Penclogwynau

Dolgellau, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Preifat, heddychlon a chysurus - rhai o'r ansoddeiriau ddefnyddir i ddisgrifio'r bwthyn gwyliau hwn wrth droed Cader Idris ger Dolgellau

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £691 yr wythnos
  • £99 y noson
  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn gwyliau hardd yn Eryri sydd yn breifat, heddychlon a chysurus, gyda golygfeydd anhygoel. Wedi ei leoli ar lethrau Cader Idris ac o fewn 1.5 milltir i dref farchnad Dolgellau. Mae Penclogwynau gyda gwres o dan y llawr, stôf losgi coed, baddon siâp slipar a llawer o nodweddion gwreiddiol yn dyddio nol i’r 18fed ganrif.

Llawr Gwaelod

Cegin agored gydag ardal eistedd a bwyta - trawstiau hardd a gwres o dan y llawr.

Mae’r ardal eistedd gyda dwy soffa gysurus o gwmpas lle tân agored, gyda stôf goed a theledu ‘Smart’.

Cegin gyda’r offer angenrheidiol yn cynnwys sinc Belfast ddwbl o dan y ffenestr gyda golygfeydd allan dros yr ardd. Hob nwy gyda ffan echdynnu, popty trydan, peiriant golchi llestri, meicrodon ac oergell. Storfa helaeth.

Mae’r ardal fwyta yn cynnwys bwrdd mawr a chadeiriau, wedi eu lleoli o flaen drysau Ffrengig sydd yn arwain allan i ardal patio gyda golygfeydd eang. Goleuadau yn y nenfwd, cadair gyfforddus, golau darllen a dewis o lyfrau.

Ystafell Iwtiliti gyda peiriant golchi a rhewgell, pegiau hongian dillad a mainc eistedd - fe leolir y peiriant sychu dillad yn y garej drws nesaf. Drws stabl yn arwain allan i’r ardd gefn.

Ystafell gawod fawr gyda gwres o dan y llawr â chawod foethus, toiled, basn a rheilen tywelion.

Llawr Cyntaf

Ystafell Wely 1 - prif ystafell wely gyda gwres canolog a thrawstiau gwreiddiol. Gwely maint ‘king’ gyda cwpwrdd dillad hynafol a rheilen hongian dillad. Ystafell ymolchi ynghlwm gyda cawod, toiled, basn a rheilen tywelion. Golygfeydd godidog dros gaeau, coetir a mynyddoedd Eryri i’r gogledd.

Ystafell Wely 2 - ystafell wely gyda gwres canolog a thrawstiau gwreiddiol. Gwely maint ‘king’ y gellir ei droi i ddau wely sengl os dymunir. Droriau dillad a rheilen hongian dillad. Golygfeydd godidog dros gaeau, coetir a mynyddoedd Eryri i’r gogledd.

Ystafell Ymolchi - trawstiau a ffenestr yn y nenfwd, baddon slipar mawr, toiled, basn a rheilen tywelion.

Gardd

Lawnt eang ar sawl lefel gyda coed a nant fach ar y terfyn. Ardal wastad i eistedd gyda graean dan draed a golygfeydd 360° o’r caeau, coetiroedd a mynyddoedd. Bwrdd picnic crwn yn eistedd 8, bwrdd arall arwahan gyda 2 gadair a Barbaciw siarcol.

Mae’r bwthyn gwyliau hwn yn Eryri yn cynnig y man perffaith ar gyfer ymlacio. Ar nosweithiau di-gwmwl fe gewch olwg ar y planedau a chysawd yr haul ynghyd ag ambell i seren wîb, a hyn i gerddoriaeth cefndirol y nant fyrlymus.

Mae’r garej yn cynnig storfa ddiogel ar gyfer beiciau ayyb, ac yn cynnwys peiriant sychu dillad.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
  • Coed sych yn gynwysedig ar gyfer y stôf goed
  • Dillad gwely a thywelion ar gael
  • 2 sychwr gwallt ar gael
  • Wifi
  • Cot, cadair uchel a gât ar gyfer y grisiau ar gael os dymunir - dewch a’ch dillad eich hun ar gyfer y cot
  • *Sylwer fod y grisiau yn serth a chul, ac felly ddim yn addas ar gyfer gwesteion gyda symudedd cyfyngedig
  • Dim ysmygu oddi mewn y bwthyn
  • Croeso i hyd at 2 gi ar y llawr gwaelod yn unig - bydd tâl ychwanegol o £15 am bob ci. Byddwch yn ymwybodol fod y bwthyn wedi ei amgylchynu gan dir pori defaid
  • Digon o le parcio ceir oddi ar y ffordd yn agos at y bwthyn
  • Hylif golchi llestri a thabledi ar gyfer y peiriant golchi llestri ar gael
  • Plȋs nodwch wrth archebu sut hoffech chi'r gwely gael ei drefnu yn ystafell 2.

