan yr ardal hon bopeth rydych chi ei angen.

Llawr Gwaelod

Cegin fawr gyda pheiriant golchi llestri, popty a meicrodon, rhewgell, oergell a theledu.

Lolfa hyfryd a chroesawgar gyda digonedd o seddi, stôf dân drydanol a theledu mawr. Y lle perffaith i ymlacio a mwynhau golygfeydd bendigedig o gysur eich soffa.

Ystafell wely gyda gwely maint king, cwpwrdd mawr ac uned sinc. 

Ystafell wely ddwbl gyda digon o le storio ac uned sinc. Golygfeydd gwych dros y lawnt a thuag at Gadair Idris.

Ystafell wely twin glud gyda golygfa hyfryd o Gadair Idris.

Ystafell ymolchi gyda chawod, bath, basn ymolchi a thoiled.

Ystafell doiled ar wahân.

Garej gyda chlo arni, yn cynnwys peiriant golchi a sychwr dillad.

Gardd

Mae gan y bwthyn hwn yn Nolgellau, sydd yn croesawu anifeiliaid anwes, batio mawr gyda dodrefn gardd a set barbeciw. Mae yna hefyd ardal lawnt anferth, ddiogel er mwyn i blant gael chwarae. Mae'r ardd yn gaeedig gyda gwrychoedd a ffensys sy'n ei wneud yn ddiogel i gwn. Golygfeydd gwych, di-rwystr o fynydd Cadair Idris.

Gwybodaeth ychwanegol

Darperir dillad gwely, tywelion a sychwr gwallt.

Gwres canolog a thrydan yn gwynwysedig.

Darperir cadair uchel a chot.

Wifi ar gael.

Croeso i hyd at 2 o anifeiliaid anwes - £50 y ci. 

Digonedd o le parcio preifat.

Lleoliad

Mae’r bwthyn ar wahân hwn yn Nolgellau mewn lleoliad heddychlon ac yn mwynhau golygfeydd hardd o gadwyn mynyddoedd Cadair Idris. Wedi ei leoli ar dir preifat uwchben pentref Llanelltyd yn Eryri, nid yw ond dwy filltir i ffwrdd o ganol tref Dolgellau gyda’i hamrywiaeth o gyfleusterau.

Mae gan dref farchnad hardd Dolgellau dros 200 o adeiladau rhestredig - mwy nac unrhyw dref arall yng Nghymru. Mae ganddi hefyd archfarchnadoedd, digonedd o siopau diddorol, caffis gwych, tafarndai a bwytai. Ymwelwch â Senedd-dy T.H.Roberts am gacennau gwych a wi-fi am ddim, a bwytewch allan ym Meirionydd a Dylanwad Da. Mae Unicorn yn lleoliad hyfryd am ddiod tawel, tra argymhellir bwytai eraill tu allan y dref megis Bwyty Mawddach a George lll ym Mhwll Penmaen yn gryf.

Ymhlith y prif atyniadau mae gennych fynyddoedd a llwybrau cerdded arfordirol, traethau tywodlyd yn Bermo a Morfa Henddol (Fairbourne), y ganolfan feicio fyd-enwog yng Nghoed Y Brenin a’r cwrs gwifrau uchel Go Ape. Mae gennych hefyd Llwybr y Mawddach ( llwybr 9 milltir o Ddolgellau i Bermo - perffaith ar gyfer cerdded neu feicio) Y Ganolfan Rafftio Dwr Gwyn ger Bala, Safle Treftadaeth y Byd Castell Harlech a thrên bach Tal-y-llyn.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Chwareli Llechi Corris, Labyrinth y Brenin Arthur (gwych ar gyfer teuluoedd) a Chanolfan Grefftau Corris. Ac os nad yw hynny’n ddigon, beth am rywbeth hollol wahanol ac unigryw megis trampolîn tanddaearol mwya’r Byd ym Mlaenau Ffestiniog neu’r wifren sip hiraf yn Ewrop ym Methesda.

Traethau

Traeth Bermo - traeth hir a thywodlyd gyda gwobr Baner Las. 8.5 milltir

Traeth Morfa Henddol - traeth tywodlyd. 9.5 milltir

Cerdded

Llwybr gerdded dibyn newydd - Llanelltyd - addas i bob oed. 0 milltir.

Llwybr Cynwch - Dolgellau - addas i bob oed. 2 filltir o’r bwthyn.

Llwybr Mawddach - Dolgellau - addas i bob oed - cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn. 2 filltir o’r bwthyn.

Cader Idris (mynydd) - 3 prif lwybr yn dechrau o Ddolgellau (2 filltir), Minffordd (9 milltir) ac Abergynolwyn (18 milltir)

Taith Gerdded Torrent - Brithdir - Taith gerdded gymedrol a hamddenol tua 2 filltir a hanner ar hyd yr afon. 6 milltir.

Taith Gerdded Panorama - Bermo - addas i bob oed. 8.5 milltir

Beicio

Llwybr Mawddach - gwelir uchod. 2 filltir.

Canolfan beicio Coed y Brenin - llwybrau addas i bob oed. 4 milltir (taith feicio fer i ffwrdd ar hyd llwybrau cefn gwlad)

Golff

Clwb Golff Dolgellau - cwrs golffio 9 twll. 2 filltir.

Pysgota

Darllenwch fwy am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i fynd i bysgota yn ardal Dolgellau - opsiynau addas i bob oed.

Marchogaeth

Canolfan Merlota Bwlchgwyn - addas i unrhyw un dros 4 mlwydd oed. 9.5 milltir.

Chwaraeon dwr

Llyn Bala - hwylio, canwio, caiacio, hwylfyrddio, adeiladu rafftiau a.y.b. 19 milltir.

Canolfan Rafftio Dwr Gwyn Cenedlaethol, Canolfan Tryweryn - rafftio dwr gwyn, caiacio a chanwio. 23 milltir