Gellilwyd Fach

Dolgellau, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £594 yr wythnos
  • £85 y noson
  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae'r bwthyn hyfryd hwn yn mwynhau lleoliad anhygoel, heddychlon a phreifat wrth droed Cader Idris. Mae'r golygfeydd o gopaon Eryri a'r tiroedd o gwmpas yn syfrdanol.  1.7 milltir i ffwrdd o'ch bwthyn mae tref farchnad Dolgellau sydd yn cynnig ystod o fwytai, caffis a siopau. Mae Gellilwyd Fach yn dy fferm cerrig traddodiadol cofrestredig Gradd 2 o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda nodweddion arbennig ee. wal grwm a simdde uchel. Wedi ei adnewyddu mewn dull sensitif, mae'n cynnig cipolwg o'r dyddiau a fi, ond eto gyda'r holl ddisgwyliadau modern cyfredol.

Llawr Gwaelod

Cegin - unedau modern gydag offer yn cynnwys oergell gyda rhewgell oddi mewn (rhewgell ychwanegol ar gael), popty trydan, meicrodon, peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad. Bwrdd a chadeiriau.

Ystafell fyw - ystafell helaeth gyda ffenestri ar ddwy ochr a thrawstiau yn y golwg, wal grwm anarferol, llawr gyda teils chwarel, a stôf goed oddi mewn i le tân mawr wedi ei wneud o gerrig a llechi. Bwrdd bwyta, seddi cyfforddus a theledu Smart.

Parlwr - ystafell gysurus gyda charped a ffenestri ar ddwy ochr gyda trawstiau yn y golwg, gwely soffa dwbwl, lle tân nodweddiadol (ddim yn gweithio). Lampau golau, llyfrau a gemau ayb.

Cyntedd yn cynnwys lle i gadw cotiau ac esgidiau yn ogystal â chyntedd ffrynt arwahan gyda llawr llechi, setl, a mwy o le i hongian cotiau.

Llawr Cyntaf

Prif ystafell wely - ystafell drawiadol gyda trawstiau a nenfwd uchel, estyll gwreiddiol a wal grwm. Gwely derw super king, cypyrddau dillad gyda drych mawr. Hefyd yn cynnwys soffa.

Ail ystafell wely - ystafell gyda ffenestri ar ddwy ochr gyda trawstiau yn y golwg a gwely super king (gellir gwneud y gwely yn ddau wely sengl 3 troedfedd). Droriau dillad, byrddau bach wrth y gwely, lampau a rheilen i hongian dillad.

Ystafell ymolchi eang gyda baddon, cawod quadrant helaeth, basn a thoiled.

 
Gardd

Mae'r ardd gaeedig yn cynnwys ardal dawel yn y cefn, gyda man picnic cerrig anarferol, Barbaciw a golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd. Mae yna hefyd patio arwahan gyda lle i eistedd.

Tŷ Golchi - adeilad arwahan lle cedwir y rhewgell, lle diogel i gadw beiciau, a peipen ddŵr i olchi y tu allan.


Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn Croeso yn cynnwys nwyddau lleol yn ogystal â te, coffi, siwgr a llaeth 
  • Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig 
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig 
  • Darperir pentwr o goed erbyn i chi gyrraedd. Gellir archebu mwy am bris o £5 y fasged 
  • 2 sychwr gwallt ar gael 
  • Wifi ar gael 
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r staer ar gael os dymunir  
  • Gwely soffa dwbwl ar gael ar gyfer 2 berson ychwanegol am £16 y noson 
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y llety 
  • Digon o le parcio 
  • Mae eitemau eraill yn cynnwys:
    • Cegin: pupur a halen, te, coffi, siwgr, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau golchi fyny, ffoil a ffilm glynu 
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif, jel cawod a phapur toiled
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol: glanhawr cawod ECOVER, chwistrell gwrth-facteria ayb

Lleoliad

Fe leolir Gellilwyd Fach wrth droed Cader Idris, ac er ei fod yn ddiarffordd, mae eto o fewn cyrraedd i ystod eang o adnoddau. Mae Dolgellau, tref farchnad yn ne Eryri gyda pensaerniaeth drawiadol, yn gyfleus ac o fewn pellter cerdded o 1.7 milltir ar hyd lôn wledig. Mae Dolgellau yn gartref i dros 200 o adeiladau rhestredig - mwy nag unrhyw dref arall yng Nghymru.