Lleoliad

Mae’r bwthyn gwyliau hwn yn sefyll ar ben ei hun 1.5 milltir i’r de-orllewin o dref farchnad Dolgellau, wrth droed mynydd Cader Idris. Mae wedi ei leoli ar fryncyn greigiog gyda golygfeydd syfrdanol i bob cyfeiriad. Mae’r tir pori sy’n amgylchynu’r bwthyn wedi ei gau mewn gan waliau cerrig sych. Mae’n bosib cerdded i dref Dolgellau ar hyd lôn wledig - mae’r dref hon yn gartref i dros 200 o adeiladau cofrestredig, mwy nag unrhyw dref arall yng Nghymru.

Does dim prinder o fwytai gwych yn Nolgellau a’r ardal o gwmpas. Ymysg y ffefrynnau fe geir Y Meirionydd, Gwin Dylanwad, Tapas Tafarn y Gader a Gwesty’r Royal Ship - i gyd yn Nolgellau ei hun (1.5 milltir). Y tu allan i’r dref fe geir Bwyty Mawddach (2.5 milltir). Mae’r dafarn agosaf (Llyn Gwernan) ond 1 filltir o’r bwthyn. Mae yna amrywiaeth o lefydd bwyta unigryw yn Nolgellau, megis caffi T H Roberts, ac fe geir hefyd 3 archfarchnad, cigydd lleol, siop groser, siopau bara, fferyllydd a tri banc.

Mae ardal Dolgellau yn Ne Eryri yn cynnig ystod eang o lwybrau cerdded sydd yn addas ar gyfer pob gallu. Yn ogystal â her amlwg Cader Idris, mae Dolgellau hefyd yn fan cychwyn i Lwybr y Mawddach (llwybr cerdded a seiclo i aber yr afon Mawddach ac Abermaw ar yr arfordir). Mae Canolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin yn fyd enwog (o fewn 10 milltir), ac fe geir traethau tywod gwych yn Fairbourne (10 milltir) ac Abermaw (12 milltir).

Mae rhai o atyniadau poblogaidd eraill yr ardal yn cynnwys Bounce Below (y trampolîn tanddaearol mwyaf yn Ewrop) a reid Zip Wire ym Mlaenau Ffestiniog. Gellir hefyd ymweld â’r Ganolfan Rafftio Dwr Gwyn Cenedlaethol ger y Bala. Am rywbeth ychydig yn fwy ymlaciol, gellir ymweld â safle Treftadaeth y Byd yng Nghastell Harllech; y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Canolfan Grefftau a Labyrinth y Brenin Arthur, i gyd yng Nghorris. Mae’r rhan fwyaf o reilffyrdd cul Cymru wedi eu lleoli yn yr ardal, yn cynnwys Rheilffordd Talyllyn, a’r Rheilffordd o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog. Os nad ydy hynny’n ddigon, mae Gwarchodfeydd RSPB a dau leoliad ble gellir gwylio Nythod Gweilch y Pysgod (Ospreys) heb fod ymhell.

Cerdded
  • Cader Idris - tri o lwybrau yn cychwyn o Ddolgellau (o ben drws y bwthyn), Minffordd (4.5 milltir) ac Abergynolwyn (13 milltir)
  • Llwybr Mawddach - Dolgellau - addas ar gyfer pob oed - cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn (1.5 milltir)
  • Llwybr Cynwch (Precipice Walk) - Llanfachreth - addas ar gyfer pob oed (3.5 milltir)
  • Llwybr Precipice Newydd - Llanelltyd - addas ar gyfer pob oed (3.5 milltir)
  • Llwybr Torrent - Brithdir - llwybr tra hamddenol 2.5 milltir o hyd, ger yr afon (5 milltir)
  • Llwybr Panorama - Abermaw - addas ar gyfer pob oed (12 milltir)
Beicio
  • Llwybr Mawddach - fel y gwelir uchod (1.5 milltir)
  • Canolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin - addas ar gyfer pob oed (10 milltir)
Golff
  • Clwb Golff Dolgellau - cwrs golff 9 twll (2 filltir)
Pysgota
  • Fe geir nifer o gyfleoedd i bysgota ger Dolgellau - o bysgota yn yr afon, i bysgota yn Llyn Cynwch - opsiynau addas ar gyfer pob oedran
Marchogaeth
  • Canolfan Farchogaeth Bwlchgwyn - addas ar gyfer unrhyw un dros 4 oed (8 milltir)
Traethau
  • Traeth Fairbourne - traeth tywod (10 milltir)
  • Traeth Abermaw - traeth tywodlyd, hir sydd gyda Gwobr y Faner Las (12 milltir)
Chwaraeon Dwr
  • Llyn Tegid, y Bala - hwylio, canwîo, caiacio, syrffio, adeiladu rafftiau ayb (18 milltir)
  • Canolfan Genedlaethol Dwr Gwyn, Canolfan Tryweryn - rafftio dwr gwyn, caiacio a chanwîo (22 milltir)