Ysgubor Illtyd - The Barn

Dolgellau, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on April holidays
  • Special Offer20% offer on May holidays
  • Special Offer15% offer on June holidays

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £675 yr wythnos
  • £96 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 09:30

Disgrifiad

Mae’r llety ar wahân hwn ger Dolgellau yn croesawu anifeiliaid anwes ac mewn lleoliad dyrchafedig er mwyn gwneud y gorau o’r golygfeydd gwefreiddiol o gadwyn mynyddoedd Cadair Idris. Dim ond dwy filltir o dref farchnad Dolgellau, gyda’i bwytai, caffis a llwybrau cerdded gwych megis Llwybr Mawddach. Cynigia Ysgubor Illtyd leoliad canolog rhwng traethau tywodlyd Bermo a Fairbourne a llawer o brif atyniadau Eryri.

Llawr Gwaelod

Lolfa gyfforddus a chlyd gydag agoriad lle tân a stôf drydan, teledu a chwaraewr DVD.

Ystafell wydr eang gyda digonedd o lefydd eistedd ac ail set deledu. Lle gwych i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd anhygoel.

Mad gan y llety hunan ddarpar hwn yn Nolgellau hefyd gegin/ystafell fyw ar wahân, wedi ei dodrefnu’n dda gyda pheiriant golchi llestri, rhewgell, oergell, microdon, popty trydan a pheiriant golchi dillad.

Llawr Cyntaf

Mae’r ystafell wely deuluol yn cynnwys gwely dwbl a gwely sengl gydag ystafell gawod en-suite. Golygfeydd gwych yn edrych dros Gadair Idris.

Ystafell wely ddwbl gyda chwpwrdd dillad mawr a’r un golygfeydd gwych â’r ystafell wely deuluol.

Mae’r drydedd ystafell wely yn ystafell wely twin gyda dau wely sengl clyd.

Mae’r brif ystafell ymolchi yn cynnwys bath gyda chawod drosto, toiled a basn ymolchi.

Gardd

Mae’r ardd fawr, breifat amgaeedig yn cynnwys lawnt ac ardal batio. Cyfleusterau barbeciw a golygfeydd gwych.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Darperir dillad gwlâu a thywelion bath a llaw.
  • Gwres olew canolog a thrydan yn gynwysedig.
  • Darperir un sychwr gwallt.
  • Cot a chadair uchel ar gael ar gais.
  • Mynediad i wifi yn nhy’r perchennog.
  • Croesewir hyd at ddau anifail anwes, £50 y ci. 
  • Dim ysmygu tu mewn i’r bwthyn os gwelwch yn dda.
  • Digonedd o le parcio (i 3-4 car).

Lleoliad

Mae’r llety ar wahân hwn ger Dolgellau wedi ei osod ar ei dir ei hun, gyda’i ddreif a’i ardd amgaeedig ei hun, mae’n cynnig lleoliad preifat i fwynhau’r golygfeydd godidog o’r mynyddoedd.

Wedi ei leoli uwchben pentref Llanelltyd, mae’r bwthyn ddwy filltir i ffwrdd o ganol tref Dolgellau – tref farchnad hyfryd yn ne Eryri. Dim ond hanner milltir o Fwyty Mawddach, un o’r bwytai y cenir ei glodydd yn yr ardal, sydd hefyd yn lleoliad hyfryd i fwynhau diod bach tawel ymlaciol. Hefyd, dim ond 8 milltir yw’r bwthyn o draeth tywodlyd Baner Las Bermo.

Ceir digonedd o siopau difyr, caffis gwych, tafarndai a gwestai yn nhref farchnad liwgar Dolgellau. Ceir hefyd fwy o adeiladau wedi eu rhestru yn nhref Dolgellau nac yn unrhyw dref arall yng Nghymru, dros 200. Am gacennau blasus a wifi am ddim, ymwelwch â Senedd-dy T.H.Roberts, neu bwytewch allan ym mwyty’r Meirionydd a Dylanwad Da. Am ddiod tawel, mae’r Unicorn yn le hyfryd. Ceir hefyd sawl bwyty y’i hargymhellir yn fawr tu allan i’r dref megis Bwyty Mawddach a George lll ym Mhenmaenpwl.

Ymysg prif atyniadau’r ardal mae Canolfan Beicio Mynydd enwog Coed y Brenin a Chwrs Rhaffau Go Ape (4 milltir). Hefyd o fewn ugain milltir, ym Mlaenau Ffestiniog, mae’r trampolîn tanddaearol mwyaf yn Ewrop (Bounce Below), a gwifren zip hiraf Ewrop ym Methesda. Am chwaraeon dwr, mae Bala yn gartref i lyn naturiol mwyaf Cymru a Chanolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn.

Am ddiwrnodau rhywfaint mwy hamddenol, ceir llwybrau mynyddig ac arfordirol gwych yn yr ardal, gyda’r prif rhai wedi eu rhestru isod. Yn dechrau o Ddolgellau, Llwybr y Mawddach yw un o’r rhai mwyaf poblogaidd, gan redeg gyda’r afon am 9 milltir yr holl ffordd i’r arfordir ym Mermo, addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Mae traethau tywodlyd Bermo a Fairbourne yn berffaith ar gyfer ymlacio. Ceir dyddiau hamdden gwych ar Safle Treftadaeth y Byd Castell Harlech, rheilffordd gul Talyllyn, Labyrinth y Brenin Arthur a Chanolfan Grefftau Corris.

Traethau

Traeth Bermo – traeth hir a thywodlyd gyda gwobr Baner Las, 8 milltir.

Traeth Fairbourne – traeth tywodlyd, 9.5 milltir.

Cerdded

Llwybr newydd Cwnwch- Llanelltyd – addas ar gyfer pob oed, 0 milltir, ar drothwy drws ei bwthyn hunan ddarpar yn Nolgellau.

Llwybr Cwnwch – Dolgellau – addas ar gyfer pob oed, 2 filltir o’r bwthyn.

Llwybr y Mawddach – Dolgellau – addas ar gyfer pob oed – cerddwyr, beicwyr, a defnyddwyr cadeiriau olwyn, 2 filltir o‘r bwthyn.

Mynydd Cader Idris – tri phrif lwybr yn cychwyn o Ddolgellau (2 filltir), Minffordd(9 milltir) ac Abergynolwyn (18 milltir).

Llwybr Clywedog – Britheir – llwybr cerdded cymedrol hamddenol gyda’r afon, 6 milltir.

Llwybr Panorama – Bermo – addas ar gyfer pob oed, 8.5 milltir.

Beicio

Llwybr y Mawddach – fel uchod, 2 filltir.

Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau addas ar gyfer pob oed, 4 milltir (taith fer ar eich beic ar hyd ffyrdd gwledig).

Pysgota

Darllenwch fwy am yr ystod o gyfleoedd pysgota yma : opsiynau gwahanol ar gyfer pob oed.

Marchogaeth

Canolfan Merlota Bwlchgwyn – addas i unrhyw un dros 4 oed, 9.5 milltir.

Chwaraeon Dwr

Llyn Bala – hwylio, caiacio, gwynt fyrddio, adeiladu rafft, 19 milltir.

Canolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn, Canolfan Tryweryn – rafftio dwr gwyn, caiacio a chanwio, 23 milltir.