Cae Merllyn

Dolgellau, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Bwthyn Gwyliau Moethus yng Ngogledd Cymru sydd hefyd yn derbyn anifeiliaid anwes. Mae bwthyn Cae Merllyn wedi ei leoli ar fferm ddefaid yn Eryri, 2 filltir o dref hanesyddol Dolgellau.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £437 yr wythnos
  • £62 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn Gwyliau Moethus yng Ngogledd Cymru sydd hefyd yn derbyn anifeiliaid anwes. Mae bwthyn Cae Merllyn wedi ei leoli ar fferm ddefaid, 2 filltir i’r dwyrain o dref hanesyddol Dolgellau ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Amgylchynir y bwthyn gan olygfeydd hyfryd cefn gwlad a cheir lawnt a mainc bicnic, teganau awyr agored, barbeciw a chimenea.

Llawr Gwaelod

Drws nesaf i ffermdy gwely a brecwast y perchnogion, mae’r hen ysgubor hon wedi ei hadnewyddu i safon uchel. Mae’n llawr gwaelod yn cynnwys cegin gyflawn (golchwr llestri yn gynwysedig) ystafell fyw gartrefol gyda theledu, chwaraewr DVD a CD a bathrwm/cawod. Gwres canolog ac iwtiliti mewn adeilad allanol sy’n cynnwys peiriant golchi, sychwr dillad a storfa beiciau gyda chlo.

Llawr Cyntaf

3 ystafell wely foethus yn edrych dros olygfeydd hyfryd cefn gwlad. Ceir 1 ddwbl, 1 twin, ac 1 sengl gyda chot.

Gardd

Lawnt a mainc bicnic, teganau awyr agored, barbeciw a chimenea.

Gwybodaeth Ychwanegol

Llaeth yn yr oergell + coffi, te a siwgr yn aros amdanoch pan fyddwch yn cyrraedd.

Amrywiaeth o gemau a ffilmiau ar gael yn y bwthyn.

Gwasanaeth dosbarthu bwyd ar gael i’r bwthyn. Byddwn yn gyrru manylion pellach pan fyddwch wedi archebu eich gwyliau.

Dim ysmygu tu fewn.

Darperir tywelion a dillad gwely.

Trydan a gwres yn gynwysedig.

Gall y perchennog eich gyrru i’r dref ac yn ôl ar eich cais.

Croeso i anifeiliaid anwes.

Lleoliad

Lleolir bwthyn gwyliau Cae Merllyn ar fferm deuluol ym mhentref Brithdir, 2 filltir o dref farchnad Dolgellau yn ardal ddeheuol Parc Cenedlaethol Eryri. Ar droed mynydd Cadair Idris, mae hwn yn lleoliad gwych ar gyfer archwilio Canolbarth a Gogledd Cymru.

Ceir bwyty poblogaidd iawn lai na milltir o fwthyn gwyliau Cae Merllen a digonedd o siopau, tafarndai a bwytai yn Nolgellau ei hun. Mae’r bwthyn yn cynnig cyfleoedd gwych i gerdded, cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr a beicio mynydd (Coed-y-Brenin) a hefyd o fewn taith 20 munud yn y car oddi wrth draethau tywod euraid Bermo a’r Friog.

Mae’r atyniadau yn yr ardal yn cynnwys Canolfan y Dechnoleg Amgen a Chwareli Corris, castell mawreddog Harlech (safle treftadaeth y byd) ynghyd ag olion bywyd cynharach led led yr ardal, yn cynnwys bryngaerau, cylchoedd cerrig, a hyd yn oed amffitheatr Rufeinig.

Mae Aber Mawddach gerllaw yn ardal hynod hardd, sy’n sicr yn werth ymweld â hi, ynghyd â Chanolfan Grefftau Corris, Labyrinth y Brenin Arthur (lle delfrydol i fynd fel teulu) nifer o reilffyrdd cul a Gwarchodfa Adar yr RSPB ym Mhenmaen-pwl.

Traethau

Traeth Bermo – traeth tywod hir, sydd â gwobr Baner Las. 12 milltir

Traeth y Friog – traeth tywod. 12 milltir

Chwaraeon Dŵr

Llyn Tegid, Y Bala - hwylio, canŵio, caiacio, hwylfyrddio, adeiladu rafft ac ati. 15 milltir

Canolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol Tryweryn - rafftio dŵr gwyllt, caiacio a chanŵio. 20 milltir

Cerdded

Llwybr Clywedog (Torrent Walk) – Brithdir – taith hamdden ganolig tua 2½ milltir ar hyd yr afon – 0 milltir (ger y bwthyn)

Llwybr Cynwch (Precipice Walk) – Dolgellau – addas i bob oed. 3 milltir o’r bwthyn

Llwybr Newydd Cynwch (New Precipice Walk) – Llanelltyd - addas i bob oed. 5 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Panorama – Abermo - addas i bob oed. 12 milltir o’r bwthyn.

Cadair Idris (mynydd) – 3 prif lwybr yn dechrau o Ddolgellau (2 filltir), Minffordd (5 milltir) ac Abergynolwyn (10 milltir).

Llwybr Mawddach – Dolgellau – addas i bob oed – cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn. 2 filltir

Beicio

Canolfan Feicio Mynydd Coed-y-Brenin – Llwybrau addas i bob oed. 9 milltir

Llwybr Mawddach – Fel uchod

Pysgota

Darllenwch ragor am yr amrywiaeth o gyfleoedd i bysgota yn ardal Dolgellau - lleoedd addas i bob oed.

Golff

Clwb Golff Dolgellau – cwrs golff 9 twll. 3 milltir

Marchogaeth Ceffylau

Canolfan Farchogaeth Fferm Bwlchgwyn - addas i unrhyw un dros 4 oed. 11 milltir.