Berthlwyd

Dolgellau, North Wales Snowdonia

  • 4 Star Gold
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Bwthyn heddychlon yn Eryri sy'n berffaith ar gyfer gwyliau cerdded yng Nghymru. Gellir cerdded i Ddolgellau, a beicio i Goed y Brenin.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £578 yr wythnos
  • £83 y noson
  • 4 Star Gold
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn hardd wedi ei leoli o fewn ei ardd fawr a thawel ei hun ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae Berthlwyd yn fwthyn ar ei ben ei hun ac wedi ei amgylchynu gan olygfeydd anhygoel o gefn gwlad, ac yn cynnig encil croesawgar a heddychlon, gyda’r fantais ychwanegol o fod o fewn tafliad carreg i’r bwytai, siopau a’r tafarndai yn Nolgellau (1 milltir).
Gallwch feicio ar hyd lonydd tawel cefn gwlad yn syth i Ganolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin, a gydag amryw o lefydd i fynd am dro oddi ar garreg eich drws, mae hefyd yn cynnig y man perffaith i fynd ar wyliau cerdded yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys y llwybr poblogaidd at gopa Cader Idris a hefyd Llwybr Mawddach sy’n dilyn yr afon am 9 milltir hyd at Abermaw, lle gallwch ymlacio ar draeth hyfryd.

Llawr Gwaelod
Cegin fawr ac ystafell fwyta â lloriau derw, bwrdd bwyd mawr a drysau Ffrengig yn arwain yn syth at yr ardd gaeedig. Mae’r gegin yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch - peiriant golchi llestri, micro-don, ffwrn drydan, oergell/rhewgell, peiriant golchi a pheiriant sychu dillad.

Ystafell fwyta fawr, olau gyda llawr derw, stôf losgi coed ac un wal gerrig. Mae gan yr ystafell hon 6 ffenestr er mwyn gallu gwerthfawrogi’r golygfeydd hardd, gan gynnwys cadwyn fynydd drawiadol Cader Idris. Teledu mawr, chwaraewyr DVD a CD a basged yn llawn o goed tan.

Mae llawr llechi yn y cyntedd ac mae digon o le i hongian cotiau yno.

Ystafell gotiau ar y llawr gwaelod â llawr llechi, toiled a basn.

Llawr Cyntaf
Mae lloriau pren ar holl ystafelloedd y llawr cyntaf, golygfeydd syfrdanol a chaeadau ar y ffenestri.

Prif ystafell wely - Ystafell fawr â golygfa naill ochr iddi gyda lloriau pren a rygiau. Mae gan yr ystafell wely dwbl a sengl. Cwpwrdd dillad trebl gyda chist ddroriau.

Ystafell wely 2 - Gwely maint ‘king’, cwpwrdd dillad mawr, bwrdd ymbincio a chist droriau.

Ystafell ymolchi - Cawod dros y baddon, toiled, basn a digonedd o silffoedd.

Gardd

Gardd fawr a heddychlon wedi’i hamgylchynu gan olygfeydd godidog o’r wlad ym mhob cyfeiriad. Mae’r bwrdd hardd yn berffaith ar gyfer barbeciw ac mae hefyd bibell ddwr yno os oes angen golchi’r beiciau. Y gât bren ar waelod yr ardd yw man dechrau eich gwyliau cerdded yng Nghymru, gyda chopa Cader Idris yn eich gwahodd tua’r gorwel.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Caiff dillad gwely, tywelion llaw a baddon a sychwr gwallt eu darparu
  • Mae gwres a thrydan wedi eu cynnwys. Darperir basged o goed tân ar gyfer y llosgwr coed. Mae coed tân ychwanegol ar gael am £5 y fasgedaid
  • Gellir darparu cot teithio, cadair uchel a giat ddiogelwch os gofynnir amdanynt
  • Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes.
  • Digonedd o lefydd parcio preifat y tu allan i’r bwthyn. Ni chaniataeir gwefru ceir trydan yma, defnyddiwch y pwynt gwefru yn Nolgellau (1.5 milltir)
  • Perffaith ar gyfer gweithgareddau megis beicio, chwaraeon dwr a gwyliau cerdded yng Nghymru, gyda sied fawr â chlo arni er mwyn storio eich offer.