Yn ystod eich arhosiad yn Gellilwyd Fach bydd tref Dolgellau yn medru cwrdd a'ch holl anghenion. Mae hyn yn cynnwys bwytai, caffis, siopau a thafarndai, yn ogystal â banciau ac archfarchnadoedd, cigydd lleol, siopau bara a fferyllydd. Ymysg y bwytai fe gymeradwyir y Meirionnydd a'r Royal Ship yng nghanol tref Dolgellau, yn ogystal â'r Stakehouse a tapas yn Nhafarn y Gader. Y tu allan i'r dref mae Bwyty Mawddach yn Llanelltyd (3.4 milltir), a gellir cael profiad o fwyd Indiaidd yn Indiana Cuisine yn Fairbourne (10 milltir). Os am noson ymlaciol a chymdeithasol, gellir ymweld â Bar Gwîn Dylanwad Da, neu os hoffech beint neu ddau fe argymhellir y Royal Ship ynghanol y dref. Fe ellir argymhell nifer o fwytai a thafarndai eraill; y gwir ydy mae yma fwy na digon o ddewis.

Mae ardal Dolgellau yn Ne Eryri yn cynnig ystod eang o lwybrau cerdded sydd yn addas ar gyfer pob gallu. Yn ogystal â her amlwg Cader Idris, mae Dolgellau hefyd yn fan cychwyn i Lwybr y Mawddach (llwybr cerdded a seiclo i aber yr afon Mawddach ac Abermaw ar yr arfordir). Mae Canolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin yn fyd enwog (o fewn 10 milltir), ac fe geir traethau tywod gwych yn Fairbourne (10 milltir) ac Abermaw (12 milltir).

Mae rhai o atyniadau poblogaidd eraill yr ardal yn cynnwys Bounce Below (y trampolîn tanddaearol mwyaf yn Ewrop) a reid Zip Wire ym Mlaenau Ffestiniog. Gellir hefyd ymweld â’r Ganolfan Rafftio Dwr Gwyn Cenedlaethol ger y Bala. Am rywbeth ychydig yn fwy ymlaciol, gellir ymweld â safle Treftadaeth y Byd yng Nghastell Harllech; y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Canolfan Grefftau a Labyrinth y Brenin Arthur, i gyd yng Nghorris. Mae’r rhan fwyaf o reilffyrdd cul Cymru wedi eu lleoli yn yr ardal, yn cynnwys Rheilffordd Talyllyn, a’r Rheilffordd o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog. Os nad ydy hynny’n ddigon, mae Gwarchodfeydd RSPB a dau leoliad ble gellir gwylio Nythod Gweilch y Pysgod (Ospreys) heb fod ymhell.

Cerdded

  • Cader Idris - tri o lwybrau yn cychwyn o Ddolgellau (o ben drws y bwthyn), Minffordd (4.5 milltir) ac Abergynolwyn (13 milltir)
  • Llwybr Mawddach - Dolgellau - addas ar gyfer pob oed - cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn (1.5 milltir)
  • Llwybr Cynwch (Precipice Walk) - Llanfachreth - addas ar gyfer pob oed (3.5 milltir)
  • Llwybr Precipice Newydd - Llanelltyd - addas ar gyfer pob oed (3.5 milltir)
  • Llwybr Torrent - Brithdir - llwybr tra hamddenol 2.5 milltir o hyd, ger yr afon (5 milltir)
  • Llwybr Panorama - Abermaw - addas ar gyfer pob oed (12 milltir)

Beicio

  • Llwybr Mawddach - fel y gwelir uchod (1.5 milltir)
  • Canolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin - addas ar gyfer pob oed (10 milltir)

Golff

  • Clwb Golff Dolgellau - cwrs golff 9 twll (2 filltir)

Pysgota

  • Fe geir nifer o gyfleoedd i bysgota ger Dolgellau - o bysgota yn yr afon, i bysgota yn Llyn Cynwch - opsiynau addas ar gyfer pob oedran

Marchogaeth

  • Canolfan Farchogaeth Bwlchgwyn - addas ar gyfer unrhyw un dros 4 oed (8 milltir)

Traethau

  • Traeth Fairbourne - traeth tywod (10 milltir)
  • Traeth Abermaw - traeth tywodlyd, hir sydd gyda Gwobr y Faner Las (12 milltir)

Chwaraeon Dwr

  • Llyn Tegid, y Bala - hwylio, canwîo, caiacio, syrffio, adeiladu rafftiau ayb (18 milltir)
  • Canolfan Genedlaethol Dwr Gwyn, Canolfan Tryweryn - rafftio dwr gwyn, caiacio a chanwîo (22 milltir)