Lleoliad

Mae’r bwthyn hwn wedi ei leoli o fewn gardd fawr a heddychlon ei hun, ac mae golygfeydd o gefn gwlad ym mhob cyfeiriad, gan gynnwys cadwyn syfrdanol o fynyddoedd Cader Idris. Dim ond un milltir i ffwrdd o dref farchnad Dolgellau yn Ne Eryri, mae’n ddigon pell er mwyn cael llwyr heddwch a digon agos i allu cymryd mantais llawn ar atyniadau’r dref.

Mae hyn yn cynnwys nifer o fwytai o ansawdd uchel megis Meirionnydd, Dylanwad Da a Bwyty Mawddach a rhai tafarndai neis fel yr Unicorn. I’w cael yn Nolgellau mae hefyd llawer o siopau diddorol caffis ac archfarchnad sydd wedi ennill sawl gwobr sy’n cynnig amrywiaeth eang o gynnyrch Cymreig. Mae gan y dref hardd a carismatig hon fwy na 200 o adeiladau rhestredig - mwy nag unrhyw dref arall yng Nghymru.

Mae’r bwthyn yn berffaith ar gyfer gwyliau cerdded gydag amrywiaeth o lefydd i fynd am dro sy’n dechrau o fewn milltir i’r stepen ddrws, gan gynnwys taith fynydd Cader Idris, Llwybr Mawddach (llwybr sy’n mynd ar hyd afon am 9 milltir cyn cyrraedd yr arfordir yn Bermo) a Llwybr Cynwch. Ymhlith rhai o atyniadau eraill yr ardal mae Canolfan Feicio Mynydd Coed y Brenin, cwrs gwifrau uchel Go Ape a Chanolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn. Ar gyfer dyddiau mwy ymlaciol, ymwelwch â thraethau melyn Bermo, Y Friog neu Aberdyfi, Safle Treftadaeth y Byd Castell Harlech neu ewch ar hyd rheilffordd gul Talyllyn.

Traethau

Traeth Bermo – traethau hir a thywodlyd, gyda gwobr Baner Las. 9 milltir.

Traeth Y Friog – traeth tywodlyd. 9 milltir.

Cerdded

Llwybr Cynwch – Dolgellau – addas i bob oedran. Llai na 1 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Mawddach – Dolgellau – addas i bob oedran – cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn. 1 milltir o’r bwthyn.

Cader Idris (mynydd) – 3 prif lwybr yn dechrau o Ddolgellau (1 milltir), Minffordd (8 milltir) ac Abergynolwyn (16 milltir).

Llwybr Cynwch Newydd – Llanelltyd – addas i bob oedran. 2.5 milltir.

Llwybr Clywedog – Brithdir – taith weddol hamddenol tua 2½ milltir ar hyd yr afon. 4 milltir.

Llwybr Panorama – Bermo – addas i bob oedran. 10.5 milltir.

Beicio

Llwybr Mawddach – Fel uchod. 1 milltir.

Canolfan Feicio Mynydd Coed y Brenin – Llwybrau addas i bob oed.

Golff

Clwb Golff Dolgellau – cwrs golff 9 twll. 1 milltir.

Pysgota

Darllenwch fwy am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd i fynd i bysgota yn ardal Dolgellau – opsiynau addas i bob oed.

Marchogaeth Ceffylau

Canolfan Farchogaeth Fferm Bwlchgwyn - addas i unrhyw un dros 4 mlwydd oed. 9.5 milltir.

Chwaraeon Dwr

Llyn Tegid - http://www.bestofwales.co.uk/Watersports-on-Bala-Lake-Llyn-Tegid – hwylio, canwio, caiac, bordhwylio, adeiladu rafft ac ati. 17 milltir

Canolfan Dwr Gwyn Genedlaethol, Canolfan Tryweryn – Rafftio dwr gwyn, Caiacio a Chanwio. 21 milltir